Rhai 'ddim yn synnu' am dorri cyllid National Theatre Wales

  • Cyhoeddwyd
Actorion yn ymarfer perfformio The Cost of LivingFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau cast The Cost of Living mewn cynhyrchiad National Theatre Wales yn gynharach eleni

Mae rhai aelodau o'r gymuned artistig yng Nghymru yn dweud nad ydyn nhw'n synnu bod National Theatre Wales wedi colli ei chyllid.

Fe wnaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi ym mis Medi na fyddai'r cwmni theatr yn cael arian grant eleni - derbyniodd £1.6m y llynedd.

Mae rhai awduron, cynhyrchwyr ac actorion wedi beirniadu safon a swmp gwaith y cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd yr awdur Roger Williams wrth raglen Politics Wales bod y cwmni wedi "colli cysylltiad ystyrlon â'r gymuned artistig yng Nghymru".

Ond dywedodd cyfarwyddwr artistig National Theatre Wales, Lorne Campbell: "Lle bynnag y bo modd rydyn ni'n rhoi talent Cymru yn gyntaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Roger Williams yn credu bod y cwmni wedi colli ei ffordd dros y blynyddoedd diwethaf

Mae'r cwmni, a gafodd ei sefydlu 15 mlynedd yn ôl, wedi dweud na fydd yn gallu parhau y tu hwnt i fis Ebrill 2024 heb gyllid parhaus.

Yn ei flynyddoedd cynnar, gwnaeth gynyrchiadau fel The Passion gyda Michael Sheen, Mametz gan Owen Sheers a dathliad bywiog o waith Roald Dahl yng Nghaerdydd.

Mae'r awdur a chynhyrchydd o Gastell-nedd, Roger Williams, yn credu bod y cwmni wedi colli ei ffordd dros y blynyddoedd diwethaf.

"Nid yw'r cwmni wedi bod yn cynhyrchu digon o waith, yn enwedig gwaith sydd wedi bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyffredinol," meddai.

"Rwy'n meddwl bod y cwmni wedi colli cysylltiad gyda'r gymuned artistig yma yng Nghymru - awduron, actorion, cerddorion, dawnswyr ac yn y blaen."

Ychwanegodd: "Yn anffodus, unwaith i chi ddechrau colli'r perthnasoedd hynny gyda'ch sectorau allweddol, rydych chi'n cael eich hun mewn trwbl.

"Wrth gwrs, yr hyn sydd wedi digwydd nawr yw eu bod nhw wedi colli'r cysylltiadau ystyrlon yna gyda'u cyllidwyr, sy'n arwain yn anochel at gau."

Mae prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys wedi dweud nad oedd cais National Theatre Wales am arian parhaus "yn argyhoeddi".

Ond ychwanegodd na fydd yn gwneud sylw pellach tra bod y cwmni'n apelio yn erbyn y penderfyniad ariannu.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Rhys nad oedd cais NTW am arian wedi "argyhoeddi"

Mae National Theatre Wales wedi galw am gyllid "dros dro" tra bod adolygiad o'r theatr Saesneg ei hiaith yn cael ei gynnal.

Dywedodd y cyfarwyddwr artistig Lorne Campbell: "Mae gennym ni nifer enfawr o awduron Cymreig dan gomisiwn.

"Ein polisi castio yw blaenoriaethu talent Cymreig."

Cychwynnodd National Theatre Wales yn 2008 ac mae wedi derbyn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau ers hynny.

Dywed y cwmni theatr ei fod wedi cynhyrchu "gwerth £11m o fuddsoddiad ychwanegol i theatr yng Nghymru" ac wedi cyrraedd dros 330,000 o aelodau cynulleidfa fyw a dros wyth miliwn ar-lein neu ar deledu.

Honnodd NTW eu bod wedi cyflogi 645 o bobl y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nick Davies y byddai NTW "bron yn gwneud unrhyw beth ond rhoi drama ymlaen"

Mae'r beirniad theatr Nick Davies yn gyn-swyddog portffolio theatr Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dywed bod National Theatre Wales yn ei ddyddiau cynnar "wedi cydio yn y dychymyg" ond mae ef o'r farn bod y cwmni "wedi cyrraedd y pwynt lle byddai bron yn gwneud unrhyw beth ond rhoi drama ymlaen, a dwi wedi dechrau sylweddoli bod yna ddiffyg hyder mewn gwirionedd mewn creu drama go iawn".

Mae Lorne Campbell o National Theatre Wales yn tynnu sylw at daith y sioe Circle of Fifths cyn hir.

Dywedodd: "Mae gennym ni raglen gyffrous iawn o waith ar y gweill ac mae'n rhaid i ni ennill ymddiriedaeth a pharhau i siarad gyda'r rhai nad ydynt yn teimlo ein bod wedi gwneud yr hyn y mae pobl eisiau i ni ei wneud yn y gorffennol.

"Rydym wedi cael rhai prosiectau sydd wedi'u gwerthu'n llwyr, rydym wedi cael prosiectau eraill sydd wedi methu â chyrraedd yr hyn a ddymunwn iddynt gyflawni."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr Athro Dai Smith arwain Cyngor Celfyddydau Cymru am naw mlynedd

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd cyn-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith ei fod yn ofni bod y penderfyniad o ganlyniad i "fiwrocratiaeth a thicio blychau".

Ychwanegodd y byddai'n anodd yn ddiwylliannol i gyfiawnhau colli'r cwmni.

"Os ydyn nhw mewn gwirionedd yn cael gwared ar National Theatre Wales yna dyna beth yw fandaliaeth ddiwylliannol.

"Mae'n benderfyniad twp, ond yn anad dim, mae'n dinistrio un o bileri diwylliannol bywyd Cymreig."

Dywed Lorne Campbell fod sgyrsiau parhaus wedi bod gyda Chyngor y Celfyddydau am sut i wella.

"Mae yna bethau, yn enwedig o amgylch cynulleidfaoedd lle rydym wedi cael ein beirniadu'n gywir gan Gyngor y Celfyddydau, ond mae'r naratif cyffredinol wedi bod yn gadarnhaol iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lorne Campbell fod sgyrsiau parhaus wedi bod gyda Chyngor y Celfyddydau am sut i wella

Ond mae Mr Campbell yn dweud bod y newyddion bod cyllid wedi'i dynnu'n ôl yn gyfan gwbl wedi bod yn sioc.

"Os edrychwch chi ar yr adborth rydyn ni wedi'i gael gan Gyngor Celfyddydau Cymru dros y 18 mis, dwy flynedd diwethaf, nid dyma'r naratif rydyn ni wedi'i gael.

"Nid ydym wedi cael ein rhoi mewn mesurau arbennig, sy'n ymyriad y mae Cyngor y Celfyddydau wedi'i wneud gyda nifer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru yn y gorffennol pan fu problemau."

'Proses eithriadol o gystadleuol'

Ym mis Medi, fe gyhoeddodd Cyngor y Celfyddydau bron i £30m o grantiau amodol i 81 o sefydliadau.

Dywed eu bod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" wedi "proses eithriadol o gystadleuol", a bod modd i sefydliadau aflwyddiannus geisio am gymorth cronfeydd eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater i Gyngor Celfyddydau Cymru yw'r adolygiad buddsoddi.

Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 15 Hydref ac ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig