Dynes 37 oed wedi marw wedi 'damwain' mewn clwb rygbi
- Cyhoeddwyd
![Clwb Rygbi Beddau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1655/production/_131371750_mediaitem131371749.jpg)
Roedd y clwb ar gau ddydd Sul wedi'r digwyddiad
Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dynes wedi'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "damwain ofnadwy" mewn clwb rygbi nos Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glwb Rygbi Beddau am tua 22:10 yn dilyn adroddiadau o argyfwng meddygol.
Cafodd dau ambiwlans eu hanfon i'r safle, ond bu farw'r ddynes 37 oed.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth ac mae ymholiadau'r heddlu i'r digwyddiad yn parhau.
Fe gadarnhaodd Clwb Rygbi Beddau bod "damwain ofnadwy" wedi digwydd, ond doedden nhw ddim am wneud sylw pellach.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad, a bod ymchwiliad i'r amgylchiadau'n parhau.