Y rapiwr 50 Cent yn noddi crysau tîm pêl-droed o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm merched dan-14 yng Nghaerdydd wedi cyfaddef "nad oedd ei chwaraewyr yn coelio i ddechrau" mai'r rapiwr o America, 50 Cent, oedd wedi talu am eu crysau newydd.
Dywedodd Richie Brown bod aelodau carfan dan-14 AFC Tredelerch "mewn hwyliau da" a bod ei hysbryd yn dda ar ôl clywed am y gefnogaeth ariannol gan y seren o Efrog Newydd.
Enw go iawn 50 Cent yw Curtis James Jackson III.
Mae'n rapiwr, actor, cynhyrchydd teledu a dyn busnes llwyddiannus tu hwnt.
Mae'r cit newydd ar gyfer y tîm yn cynnwys y geiriau G-Unit/50 Cent mewn llythrennau bras.
G-Unit oedd y grŵp Hip-Hop a ffurfiodd 50 Cent gyda'i ffrindiau bore oes, Tony Yayo a Lloyd Banks.
Fe esboniodd Mr Brown wrth BBC Cymru bod tad un o'r chwaraewyr wedi gweithio gyda 50 Cent ar daith ddiweddar, sydd yn esbonio'r cysylltiad gyda thîm Tredelerch.
"Roedd tad un o'r merched yn gweithio gyda 50 Cent ar ei daith yn America a Chanada, yn y maes cynhyrchu llwyfan ac fe ofynnodd y cwestiwn, a fyddai'n fodlon noddi'r merched."
Yn ôl Mr Brown, roedd e wedi "synnu" pan ddaeth cefnogaeth ariannol o goffrau'r seren byd eang, er doedd e ddim yn gallu datgelu faint yn union a gyfrannwyd.
"Mae e wedi talu am git oddi cartref llawn a thracwisg i bawb... Mae'r gefnogaeth yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan rieni a chwaraewyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023