Traciau Mwyaf Hanfodol Hip-Hop Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Gyda hip-hop yn dathlu hanner canrif eleni, mae'n gyfle i nodi bron i 40 mlynedd o'r genre o fewn y sin roc Gymraeg.

Yr awdur Llwyd Owen, cyflwynydd rhaglen radio Neud Nid Deud am hanes y gerddoriaeth, sy'n dewis 10 trac sy'n adlewyrchu'r sin.

Er bod y gerddoriaeth wedi cyrraedd y brif ffrwd erbyn hyn mae'n dweud bod ei ddewis yn cynrychioli "cyfoeth sonig yr isfyd annisgwyl ac amrywiol hwn, sydd wedi llechu yng nghysgodion y sin roc Gymreig ers bron i bedwar degawd".

Cliciwch ar y lincs yn y darn i gael blas ar y gerddoriaeth. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.

1. Llwybr Llaethog – Dyddiau Braf (Rap Cymraeg)

Ffynhonnell y llun, Recordiau Anhrefn
Disgrifiad o’r llun,

Record hanesyddol... Dyddiau Braf (Rap Cymraeg) ydi ail gân ar ochr A y 7" yma

Mae’r cyfan yn cychwyn gyda’r gân Dyddiau Braf (Rap Cymraeg) gan Llwybr Llaethog, a gafodd ei chynhyrchu yn 1984 a’i rhyddhau ar record 7” (Dull Di-Drais) trwy Recordiau Anhrefn yn 1986.

Cafodd John Griffiths ei ysbrydoli gan ymweliad ag Efrog Newydd, lle gwelodd DJ-Red Alert yn troelli, crafu a jyglo recordiau mewn hen rinc sglefrio, ac er bod John a Kevs wedi mynd ymlaen i gynhyrchu nifer o ganeuon gwell na hon, mewn ystod o genres gwahanol dros y blynyddoedd, Dyddiau Braf yw conglfaen hip-hop Cymraeg ac, o ganlyniad, mae’n gân gwbl anhepgorol o’r rhestr hon.

2. Tystion – Tryweryn

Ffynhonnell y llun, Tysion/Ankstmusik
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tryweryn yn un o 16 trac ar ail albym Tystion - Shrug Off Ya Complex

Does dim amheuaeth mai Tystion yw cewri’r byd hip-hop Cymraeg, gyda goruchafiaeth y band yn para am yn agos at ddeg mlynedd, yn gyntaf fel triawd (Steffan Cravos, Gruff Meredith, Curig Huws), cyn ehangu i gynnwys MC Chef, DJ-Jaffa a Clancey Pegg. Gan ddefnyddio curiadau caled, samplo cywrain a geiriau cignoeth i herio’r gyfundrefn a galw ar y Cymry i ddihuno o’n trwmgwsg casgliadol, mae cerddoriaeth y band mor berthnasol heddiw ag erioed.

Gyda thri LP, cwpwl o sesiynau John Peel a llond llaw o senglau ac EPs ar gael, erfynnaf arnoch i agor eich clustiau a gwrando ar y Tystion yn siarad y gwir i bŵer. Gyda degau o draciau i ddewis ohonynt, roedd hi’n anodd dethol dim ond un, ond mae Tryweryn yn ymgorffori popeth rwy’n caru am y Tystion – curiadau ffres, cynhyrchu craff, hiwmor, hanes, hunaniaeth... a rhai o gwpledi gorau hip-hop Cymraeg.

Os chi’n hoffi hon, gwrandewch ar Byw ar y Briwsion, dolen allanol, Diwrnod Braf, dolen allanol, Gwyddbwyll , dolen allanol, Y Byd Cymraeg v Y Byd Hip-Hop, dolen allanol, a’r medlai yma o fideos a gafodd ei recordio i Garej yn 1998, dolen allanol.

3. MC Mabon – XR3i

Ffynhonnell y llun, MC Mabon/Ankstmusik

Gadawodd G-Man (Gruff Meredith) y Tystion yn 1999 er mwyn rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw MC Mabon, gan fynd ymlaen i ryddhau deg albwm yn ystod degawd cyntaf y ganrif newydd. Fy ffefryn personol yw Mr Blaidd, sef record hir gyntaf y cerddor o’r Bala, ac mae’r trac XR3i yn dal i swnio’n wych heddiw, chwarter canrif yn ddiweddarach.

Gwrando pellach:

Lo-Cut a Sleifar - CF5, dolen allanol

MC Mabon – Be Di Be, dolen allanol

4. Pep le Pew - Y Mwyafrif

Ffynhonnell y llun, Pep Le Pew
Disgrifiad o’r llun,

Mae Y Mwyafrif ar LP cyntaf Pep le Pew - Y Da, Y Drwg ac Yr Hyll

Does dim amheuaeth mai Aaron Elias yw perchennog un o leisiau mwyaf unigryw ac eiconig hip-hop Cymru a, diolch i’w fand, Pep le Pew, mae ei le ym mhantheon y mawrion yn ddiogel.

