Diwrnod Shwmae Su'mae yn dathlu'r 10
- Cyhoeddwyd
Gwnewch dri pheth yn Gymraeg y penwythnos yma yw neges trefnwyr Diwrnod Shwmae Su'mae, 10 mlynedd ers i'r ymgyrch i hybu'r iaith ddechrau.
Dydd Sul ydy'r diwrnod pan mae pobl yn cael eu hannog i ddechrau unrhyw sgwrs gyda shwmae neu su'mae, dim ots faint o Gymraeg maen nhw'n gallu siarad.
Mae'r ymgyrch eleni yn cael ei chefnogi gan lu o enwau adnabyddus, fel y cyflwynydd teledu Mari Lovgreen, yr artist Mared Lenny - neu Swci Delic - a'r bardd Aneirin Karadog.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Sadwrn, dywedodd un o drefnwyr Diwrnod Shwmae Su'mae, Elin Maher ei bod hi'n credu fod cael digwyddiad o'r fath yn gwneud gwahaniaeth.
'Syniad syml'
"Mae ond i ti edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y bwrlwm sydd wedi bod yn barod yr wythnos yma, gydag ysgolion, gweithleoedd," meddai.
"Maen nhw wedi cymryd y syniad syml yma o ddechrau sgwrs, ac mae 'na syniadau di-ri wedi dod o hynny, a digwyddiadau ar hyd a lled Cymru.
"Ni'n cadw'r dyddiad ar y 15fed i fod yn gyson a sicrhau lle yn nyddiadur y Lolfa bob tro, sy'n wych i'n hatgoffa ni, ond mae e yn nyddiadur ysgolion, yn nyddiadur ein colegau ni a'n gweithleoedd ni erbyn hyn, felly mae e'n galonogol i weld y gwaith llawr gwlad.
"Dyna sydd wedi tyfu y diwrnod hwn i fod lle mae e heddi - y gwaith llawr gwlad.
"Sicrhau bod pob un ohonom ni sy'n medru'r Gymraeg yn ei defnyddio hi, ond hefyd i annog pobl sydd falle ddim yn defnyddio hi, i ddefnyddio un gair bach ar un diwrnod, a pwy â ŵyr lle bydd hwnna yn eu harwain nhw yn y pendraw."
Ychwanegodd Ms Maher fod "digwyddiadau dros y lle i gyd" wrth i'r diwrnod ddathlu'r 10.
"Gobeithio yn wir y gwelwn ni'r Gymraeg yn ffynnu hyd yn oed yn fwy o fewn ein cymunedau ni, ac mewn ardaloedd daearyddol sydd falle ddim o reidrwydd â Chymraeg mor ffyniannus ag ambell i ardal arall," meddai.
"Ond hefyd i atgoffa pob rhan o Gymru bod angen i ni fod yn helpu'r Gymraeg a helpu eraill sydd falle ddim yn gyfarwydd â'r Gymraeg i ddod o hyd iddi hi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022