Y Bencampwriaeth: Middlesbrough 2-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Dael Fry a ymosodwr Caerdydd Kion EteteFfynhonnell y llun, Chris Booth/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Kion Etete yn ceisio maeddu Dael Fry am y bêl

Mae Caerdydd wedi dioddef eu colled gyntaf yn y Bencampwriaeth tymor yma ar ôl cael eu trechu 2-0 gan Middlesbrough nos Fawrth.

Caerdydd cafodd cyfle cyntaf y gêm gyda'r golwr Seny Dieng yn gorfod arbed ymgais Karlan Grant.

Ond Isaiah Jones sgoriodd y gôl gyntaf - ei gôl gyntaf mewn 11 mis - gan osod y bêl heibio i olwr Caerdydd, Jak Alnwick.

Daeth cyfle i Gaerdydd ddod a'r sgôr yn hafal, ond methodd Ollie Tanner rhoi'r bêl yn y rhwyd gan daro'r postyn.

Cafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau i Mansfield gan Emmanuel Latte Lath a lwyddodd i faeddu Manolis Siopis a Jak Alnwick cyn taro'r bêl i gefn y rhwyd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn disgyn allan o chwe safle uchaf y gynghrair.