'Cyfnod erchyll' i deulu ar ôl anafiadau 'catastroffig' i fam

  • Cyhoeddwyd
Cath BrynachFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn, 74, wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am achosi gwrthdrawiad a newidiodd fywyd Cathrin Brynach am byth

Tair blynedd yn ôl, cafodd Cathrin Brynach anafiadau a oedd yn bygwth ei bywyd o ganlyniad i wrthdrawiad tra'n cerdded ar hyd y palmant yn agos i'w chartref yn Nhreganna, Caerdydd.

Fis Awst 2023 cafodd Geoffrey Armstrong, 74, ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am yr hyn ddigwyddodd.

Clywodd y llys ei fod wedi cael ffit epilepsi tra'n gyrru a'i fod wedi anwybyddu cyngor meddygol i beidio â gyrru.

Mewn erthygl arbennig i Cymru Fyw, mae gŵr Cathrin, Siôn Brynach, yn sôn am brofiad y teulu dros y cyfnod ers y digwyddiad, a'r effaith y cafodd arnynt i gyd.

Roedd 20 Hydref 2020 yn ddiwrnod digon cyffredin - o ystyried ein bod dal yng nghyfnod clo Covid-19.

Roedd Cath a fi wedi cael cinio gyda'n gilydd, gan ein bod ni'n dau yn gweithio o adref, a soniodd Cath y byddai'n picio allan i'r siopau lleol i brynu rhywbeth i swper.

Pan gyrhaeddodd y plant adref o'r ysgol, y cwestiwn oedd "Lle mae Mam?" "Dwi ddim yn siŵr - ond dyw hi ddim yn bell", oedd fy ateb.

Am 16:50 daeth cnoc ar y drws. Dau heddwas oedd yno felly rhedodd y plant i fyny i'r llofft lle'r oeddwn yn gweithio i ddweud bod y ddau eisiau siarad gyda fi.

"Ai chi yw Siôn Brynach, gŵr Cathrin Brynach?"

"Ie," meddwn i.

"Gawn ni ddod i mewn?" - cais annisgwyl yn y dyddiau hynny o gyfyngiadau'r pandemig.

Holwyd am air preifat - gyda'r plant i gyd yn eistedd ar y grisiau y tu allan i'r lolfa.

"Mae Cath wedi bod mewn gwrthdrawiad ym Market Road, a fedrwn ni ddim pwysleisio digon pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa."

"Sut allai hi fod wedi cael anafiadau mor ddifrifol wrth gerdded ar balmant mewn ardal cyflymdra isel?"

"Fedrwn ni ddim dweud mwy - mae 'na ymchwiliad i drosedd ar y gweill."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Siôn a Cathrin Brynach - gyda'u plant Pwyll, Mali, Amig a Mael - yn Arizona yn 2023

Penbleth llwyr. Rhaid oedd dweud wrth y plant.

Yn naturiol roedd pawb eisiau dod i weld Mam, ond dim ond fi a gafodd fynd yng nghefn y fan heddlu dan olau glas, a gyda'r seiren yn rhuo, draw i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Bu'n fisoedd lawer cyn i'r stori am y gwrthdrawiad ddod yn fwy clir.

Cath yn ddifrifol wael

Wedi cyrraedd adran frys yr ysbyty, cicio fy sodlau fum i wedyn am ddwy awr, cyn cael unrhyw newyddion am gyflwr Cath.

O'r diwedd daeth dau lawfeddyg i siarad 'da fi, gyda'r newyddion brawychus bod Cath yn ddifrifol wael.

Roedd wedi dioddef anafiadau catastroffig i'w choes dde, anafiadau difrifol i'w choes chwith, wedi torri ei phelfis mewn pedwar lle, wedi torri sawl asgwrn yn ei chefn ac wedi torri ei phenglog.

Bu'n rhaid torri ei choes dde i ffwrdd yn llwyr, uwchben y pen-glin, y noson honno er mwyn achub ei bywyd.

Bu yn yr adran gofal dwys, mewn coma, am dros wythnos, gan ymweld â'r theatr dair gwaith i gyd ar gyfer triniaethau gwahanol. Cafodd ddwy driniaeth bellach wedi hynny.

Mae Cath yn cofio'r gwrthdrawiad yn glir iawn a'r holl bobl a ddaeth i'w helpu, yn cynnwys meddyg teulu a oedd yn digwydd cerdded heibio, ond hyd yma bu dim cyfle i ddiolch iddynt.

Ond 'dyw hi ddim yn cofio'r meddyg argyfwng a ddaeth yno ar frys gyda hofrennydd ac a achubodd ei bywyd.

Nid damwain - ond trosedd

Roedd gyrrwr a oedd wedi neidio i'w fan y tu allan i ganolfan gelfyddydol Chapter, wedi methu â stopio ar y gyffordd â Market Road.

Fe darodd ar wib i mewn i gar a oedd wedi parcio gyferbyn ac fe wnaeth hwnnw yn ei dro wasgu Cath yn erbyn mur adeilad.

Honnai'r gyrrwr nad oedd yn cofio'r gwrthdrawiad a dywedodd rhai o'r rheiny a oedd wedi rhuthro i helpu Cath iddynt neidio i mewn i'r fan a chymryd allweddi'r cerbyd oddi wrtho.

Bu'n ddwy flynedd a saith mis cyn iddo ddod o flaen ei well. Dim ond ar y funud olaf y plediodd yn euog, ar gyngor ei dîm cyfreithiol.

Daeth yr achos troseddol yn ei erbyn i ben ar 4 Awst eleni, ac yn Llys y Goron Caerdydd fe ddedfrydwyd Geoffrey Armstrong o Fedwas i ddwy flynedd o garchar.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Siôn Brynach bod y teulu wedi ymdopi yn rhyfeddol wedi "cyfnod erchyll"

Yn ei ddyfarniad mynnodd y barnwr nad damwain anffodus oedd hyn, ond trosedd.

Wrth ddedfrydu ychwanegodd y Barnwr David Wynn Morgan bod methiant Armstrong i beidio â datgelu ei gyflwr meddygol yn "hunanol".

Clywodd y llys ei fod wedi bod yn siarad â'i feddyg am "ddigwyddiadau o 20 eiliadau nad oedd yn llwyr ymwybodol" a bod ymgynghorydd yn 2018 wedi cyfeirio at y posibilrwydd ei fod yn dioddef o epilepsi a bod yn rhaid iddo gael cyfnod o flwyddyn heb ffit cyn y byddai'r DVLA yn caniatáu iddo yrru.

Ond heb yn wybod i'w feddygon doedd Armstrong erioed wedi cysylltu â'r DVLA.

Ychydig wythnosau yn unig ar ôl taro i mewn i Cath, dringodd i mewn i gar eto, gan beri damwain arall - y tro hwnnw heb beri anafiadau i neb diolch byth.

Cymaint oedd edmygedd y barnwr o benderfyniad Cath i ddod i'r gwrandawiad yn bersonol er mwyn darllen ei datganiad yn amlinellu'r effaith a gafodd y gwrthdrawiad arni nes iddo ei gwahodd i'w siambrau ar ddiwedd yr achos i ddiolch iddi am ddod i'r llys.

Cyfnod erchyll ond gwyrth o fath

Bu misoedd olaf 2020 a misoedd cyntaf 2021 yn erchyll.

Ar ôl tair wythnos yn yr ysbyty daeth Cath adref mewn cadair olwyn i dŷ teras o oes Fictoria cwbl anaddas.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Cathrin orchudd addas i'w choes ar gyfer ymweld â'r Eisteddfod - dyma hi gyda Mark Williams, sylfaenydd cwmni Limb-Art yn Ninbych

Ym mis Chwefror 2021 y daeth y llygedyn cyntaf o oleuni, gydag wythnos breswyl yng nghlinig Dorset Orthopaedics yn Burton-on-Trent.

Mae hwnnw bellach yn hynod gyfarwydd i ni ac rydym wedi gyrru dros 12,000 o filltiroedd ychwanegol hwnt ac yma i Burton-on-Trent dros y tair blynedd ddiwethaf.

Ar yr ymweliad cyntaf hwnnw, gwthiais Cath i mewn i'r clinig mewn cadair olwyn GIG ar y bore Llun, a phan es i a'r plant i'w chasglu brynhawn Gwener, roedd hi'n cerdded i lawr y coridor heb unrhyw gymorth o gwbl ar goes brosthetig newydd.

Roedd y cyfan yn wyrth o fath - ac wedi digwydd diolch i'n cyfreithwyr rhagorol Michael a Sophie, a chymorth ein rheolwr achos, Jenny, a oedd wedi trefnu'r ymweliad, a darbwyllo cwmni yswiriant y gyrrwr i dalu'r costau.

Pob cam yn frwydr

Dechrau'r frwydr fu hynny mewn difri', a dros y tair blynedd ddiwethaf mae pob cam wedi bod yn frwydr - o gael tocyn glas ar gyfer pobl anabl i ddarbwyllo'r DWP bod angen taliadau PIP ar Cath.

Mae fy edmygedd o ystyfnigrwydd Cath, a dyfalbarhad y plant yn ddi-ball.

Maent oll wedi bod yn anhygoel, gyda Pwyll bellach yn tynnu tua diwedd ei gyfnod yn hyfforddi i fod yn beilot masnachol, Mali wedi cael canlyniadau lefel A rhagorol ac yn parhau â'i hastudiaethau yn y brifysgol ac Amig a Mael wedi dal ati yn anhygoel trwy gyfnod hynod drallodus.

Maen nhw'n dweud y dylem ni siarad o'n creithiau yn hytrach na'n clwyfau, ond hyd yn oed dair blynedd yn ddiweddarach, mae'r creithiau yn rhai dyfnion iawn o hyd.

Mae gennym sinigiaeth ddofn ynghylch holl systemau'r wladwriaeth, ond yr hyn sy'n aros yw caredigrwydd a dycnwch unigolion sydd wedi'n cynnal ar hyd y daith. Diolch amdanynt.

Pynciau cysylltiedig