Rhyddhawyd sengl gyntaf y band (Y Mwyafrif) ar label Steffan Cravos, Fitamin Un, cyn i’r band (oedd hefyd yn cynnwys Ed Holden a Dyl Mei) fynd ymlaen i ryddhau dau LP hollol wych (Y Da, Y Drwg ac Yr Hyll ac Un Dydd yn y Gorllewin) cyn chwalu yn 2005.

Aeth rhai aelodau o Pep le Pew ymlaen i ffurfio’r Genod Droog, tra aeth Aaron i fyw mewn ogof yn Andalucia.

Gwrando pellach:

Y Diwygiad – Paneidiwch, dolen allanol

Dybl-L – Y Cam Nesaf, dolen allanol

5. Cofi Bach a Tew Shady – Triwch Hi Ar

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Working class scumbag o Gaernarfon ydw i...” yw geiriau agoriadol y gân yma, gan superstar cyntaf y sin hip-hop Cymraeg, Cofi Bach, cyn iddi fynd ati i ddyrchafu’r genre yn gwbl ddiymdrech dros gwpwl o EPs ac un albwm hollol wych. Gyda chymorth ei chynhyrchydd blaenslaes broliwr, Tew Shady, newidiwyd y gêm gan gynnwys cignoeth eu caneuon.

Yn wahanol i’w cyfoedion a’u rhagflaenwyr, nid sefydliadau, y gyfundrefn, cyfalafiaeth neu hanes a chwedloniaeth Cymru oedd ffocws eu cerddoriaeth, ond yn hytrach tlodi, iechyd meddwl, hunan-laddiad a thrais domestig. Nid oedd Cymru wedi gweld na chlywed unrhyw un fel Cofi Bach o’r blaen... nac ers hynny, a dweud y gwir.

Gwrando pellach:

MC Saizmundo - Terri a Huw, dolen allanol

Cofi Bach a Tew Shady – Isho Bod yn Rhywun, dolen allanol

Amheuthun ac Aaron Elias – Juice, dolen allanol

6. Sleifar a’r Teulu – Yn Cynrychioli

Ffynhonnell y llun, Sion Mali/Lleucu Meilir
Disgrifiad o’r llun,

Recordio Yn Cynrychioli yn stiwdio Maida Vale y BBC yn Llundain

Dyma benllanw degawd MC Sleifar (Steffan Cravos) ar frig y sin hip-hop Cymraeg. Dathliad a chiplun o’r byd hip-hop Cymraeg ar yr union eiliad yma yn 2004. Gwahoddiad gan John Peel i recordio sesiwn yn Maida Vale, er na gafodd y DJ dylanwadol gyfle i glywed y gân, oherwydd y bu farw cyn i’r opws gael ei recordio.

Yn ystod y gân epig, gallwch glywed lleisiau Aaron Elias, Mr Phormula, John Griffiths, Cofi Bach, Tew Shady, Cynan Llwyd (Kenavo), MC Chef a Sleifar ei hun, tra bod Dyl Mei ar y troellfyrddau ac yn cynhyrchu.

Dros gyrn milwrol fydd yn siŵr o chwythu tympanau eich clustiau, mae pawb yn cyfrannu yn eu ffyrdd unigryw eu hunain, er nad oes neb cweit yn ei hoelio hi mor galed â Tew Shady, sydd yn poeri tân fel draig flin. Wow!

Gwrando pellach:

Kenavo - Meibion G yn y BBC, dolen allanol

Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady – Dwb, dolen allanol

7. Genod Droog – Gig Mawr y Gofod

Ffynhonnell y llun, Genod Droog
Disgrifiad o’r llun,

Gallwch wrando ar Gig Mawr y Gofod ar Ni Oedd y Genod Droog, unig LP y band

Roedd y Genod Droog yn hiwj yn ail hanner y dim-dimau. O ludw Pep le Pew, cododd y band fel ffenics ffynci gyda’i fryd ar gael parti, gan fynd ymlaen i hedleinio Maes B, Sesiwn Fawr Dolgellau a Pesda Roc, heb sôn am groesi’r ffin a pherfformio yn Electric Proms y BBC.

Un LP ryddhaodd y band... a hynny ar ôl iddynt chwalu. Ond am albwm! Dyma fy hoff gân oddi arni, yn bennaf oherwydd y llinell fas a’r rhyng-chwarae geiriol rhwng Mr Phormula ac Aneirin Karadog ar y mic. Dyma fand oedd ag un llygad ar y brif ffrwd, a’r llall ar brynu gormod o falŵns a gliter. Anfarwol.

Gwrando pellach:

Llwybr Llaethog a Rufus Mufasa - Rhagfarn, dolen allanol

Genod Droog a Cate le Bon – Breuddwyd Oer, dolen allanol

8. Mr Phormula – Y Lleiafrifol

Ffynhonnell y llun, Mr Phormula

Ed Holden, AKA Mr Phormula, yw pencampwr pwysau trwm diamheuol hip-hop Cymraeg... cyn-aelod o Pep le Pew, Genod Droog a’r Diwygiad, ac artist solo uchel ei barch bellach, yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dyma unigolyn sydd wedi concro’r byd beatbocsio, dolen allanol, sy’n teithio’r wlad yn addysgu plant Cymru am hip-hop (mae Dom a Lloyd yn cofio Mr Phormula yn ymweld â’u hysgolion nhw!), ac sy’n cydweithio gyda phawb, o 3hree 8ight, Dybl-L a Martin Kinnear yng Nghymru, i Deadalus, Akil The MC (o’r band Jurassic 5, dolen allanol a Guilty Simpson yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd ei sengl ddiweddar, Safe Bet, dolen allanol, ei chwarae ar raglen radio neb llai na Chuck D, dolen allanol tra fod pob un o’i albymau yn hollol wych, yn enwedig Llais / Voice, dolen allanol, a gafodd ei recordio’n defnyddio dim ond synau a ddaeth allan o geg Ed! Rhyfeddol. Fy hoff gân i o’i ôl-gatalog yw Y Lleiafrifol, oddi ar ei LP cyntaf, Cymud, dolen allanol, yn bennaf oherwydd y samples gwych, ond hefyd oherwydd bod yn gân yn arddangos sgiliau poeri anghyffyrddadwy y dyn ei hun.

Gwrando pellach:

Hanner Pei a Mr Phormula - Does Dim Gair Cymraeg am Random, dolen allanol

Rufus Mufasa - Dyletswydd Gofal, dolen allanol

Hoax MC a Mr Phormula – Cau Dy Geg, dolen allanol

9. 3 Hwr Doeth – Ma Nain Fi’n Wech Na Nain Chdi

Ffynhonnell y llun, Carl Tango Jones/Recordiau Noddfa
Disgrifiad o’r llun,

Hip Hip Hwre, ail LP y band, sy'n cynnwys y trac Ma Nain Fi'n Wech Na Nain Chdi

Mae’r grŵp myglyd a mygydog o Gaernarfon, o dan arweiniad y cynhyrchydd athrylithgar, Brochwel Ysgithrog, wedi rhyddhau dau LP ers 2017, sef Pasta Hull Presents..., dolen allanol a Hip Hip Hwre, dolen allanol, gan gyfuno offeryniaeth byw, samplau lleddf, straeon doniol o fywydau bob dydd yr aelodau, a sylwebaeth cymdeithasol a gwleidyddol craff, deifiol a chignoeth, i greu ôl-gatalog o ganeuon anghymarol ym myd hip-hop Cymraeg.

Ma Nain Fi’n Wech Na Nain Chdi yw fy hoff gân gan yr Hwrs, er bod eu halbymau yn bolio â pherlau cofiadwy, ill oll yn ffrwyth llafur y Buarth.

Ar ôl ymgyfarwyddo â byd y band, gwyliwch y sesiwn byw hwn, dolen allanol, sy’n atgoffaol o’r Beastie Boys yn eu pomp. Achw!

Gwrando pellach:

Eadyth ac Izzy - Cymru Ni, dolen allanol

Boi Na a’r Arch Hwch – Gigs, dolen allanol

Sywel Nyw a Lauren Connelly – 10/10, dolen allanol

10. Dom a Lloyd – Pwy Sy’n Galw?

Ffynhonnell y llun, Lloyd a Dom James

Dyma’r trac a lusgodd hip-hop Cymraeg, o’r diwedd, i’r brif ffrwd, diolch i gynhyrchu llyfn Don The Prod, a lleisiau cyfaddas a phersonoliaethau cynnes Dom James a Lloyd Lewis.

Mae cwpwl o senglau ac EP, dolen allanol wedi dilyn, ac mae pawb yn aros yn eiddgar am eu halbwm cyntaf. Dw i ’di bod yn ddigon ffodus i weld Dom a Lloyd yn perfformio’n fyw lond llaw o weithiau, ac mae’r ymateb bob tro yn rhyfeddol, gyda phobl o bob oed yn sgrechian a chanu a begian am hun-luniau gyda’r rapwyr.

Ynghyd ag artistiaid eraill - fel Sage Todz, dolen allanol, Lemfreck , dolen allanol, Gwcci, dolen allanol, Eadyth ac Izzy, dolen allanol a Skylrk , dolen allanol - mae’r ystod a’r amrywiaeth o is-genres hip-hop (drill, grime, post-dubstep, horror-core) yn amlycach nag erioed, a gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru’n dewis O Hyd, dolen allanol gan Sage Todz fel cân swyddogol Cwpan y Byd Qatar 2022, ac Undeb Rygbi Cymru’n dewis I’r Gad, dolen allanol gan Gwcci ar gyfer ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd 2023, mae cyrhaeddiad hip-hop Cymraeg yn ehangach nag erioed.

  • Gwrandewch ar Neud Nid Deud, stori hip-hop Cymraeg, efo Llwyd Owen ar BBC Sounds