Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Norwich City

  • Cyhoeddwyd
Bashir Humphreys yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bashir Humphreys yn dathlu'r gôl fuddugol

Fe lwyddodd Abertawe i ennill eu trydedd gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth, diolch i gôl hwyr Bashir Humphreys yn erbyn Norwich City.

Fe aeth yr Elyrch ar y blaen yn y munudau cyntaf wrth i'r ymosodwr Jamal Lowe grymanu'r bêl i gefn y rhwyd o ganol y cwrt cosbi wedi chwarae taclus gan Matt Grimes a Jamie Paterson.

Daeth yr ymwelwyr yn gyfartal wedi 22 o funudau, wrth i beniad Gabriel Sara hedfan dros ben y golwr Carl Rushworth ger y postyn agosaf.

Gyda llai na hanner awr yn weddill o'r gêm, bu'n rhaid i amddiffynnwr Cymru ag Abertawe, Ben Cabango, adael y cae oherwydd anaf.

Ac er i Norwich reoli'r chwarae yn yr ail hanner, y tîm cartref aeth ar y blaen diolch i ergyd Bashir Humphreys wedi 83 o funudau.

Methodd Norwich a chlirio'r bêl wedi cic gornel Abertawe o'r asgell chwith, fe adlamodd y bêl i gyfeiriad yr amddiffynnwr ifanc, wnaeth danio yn bwerus heibio'r dorf o chwaraewyr o'i flaen.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn codi i'r 15fed safle yn y Bencampwriaeth.

Bydd yr Elyrch yn wynebu Plymouth Argyle oddi cartref yn eu gem nesaf ar 7 Hydref.