Un o Gymry Llundain yn ennill gwobr am actio'n Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Elan DaviesFfynhonnell y llun, Dave Benett
Disgrifiad o’r llun,

Elan Davies â'i gwobr yn y seremoni wobrwyo yn Llundain nos Sul 1 Hydref 2023

Actores a gafodd ei magu yn Llundain yw enillydd gwobr actio arbennig i berfformwyr ar ddechrau eu gyrfa, a hynny am ei rhan mewn drama Gymraeg.

Elan Davies yw enillydd y wobr Perfformiad Gorau mewn Drama yng ngwobrau'r Stage Debut eleni am ei rhan yn y ddrama Imrie; y tro cyntaf i'r wobr gael ei rhoi am ran yn y Gymraeg.

"Oedd y ffaith ges i'n enwebu yn y lle cynta', o'dd hwnna'n masif," eglurodd Elan ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, "ac i ennill hefyd, mae hwnna mor sbesial. Yn enwedig ei bod yn sioe Gymraeg.

"Y Stage Debut Awards ydi'r unig wobrau sydd yn dathlu pobl ar ddechrau eu siwrne mewn i'r diwydiant, felly i ennill gwobr... dwi'n teimlo'n ddiolchgar dros ben."

Drama yn apelio

Elan a Rebecca Wilson oedd yn actio dwy chwaer yn eu harddegau sydd yn ceisio ffeindio'u ffordd yn y byd yn nrama Imrie gan Nia Morais, mewn cynhyrchiad ar y cyd rhwng Frân Wen a Sherman Cymru.

Ffynhonnell y llun, Mark Douet
Disgrifiad o’r llun,

Rebecca Wilson ac Elan Davies yn Imrie

Er fod y ddrama yn Gymraeg, roedd capsiynau Saesneg ym mhob perfformiad, ac felly roedd hyn wedi ehangu apêl y sioe, gyda chynulleidfa di-Gymraeg hefyd yn gallu ei fwynhau, fel ei mam, eglurodd Elan.

Actio yn Gymraeg

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Llundain, roedd hi braidd yn nerfus ar ddechrau ymarferion y ddrama, meddai.

"O'dd e'n rili weird i fod yn onest. Roedd lot o ansicrwydd gyda fi i ddechrau yn dysgu'r geiriau Cymraeg. Roedd lot o eiriau roedd Nia Morais wedi ysgrifennu yn stwff am y môr, a geiriau o'n i byth wedi eu defnyddio; nes i dyfu lan yn siarad Cymraeg yn yr ysgol gynradd felly o'n i ddim yn defnyddio'r geiriau disgrifiadol hyn lot o'r amser.

"Ond roedd y tîm mor dda ac roedden nhw'n helpu fi lot gyda'r geiriau os o'n i'n ansicr o rywbeth."

Disgrifiad,

Elan Davies yn sgwrsio am ei llwyddiant ar Dros Frecwast

 hithau wedi ei magu yn Llundain, rhoddodd y sioe gyfle i Elan deithio'n helaeth o amgylch Cymru am y tro cyntaf, eglurodd.

"Mae Mam-gu a Tad-cu yn byw yng Nghaerdydd, felly ni draw yna am Nadolig bob blwyddyn. Ac mae gymaint o waith yng Nghymru felly dwi 'na eitha' lot.

"Ond gydag Imire, ges i fynd dros y wlad oedd yn neis, achos dwi ddim wedi gallu teithio lot o ogledd Cymru."

Mwy o actio llwyfan yw gobaith Elan nawr, ac mae hi hefyd yn gobeithio y bydd ei llwyddiant hi yn y gwobrau yn agor drysau i leisiau Cymreig eraill 'sydd yn cadw eu hunain yn y cefndir', a sydd fel hi, ddim wedi eu magu 'yn draddodiadol Gymraeg'.

Hefyd o ddiddordeb: