Hywel Gwynfryn i dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bydd Hywel Gwynfryn yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru am ei waith ym myd darlledu Cymraeg

Mae Hywel Gwynfryn wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru am ei waith ym myd darlledu Cymraeg.

Mae'r darlledwr adnabyddus o Ynys Môn wedi bod yn enw cyfarwydd ar radio a theledu yng Nghymru ers bron i 60 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, BAFTA Cymru

Mewn datganiad disgrifiodd BAFTA Cymru Mr Gwynfryn fel "darlledwr, saer geiriau ac awdur dylanwadol".

"Gellir gweld, clywed, a theimlo ei ôl ym mhob agwedd ar ddiwylliant poblogaidd Cymru."

Wedi'i eni yn Llangefni aeth Mr Gwynfryn i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dechreuodd ei yrfa gyda'r BBC ym 1964 a fe a gyflwynodd y rhaglen bop Gymraeg gyntaf, 'Helo Sut Dach Chi?' ym 1968.

Roedd ar flaen y gad wrth gyflwyno mewn arddull fwy sgyrsiol - arddull a oedd yn wahanol i'r Gymraeg mwy ffurfiol oedd yn aml i'w glywed ar y pryd.

Ym 1970 dechreuodd gyflwyno Bilidowcar - sioe deledu i blant - ac roedd yn rhan o dîm BBC Radio Cymru ers dechrau'r gwasanaeth ym 1977.

Bu'n gyflwynydd 'Helo Bobol' a rhaglen 'Hywel a Nia' a than yn ddiweddar bu'n darlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennodd Hywel Gwynfryn y ffilm 'Y Dyn 'Nath Ddwyn y 'Dolig' gyda Caryl Parry Jones ar gyfer S4C ym 1985

Roedd hefyd yn bresenoldeb amlwg ar y teledu gan gyflwyno rhaglenni materion cyfoes fel 'Heddiw' a 'Rhaglen Hywel Gwynfryn' ac ym 1990 cyflwynodd 'Ar Dy Feic' - rhaglen oedd yn dilyn hynt teuluoedd o Gymru wrth symud i fyw mewn gwledydd eraill.

Ysgrifennodd y ffilm 'Y Dyn 'Nath Ddwyn y 'Dolig' gyda Caryl Parry Jones ar gyfer S4C ym 1985, a fe hefyd a ysgrifennodd geiriau'r gân adnabyddus 'Anfonaf Angel'.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru dywedodd Hywel Gwynfryn fore Iau: "Dwi wedi llwyddo i ennill fy mywoliaeth ers trigain mlynedd yn siarad fy iaith fy hun, i fy mhobl fy hun, yn fy ngwlad fy hun, ac mae hynna'n dipyn o gamp am wn i yn dydi.

"Faswn i ddim yn gallu gwneud fy ngwaith heb y tîm o fy nghwmpas."

Wrth hel atgofion dywedodd: "Dyma John Roberts Williams yn gofyn 'Be ydi'r peth pwysicaf sydd gan unrhyw un sy'n holi? Enw. Rhaid i chdi gael ei enw fo'n iawn'."

"Gwrando - dyna ydi'r gyfrinach - mi wnei di ddysgu hynny wrth fynd ymlaen - gwrando ydi'r grefft."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Hywel Gwynfryn yn teithio ar draws y byd yn ystod ei yrfa. Yma mae'n eistedd gyda llwyth brodorol ger Borneo

Ychwanegodd: "Am y trigain mlynedd diwethaf, dwi wedi bod yn eistedd a gwrando ar bobl yn siarad â mi am bopeth dan haul.

"Dwi wedi teithio'r byd a chael tâl am gael amser bendigedig. A nawr dwi'n mynd i gael BAFTA. Does dim byd gwell na hynny.

"Y peth pwysig, a minnau'n 81 oed, yw 'mod i'n dal i fod yn egnïol, yn dal i ysgrifennu, darlledu, a chynhyrchu - ac mae hynny'n gymaint o fendith."

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: "Rydw i wrth fy modd i glywed bod BAFTA Cymru yn anrhydeddu Hywel Gwynfryn â Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni.

"Does neb wedi ymroi ei fywyd cymaint i ddarlledu Cymraeg nag ef. Ac yntau'n eicon ym myd darlledu Cymraeg, mae nid yn unig wedi ffurfio'r Radio Cymru sy'n gyfarwydd i ni heddiw ond wedi cyfrannu at gymaint o agweddau diwylliannol ar ein bywydau."

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i Hywel Gwynfryn yng Ngwobrau BAFTA Cymru ar 15 Hydref mewn seremoni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd.

Pynciau cysylltiedig