Adolygu euogfarn llofruddiaethau Russell

  • Cyhoeddwyd
Lin a Megan RussellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lin a Megan Russell ychydig fisoedd wedi iddyn nhw symud o Ddyffryn Nantlle i Gaint

Mae euogfarnau Michael Stone am lofruddiaethau Lin Russell a'i merch Megan, yng Nghaint yng Ngorffennaf 1996, yn mynd i gael eu hadolygu.

Bydd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CAAT) yn edrych ar dystiolaeth eto, dri mis ar ôl i adolygiad blaenorol ddiystyru anfon yr achos i'r Llys Apêl.

Mae'r penderfyniad yn dod wedi i'r llofrudd Levi Bellfield - sydd yn y carchar am oes am lofruddio tair merch, gan gynnwys y ferch ysgol Millie Dowler - gyfaddef mai ef oedd llofrudd Lin a Megan Russell, yn ôl cyfreithiwr.

Mae Stone wedi'i ddedfrydu i dair dedfryd oes.

Mewn datganiad dywedodd y CAAT fod "adolygiadau blaenorol heb ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth neu ddadleuon credadwy a gododd y posibilrwydd gwirioneddol o ddileu'r euogfarnau. Nid yw'r adolygiad newydd yn effeithio ar y casgliadau hyn."

Roedd Lin Russell yn cerdded adref o'r ysgol gyda'i phlant ar hyd lôn wledig yn Chillenden, ar ôl symud i fyw yno o Ddyffryn Nantlle, pan ymosodwyd arnyn nhw.

Bu farw Ms Russell, 45, a'i merch chwe blwydd oed, Megan, ond fe oroesodd Josie Russell, a oedd yn naw mlwydd oed ar y pryd.

Mae Stone wedi mynnu'n gyson ei fod yn ddieuog, er i ddau reithgor - yn 1998 ac yn 2001 - benderfynu i'r gwrthwyneb.

Michael Stone
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Stone wedi ei gael yn euog mewn dau achos llys ond mae'n mynnu nad ef yw'r llofrudd

Ym mis Gorffennaf, dywedodd y CAAT nad oedd "unrhyw bosibilrwydd gwirioneddol" y byddai'r Llys Apêl yn dileu ei euogfarnau

Ond yn dilyn y cais diweddaraf dywedodd y CAAT: "Rydym wedi derbyn cais gan gynrychiolwyr Mr Stone i gynnal adolygiad pellach.

"Tra na allwn wneud sylw ar fanylion ymchwiliad, nid yw'n anarferol i wahanol adolygiadau ganolbwyntio ar wahanol ddadleuon neu dystiolaeth.

"Mae ein hymrwymiad i ymchwilio'n drylwyr i bob cais cymwys yn ymestyn i wneud gwaith ychwanegol yn ymwneud ag achosion rydym wedi'u hadolygu'n flaenorol."

Pynciau cysylltiedig