Ifan Phillips: Positifrwydd yn dilyn cyfnod heriol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Ifan ei fod yn lwcus iawn o gael teulu a ffrindiau oedd yn gefnogol wedi'r ddamwain

Ym mis Rhagfyr 2021 fe newidiodd bywyd bachwr ifanc y Gweilch, Ifan Phillips, wedi iddo gael anaf ddifrifol yn dilyn damwain beic modur.

Collodd Ifan ei goes dde yn y ddamwain, a gyda hynny daeth diwedd ar ei yrfa rygbi broffesiynol. Roedd wedi ennill capiau i dîm dan 20 Cymru ac wedi gwneud enw i'w hun yn nhîm y Gweilch.

Bydd rhaglen arbennig ar S4C ar nos Iau, 28 Medi, Y Cam Nesaf, yn dilyn hanes Ifan wrth iddo addasu i'w fywyd newydd wedi'r ddamwain.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag Ifan i glywed, yng ngeiriau ei hun, sut brofiad oedd recordio'r rhaglen, a'r siwrne emosiynol mae wedi bod arni dros y ddwy flynedd diwethaf.

'Bach o roller coaster'

"Fel allech chi ddychmygu odd e'n bach o roller coaster i fod onest. Ar y dechre roedd e'n neis cael bach o bwrpas ac roedd e'n gyffrous achos roedd proses 'da fi i gael y goes prosthetig am y tro cyntaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Ifan ei gêm gyntaf i'r Gweilch yn 2017, wedi cyfnod yn chwarae i Cwins Caerfyrddin

"Ond o'dd, ro'dd e'n gallu bod yn anodd achos dwi'n cofio ar un adeg do'dd y goes prosthetig ddim yn gweithio'n iawn, ac o'n i'n cael llawdriniaeth ar y goes chwith ac yn gwisgo brace ar honno."

Rhoi ffydd i eraill

Yn ogystal â cholli ei goes dde, cafodd Ifan nifer o driniaethau ar ei goes chwith, gan ganolbwyntio ar ail-adeiladu ei ben-glin.

"O'n i ffili rhoi pwysau ar y goes chwith ac methu defnyddio'r goes prosthetig oherwydd hyn, felly am dair neu bedair wythnos ac o'n i'n styc yn y gader olwyn. Yr adeg yna y peth ola' o'n i mo'yn o'dd camera yn fy ngwyneb i.

"Ond ar y cyfan roedd e'n broses hwylus iawn, a rwy'n gobeithio fydd pobl yn joio fe ac allith rywun gael rhyw ffydd mas o fe."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ifan yn ei gartref

Ers y ddamwain bron i ddwy flynedd yn ôl, mae wedi bod yn siwrne emosiynol i Ifan gyrraedd y pwynt ble y mae heddiw.

"Ar y dechre, yn y cyfnod cynnar 'na, roedd pethe'n dywyll iawn arna' i - o'n i methu gweld gole ar ddiwedd y twnnel.

"O'n i mewn lot o boen ac yn cymryd lot o feddyginiaeth a thabledi. Doedd gen i ddim coes prosthetig, ac o'n i'n teimlo fel burden mwy na dim byd.

"Doedd gen i ddim fy annibyniaeth achos o'n i methu cerdded o gwmpas, ac o'n i'n gorfod dibynnu lot ar bobl eraill. Roedd e'n tough iawn."

Ffynhonnell y llun, S4C

"Ond dwi'n ddiolchgar iawn am y criw oedd rownd fi o'dd yn gallu fy helpu - mam a dad, y teulu i gyd, a ffrindiau agos. 'Nath hwnna wneud y broses lot fwy rhwydd i fi."

Roedd tad Ifan, Kevin Phillips, yn chwarae dros Gastell-nedd ac fe enillodd 20 o gapiau dros Gymru rhwng 1987 ac 1991.

"Erbyn hyn dwi'n byw ben fy hunan, yn annibynnol, ac mewn lle lot gwell nawr. Mae'r goes prosthetig 'ma genna i a rwy mo'yn clatsio bant a mwynhau bywyd."

Adennill ei annibyniaeth

Cafodd Ifan gymorth gan ranbarth y Gweilch er mwyn addasu i'w fywyd newydd ac adennill ei annibyniaeth.

"Roedd y Gweilch yn wych i fod yn deg. 'Nathon nhw sorto mas bo fi'n cael y llawdriniaeth ar y goes chwith, ac o'dd y criw strength and conditioning yn helpu i ddod â'r peiriant ffitrwydd 'ma i i'r tŷ, lle alla i ei ddefnyddio o'r gader olwyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ifan yn chwarae yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Liberty, 24 Ebrill, 2021

Sylwebu ar S4C

Yn ddiweddar mae Ifan wedi bod yn sylwebu ar Y Clwb Rygbi ar S4C, a drwy wneud hyn mae'n gallu cadw cyswllt â'r byd rygbi.

"Fi 'di bod yn lwcus iawn mod i 'di cael y cyfle i wneud hynny achos mae e'n galluogi fi i dal fod yn agos gyda rygbi. Dwi'n really mwynhau gwneud e a dwi'n gobeithio alla i barhau i wneud e os fydd S4C yn barod i gael fi."

Ffynhonnell y llun, S4C

"Mae fy rhieni 'di bod yn wych ac mor gefnogol. Unrhyw beth sydd angen arna' i neu os dwi angen lifft i rywle, dim ond un galwad sydd angen."

Weithiau'n meddwl 'be os...?'

Gyda charfan Cymru'n cystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd ar hyn o bryd, fe all Ifan ei hun fod wedi bod yno, o ystyried gymaint oedd hyfforddwyr a gohebwyr rygbi'n meddwl ohono tra roedd yn chwarae.

Byddai cyrraedd y bencampwriaeth eleni wedi bod yn deyrnged deuluol, gyda Kevin ei dad yn aelod o garfan Cymru yng Nghwpan Y Byd 1987.

"Fel 'na ma'n mynd", meddai Ifan. "Alla i ddim dweud bod fi'n dwellio gormod am y peth achos allet ti slipo mewn i dwll eitha' gwael os ti'n meddwl fel'na. Ie, falle os bydde amode wedi bod bach yn wahanol pwy a ŵyr falle fyswn i mas na'n whare."

Ffynhonnell y llun, S4C

"Just cyn y ddamwain o'n i mewn lle ble o'n i'n really mwynhau fy rygbi, yn chwarae'n eitha' rheolaidd gyda'r Gweilch. Ges i fy ngalw lan i ymarfer gyda thîm Cymru cwpl o wythnose cyn hynny, ond dwi'n trio peidio gwario amser yn meddwl am pethe fel'na. Dwi dal yn mwynhau watchio'r bois yn chwarae mas yn Ffrainc."

Positifrwydd i'r dyfodol

Ond mae Ifan yn bendant mai positifrwydd yw'r ffordd 'mlaen, ac ei fod yn benderfynol o fyw bywyd i'r eithaf.

"Sa i mo'yn i neb deimlo trueni drosta i a meddwl 'druen ag e'... Na gyd fi mo'yn yw i rhywun feddwl 'ma fe'n disgwyl yn gwd' ac yn hapus. Bod mor bositif â phosib a edrych i'r dyfodol - dyna sy'n bwysig i fi nawr."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig