Menopos: Paid â diodde’n dawel

  • Cyhoeddwyd
Emma Walford
Disgrifiad o’r llun,

Emma Walford

"Be' 'di'r holl ddryswch yma? Ro'n i'n ofni bod 'na rhywbeth mawr mawr yn bod. Do'n i ddim yn teimlo fel fi fy hun. O'dd rhywbeth ar goll. O'n i 'di colli fi."

Pan ddechreuodd y gantores a'r cyflwynydd Emma Walford ddiodde' symptomau rhyfedd oedd yn effeithio ar ei chorff a'i hymennydd, doedd y menopos ddim yn ystyriaeth o gwbl.

Mae hi wedi deall ers hynny mai dechrau cyfnod y perimenopos oedd hyn, ac ers mynd ar HRT (Hormone Replacement Therapy) mae ei symptomau wedi lleddfu. Ond roedd y cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â beth oedd yn digwydd iddi yn un brawychus ac unig iddi, meddai.

Ar Ddiwrnod Menopos y Byd, mae llyfr newydd sy'n trafod y newid mawr, a hynny yn Gymraeg - Menopositif - yn cael ei gyhoeddi, ac mae Emma eisiau ategu'r neges, beth bynnag ydych chi'n mynd drwyddo, dydych chi ddim ar eich pen eich hun:

'Be sy'n bod efo fi?'

Daeth 'na jyst fatha'r niwl yma drosta i, a ngneud i mor anghofus a dryslyd. Weithie o'n i'n teimlo bo' fi methu cael fy ngeirie allan yn iawn ac o'dd diffyg hyder a gorbryder eithafol yn effeithio arna i, ac roedd o 'di dechrau tynnu'r mwynhad allan o bethau.

Roedd cant a mil o symptomau. O'n i'n cael pins and needles yn fy nwylo a 'nhraed a phoen yn fy nghymalau, llygaid rili sych a blas od yn fy ngheg i. 'Nath gwead fy ngwallt i newid, aeth fy nghroen yn fwy sych; o'n i'n teimlo mor wahanol yn fy nghorff.

Ffynhonnell y llun, Emma Walford
Disgrifiad o’r llun,

Er ei bod wedi arfer mynd â Lili y ci am dro am filltiroedd bob dydd, roedd Emma yn dechrau cael trafferth gyda'i chymalau wrth fynd am dro

Roedd yr ystod eang o symptomau corfforol a meddyliol yn codi ofn arna fi ac 'nes i erioed feddwl am y menopos. Ro'n i'n eitha siŵr bo' fi rhy ifanc i fod yn mynd trwy hwnna! A dyna hefyd oedd barn y meddyg...

Pŵer mewn gwybodaeth

Ond toeddwn i erioed 'di clywed am y PERImenopos sef y cyfnod cyn i'r misglwyf stopio yn gyfan gwbwl. 'Nes i ddechrau cysylltu'r dots a'r mwya' o'n i'n ei ddarllen am y peth, y mwya' o'n i'n dallt mai o bosib, dyna oedd yn digwydd!

Wrth ddod ar draws trafodaethau am y perimenopos ar y cyfryngau cymdeithasol 'nath hynny roi'r wybodaeth a'r hyder i fynd yn ôl at y doctor i ofyn i gael trafod eto.

Mewn gwybodaeth, mae pŵer. Os ti'n teimlo'n fwy hyderus a mwy gwybodus ac yn deall dy hun yn well, mae'r sgwrs rhynddot ti a dy ddoctor am fod yn fwy buddiol.

Mae HRT yn gweithio i fi ac mae'r newid yn rhyfeddol, ond tydy HRT ddim i bawb na chwaith yr unig ffordd o helpu'ch hun drwy'r cyfnod yma ac mae digon o wybodaeth ar gael ar sut i ymdopi drwyddo fo.

Rhannu yn lleddfu unigrwydd

Dwi'n berson preifat iawn, a tydy siarad yn agored am rywbeth personol ddim yn dod yn naturiol i mi. Ond oherwydd mai drwy glywed merched eraill yn siarad yn onest am eu profiadau nhw 'nes i ddysgu a chael yr hyder i fynd i siarad gyda fy meddyg fy hun, o'n i'n teimlo rhywfaint o gyfrifoldeb i rannu fy mhrofiadau innau hefyd yn y gobaith ei fod o am helpu rhywun arall.

Mi 'nath Non [Parry] ofyn i mi a Rachael [Solomon] fod yn rhan o'i phodlediad Digon, ac wrth i'r dair ohonon ni sgwrsio am fynd yn hŷn dyma fi'n dechre sôn am y perimenopos a bo' fi ar feddiginiaeth.

Do'n i'm 'di bwriadu sôn mod i 'di dechrau HRT, ond 'nath o ddod i fyny, ac o'dd hi'n sgwrs mor naturiol, gan bo' ni'n tair yn gymaint o ffrindiau. A gawson ni ymateb grêt: "'o'dd hi mor lyfli eich clywed chi'n trafod hyn, achos dwi 'di bod yn teimlo felly, a dwi am fynd at y doctor rŵan". Waw!

Mae 'na rywbeth braf am rannu profiad achos ti'n sylweddoli fod pobl eraill yn mynd drwyddo fo hefyd. Mae'r cyfnod yma yn unigryw i bob merch ond tydy o ddim yn gorfod bod yn unig.

Ffynhonnell y llun, Emma Walford
Disgrifiad o’r llun,

Non, Rachael ac Emma yn recordio podlediad Digon, lle soniodd Emma gyntaf am gymryd HRT

Dwi'n meddwl mai un o'r rhesymau pam fod pobl o bosib ddim isho siarad amdano fo ydi oherwydd y stigma a'r label o fod yn 'hen', o fod yn "past it!" Mae'n rhaid chwalu'r stigma yma. Mae'n rhaid newid ein meddylfryd a dangos i'r genhedlaeth nesa' o ferched bod ddim angen ofni'r cyfnod yma o'u bywydau.

Bod yn menopositif

Mae 'na beryg weithiau o deimlo 'ydw i'n gneud môr a mynydd o hyn i gyd?' ond mae'r gyfrol Menopositif yn profi fod hynny ddim yn wir o gwbl. Mae'n llyfr llawn gwybodaeth a chyngor ac yn bwysicach na dim straeon gonest gan ferched sydd yn barod i rannu eu profiadau.

Mae straeon pawb mor wahanol, ond mae 'na rywbeth tebyg ynddyn nhw i gyd sy'n gneud hi'n hawdd uniaethu gyda nhw.

Dyma'r gyfrol gyntaf o'i math yn y Gymraeg ac felly yn naturiol dwi 'di teimlo'n agosach at y merched yn y llyfr yma oherwydd hynny. Mae'r straeon a'r iaith yn perthyn i fi; mae o'n gneud synnwyr fod llyfr yn dy famiaith am gyffwrdd dy galon.

Dim llyfr i ni ferched yn unig ydy'r llyfr yma, mae'n bwysig bo' ni'n ei rannu gyda'r dynion yn ein bywydau er mwyn bo' nhw'n dysgu ac yn deall be' 'da ni'n mynd trwyddo. Mae o hefyd yn llyfr hanfodol i'r genhedlaeth nesa; mae fy merch a'n fab yn deall lot mwy nag o'n i eu hoedran nhw a dwi'n gobeithio pan daw fy merch i'n oedran i fydd yr agwedd tuag at y menopos yn iachach a'r stigma wedi hen ddiflannu!

Ffynhonnell y llun, Emma Walford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma yn falch fod ei merch hi, Anni, yn gwybod mwy am yr hyn fydd yn effeithio arni hi yn y dyfodol, yn wahanol i'r cenedlaethau a fu

Be' sy'n gneud fi'n drist ydy meddwl am yr holl ferched sydd wedi dioddef yn dawel, yr holl genedlaethau o ferched sydd wedi mynd trwyddo fo heb help, na chwaith yn deall beth oedd yn digwydd. Ond mae pethau yn newid ac mae'r gyfrol yn helpu i ddechrau normaleiddio'r pwnc ac yn annog ni i siarad.

Dwi'n caru'r agwedd sy' gan bobl Gwlad Thai tuag at cyfnod y menopos; mae nhw'n cyfeirio ato fel yr ail wanwyn - 'the second spring' - a dyna ydy bod yn Menopositif go iawn!

Pynciau cysylltiedig