Gruff Rhys: Sioe laser yn 'brofiad ysgytwol'
- Cyhoeddwyd
Yn wahanol i'r disgwyl efallai, mae Gruff Rhys yn gobeithio am niwl a glaw ar gyfer ei berfformiad awyr agored newydd er mwyn gwella'r profiad i'r gynulleidfa.
Ers cyn y pandemig, mae wedi bod yn gweithio gydag artistiaid ar brosiect sy'n cyfuno sain a laser i greu profiad amlgyfrwng "trawiadol" yn un o gestyll Cymru.
Y bwriad gwreiddiol oedd perfformiad i ddathlu hanner canrif Glastonbury yn 2020 gan orchuddio'r dyffryn cyfan gyda goleuadau laser oedd yn cyd-fynd efo'r sain. Oherwydd Covid daeth y cynlluniau i ben - ond mae Caernarfon yn elwa gan fod y digwyddiad rŵan yn cael ei gynnal ddiwedd Hydref yng nghastell y dref.
'Profiad ysgytwol'
Er bod chwarae mewn safle "gweledol gyffrous" fel Castell Caernarfon yn "chwerwfelys" i'r Cymro oherwydd yr hanes, dywed bod hinsawdd Eryri yn berffaith ar gyfer perfformio Annwn gan fod y sioe oleuadau yn fwy effeithiol pan mae 'na niwl, cymylau a glaw.
Meddai Gruff Rhys wrth Cymru Fyw: "Be' sy'n gweddu i ddod a rhywbeth fel yma i Eryri mewn ffordd ydi'r hinsawdd a'r tywydd, mae'n rhywbeth sy'n gweithio'n well mewn niwl a glaw, felly os 'da ni'n lwcus fydd hi'n piso bwrw a'r hinsawdd yn cario'r golau - ond does wybod pa dywydd gawn ni.
"Dwi'n meddwl fydd o'n sioe drawiadol, ond arbrofol hefyd. Fydd o'n brofiad ysgytwol dwi'n meddwl. Mae'r enw Annwn yn cyfleu'r syniad mewn ffordd... mynd mewn i isfyd gwbl wahanol, realiti gwahanol. Creu profiad mewn ffordd yn hytrach na chyngerdd yn gwatchad rhywun yn canu."
Yr artist blaengar Chris Levine, sydd wedi arddangos yn y National Portrait Gallery yn Llundain ac wedi gweithio efo cerddorion fel Massive Attack a Grace Jones, sydd wedi creu'r sioe oleuadau.
Bydd ail-gymysgiadau o gerddoriaeth Gruff Rhys gan y dylunydd sain Marco Perry, sydd wedi gweithio efo Björk, yn chwarae'n barhaus drwy'r noson. Yn ystod y digwyddiad, bydd Gruff yn perfformio set electronig gydag elfennau byw, a'r gynulleidfa yn gallu symud o gwmpas y castell yn ystod y sioe.
'Dim fel gig ffurfiol'
Er mai gyrfa mewn cerddoriaeth mae Gruff wedi ei ddilyn, fe astudiodd celf ym Mangor, Manceinion a Barcelona, ac felly mae'r elfen weledol i'r sioe yn ei ddiddori.
Meddai: "Mae'n anarferol cael gwneud rwbath fel yma. Rhan fwya' o gigs dwi'n canu efo gitâr ar ben fy hun felly ma'n braf cael gwyliau bach o hynny a chael bod yn rhan o rwbath mwy. Dio ddim fel gig ffurfiol - fyddai ddim yn neud perfformiad mawr, fyddai jest yn y cefndir efo synths ac yn canu... felly mewn ffordd dim bwys cerddoriaeth pwy ydi o.
"Sgwennwr caneuon ydw i - dyna ydi'r ffordd dwi wedi ffeindio i fynegi petha' orau. Dwi'n mwynhau synfyfyrio dros betha' a sgwennu petha' yn raddol, mae'n rhywbeth alla i gymryd fy amser i neud a dod fyny efo syniadau gwirion ac mae 'na lot o gyfleoedd i fynegi petha gweledol ar gyfer y caneuon efo celf a ffilm a chydweithio efo artistiaid gweledol.
"Felly dwi dal yn gallu ymwneud efo petha' gweledol a dwi'n mwynhau gwneud hynny - ond o safbwynt rhywun sy'n sgwennu caneuon am wn i."
Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal rhwng 27-29 Hydref, yn gysylltiedig ag EdenLAB, prosiect sy'n cynhyrchu celf arbrofol i gysylltu pobl gyda'i gilydd a'r byd naturiol.
Yn ôl yr artist Chris Levine, y bwriad ydi defnyddio sain a golau i helpu pobl i ymgolli yn y foment, yn debyg i'r hyn oedd yn arfer digwydd gyda chanu salm-dôn Gregoraidd (Gregorian chant).
Meddai: "Os wyt ti'n ymdrochi ynddo, ti'n dechrau teimlo'n well achos dwyt ti ddim yn meddwl ynglŷn â beth ddywedodd y person yma wrthot ti, neu feddwl am dalu'r morgais - ti yn y foment.
"Mae'n bosib defnyddio synau i fynd i'r lle yna yn dy feddwl. Mae ein meddyliau ni mor brysur - ryda ni'n gallu deffro weithiau yn meddwl ein bod wedi cael gorffwys ond ryda ni wedi bod yn breuddwydio ac yn fwy blinedig na pan aethon ni i'r gwely. Dwi'n ymddiddori mewn defnyddio sŵn a golau i helpu pobl i fynd i le myfyriol."
Cyfle i arbrofi
I Gruff Rhys, sydd newydd ryddhau ei sengl newydd Celestial Candyfloss, mae Annwn yn gyfle iddo arbrofi - rhywbeth mae'n teimlo'r angen i'w wneud ar adegau.
"Mae 'na rhyw dynfa," meddai. "Dwi'n mwynhau gweithio efo melodi a thonnau cryf a chaneuon digon traddodiadol eu naws mewn ffordd felly dwi o hyd yn chwilio am ffyrdd i danseilio hynny.
"Os ydi petha'n mynd rhy saff dwi'n mynd yn rhwystredig a thrio tanseilio fo i gyd."
Hefyd o ddiddordeb: