Gemau rhagbrofol Euro 2024: Latfia 0-2 Cymru
- Cyhoeddwyd
David Brooks oedd yr arwr yn Riga nos Lun wedi i'w gôl hwyr sicrhau triphwynt pwysig i Gymru oddi cartref yn Latfia ar ddechrau ail hanner ymgyrch ragbrofol Euro 2024.
Fe rwydodd gydag eiliadau yn unig yn weddill o'r gêm yn Stadiwm Skonto i wneud hi'n 0-2 i Gymru yn erbyn y tîm ar waelod Grŵp D.
Capten Cymru, Aaron Ramsey oedd wedi rhoi Cymru ar y blaen gyda chic o'r smotyn yn yr hanner cyntaf.
Ond mewn gêm llawn tensiwn a chyfleoedd a gafodd eu gwastraffu bu'n rhaid i Gymru weithio'n galed i drechu Latfia a chadw'r gobeithion o sicrhau lle yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Roedd Rob Page a'i garfan dan bwysau wrth gyrraedd Riga wedi dim ond un buddugoliaeth mewn 13 o gemau.
Roedd colledion mis Mehefin yn erbyn Armenia a Thwrci yn golygu bod Cymru ym mhedwerydd safle Grŵp D hanner ffordd trwy'r ymgyrch.
Gyda phedair gêm yn weddill, roedd hi'n hanfodol i Gymru drechu Latfia, er absenoldeb sawl chwaraewr allweddol - yr ymosodwr Kieffer Moore a'r chwaraewr canol cae Joe Morrell o ganlyniad derbyn cardiau coch, a'r asgellwyr Daniel James a Wes Burns oherwydd anafiadau.
Er ambell i gyfnod o chwarae blêr yn ystod yr hanner cyntaf y gêm, fe gafodd Cymru nifer o gyfleoedd.
Daeth Brennan Johnson yn agos at rwydo gydag ergydiad droed chwith ac roedd angen arbediad da i atal peniad gan Connor Roberts.
Ond yna fe droseddodd Kaspars Dubra yn y cwrt cosbi gan daro Harry Wilson yn ei war wrth i'r ddau neidio am y bêl, gan ildio cic gosb.
Fe gadwodd Ramsey ei ben i roi'r bêl yng nghornel chwith y rhwyd wedi 29 o funudau gydag ergyd isel droed dde - cic gyntaf Cymru o'r smotyn ers ymddeoliad Gareth Bale.
Gydag aelodau'r Wal Goch yn canu'n iach, prin oedd hi'n bosib clywed cefnogwyr y tîm cartref.
Ond fe wnaethon nhw godi eu llais yn ystod pum munud olaf yr hanner cyntaf ar ôl i Latfia achosi trafferthion i'w gwrthwynebwyr o flaen gôl Cymru.
Wrth geisio amddiffyn fe beniodd Rodon y bêl i gyfeiriad yr ymosodwr canol cae Janis Ikaunieks a bu'n rhaid i Danny Ward ymateb yn gyflym i'w gwyro wrth waelod gornel y rhwyd i ildio cic gornel.
O'r gornel honno fe wibiodd y bêl ar draws blaen y gôl, ac roedd yna ddau ymdrech agos arall cyn i'r hanner ddod i ben, gan danlinellu i chwaraewyr Cymru bod yna waith amddiffyn i'w wneud i amddiffyn eu mantais.
Cafodd Wilson gyfle da y bu'n rhaid i Latfia ei arbed ar ddechrau'r ail hanner.
Gyda 49 o funudau ar y clo fe gafodd Ramsey ei eilyddio - roedd yn aneglur pam, gan fod dim arwydd ei fod wedi cael anaf - a David Brooks ddaeth ymlaen yn ei le.
Roedd yna sawl cyfle yn y munudau dilynol - gan Johnon, Rodon ac Amdapu - ond ofer oedd yr ymdrechion i ddyblu'r fantais.
Roedd Janis Ikaunieks yn ffodus i gael carden felen yn unig wedi tacl uchel ar Jordan James, a hynny wedi i'r swyddog VAR gael golwg ar y digwyddiad.
Wrth i'r gêm fynd yn gynyddol fratiog roedd yna fwy o ysbryd yn chwarae Latfia - a chryn densiwn gyda bwlch mor fach rhwng y ddau dîm.
Gydag wyth munud o'r 90 ar y cloc roedd Cymru wedi cael 22 o gyfleoedd a Latfia wedi cael chwech. ac roedd yna rwystredigaeth amlwg ymhlith chwaraewyr Cymru wrth i fân droseddau'r tîm cartref atal pob ymosodiad.
Roedd yna ddihangfa i Gymru ben arall y cae pan aeth ergydiad nerthol Janis Ikaunieks i ochr y rhwyd a chefnogwyr Latfia oedd yn canu'n iach wrth i'r gêm ddirwyn i ben.
Er bod Cymru'n dal ar y blaen, roedden nhw'n treulio mwy a mwy o amser yn eu hanner eu hunain, er mwyn amddiffyn y fantais.
Mae'n debyg bod yna gryn gnoi ewinedd wedi'r cadarnhad y bydde 'na saith munud o amser ychwanegol. Gymaint oedd y tensiwn ar y cae fe gafodd y dyfarnwr air gyda'r ddau gapten - Ben Davies, yn achos Cymru yn absenoldeb Ramsey.
Ond yna fe lwyddodd Cymru i ymosod - peniad gan Rodon at Wilson wnaeth ddechrau'r symudiad ac fe gyrhaeddodd ei bas yntau David Brooks a rwydodd gydag eiliadau yn unig yn weddill.
Roedd yna ryddhad felly i Page, ei garfan a'r holl gefnogwyr - mae'n nhw'n gadael Riga gyda thriphwynt hollbwysig, ond fe wnaeth Latfia sicrhau iddyn nhw sicrhau'r fuddugoliaeth y ffordd anodd.
Maen nhw'n dal ym mhedwerydd safle'r grŵp gyda saith o bwyntiau - yr un nifer ag Armenia yn y trydydd safle, a gollodd o gôl i ddim yn erbyn Croatia nos Lun - felly mae Cymru'n dal yn y ras.
Ac fe gadarnhaodd Ramseymewn cyfweliad ar ddiwedd y gêm mai cam rhagofalus oedd y penderfyniad iddo adael y maes yn gynnar wedi'r egwyl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023