1,000 o swyddi'n dod i Gaerdydd wrth i gwmni ehangu
- Cyhoeddwyd
Mae 1,000 o swyddi yn dod i Gaerdydd wrth i gwmni PricewaterhouseCoopers (PwC) ehangu yn y brifddinas.
Wedi'u cyflwyno dros gyfnod o bum mlynedd, fe fydd y swyddi newydd yn cynnwys rhai ym meysydd digidol a thechnoleg.
Cwmni byd-eang sy'n darparu gwasanaethau arbenigol i gwmnïau a'r sector cyhoeddus ydy PwC, sydd eisoes â swyddfa sy'n cyflogi 500 o weithwyr yng Nghaerdydd.
Daw'r newyddion wedi cyfnod o gyhoeddiadau am golli swyddi mewn rhannau eraill o Gymru.
Dywedodd John-Paul Barker, pennaeth PwC yng Nghymru a gorllewin Lloegr, mai "hyder" oedd tu ôl i'r buddsoddiad mewn 1,000 o swyddi newydd.
"Ry'n ni'n edrych ar y tymor hir pan yn gwneud penderfyniadau buddsoddi," meddai.
"Rwy'n credu bod yr amser yn iawn yng Nghymru ar gyfer y math yma o swyddi.
"Maen nhw'n swyddi sy'n edrych i'r dyfodol, swyddi digidol mewn meysydd fel seibr a hacio egwyddorol.
"Dim ond i fyny mae'r galw am y sgiliau yna'n mynd ac mae'n gyfle gwych i Gymru i sicrhau'n bod ni ar y blaen ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf."
Caerdydd yn gwasanaethu'r byd
Dywedodd Mr Barker bod staff Caerdydd yn helpu cleientiaid PwC ar draws y byd gyda phrosiectau sy'n galw am sgiliau technolegol.
"Mae cleients yn dod atom ni yn gofyn am wasanaethau fel help i ddatblygu strategaethau a'u gweithredu.
"Ry'n ni'n creu swyddi lle bydd pobl yma yng Nghaerdydd yn gwasanaethu cleientiaid ar draws y byd."
Yn ôl PwC mae'r swyddi newydd yn golygu buddsoddiad gwerth degau o filiynau o bunnoedd yn yr economi leol, gan gynnwys llogi swyddfa newydd yn y brifddinas.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £2m i gynorthwyo PwC i wella cynhwysiant, sgiliau a thwf economaidd yn yr ardal leol.
Mae Hamed Amiri, sy'n uwch reolwr yn PwC yng Nghaerdydd, yn gobeithio i'w stori ef ysbrydoli eraill i geisio am un o'r swyddi newydd.
Daeth i Gymru yn blentyn pan ffodd ei deulu o Afghanistan, ac ymunodd â PwC ym mis Ebrill 2022.
Mae'n cefnogi uchelgais ei gwmni i recriwtio pobl o gefndiroedd difreintiedig ac amrywiol.
"Mae'n galluogi pobl o bob math o gymunedau i ddod i wybod bod yna rôl yma i chi," meddai Mr Amiri.
Ychwanegodd fod cynrychiolaeth o boblogaeth amrywiol Cymru yn bwysig.
"Rydw i eisiau creu dolen yn ôl [i'r gymuned], lle rydyn ni'n mynd yn ôl i'n haelwydydd ac yn dweud, 'Edrychwch, fi oedd y plentyn hwnnw o Cathays na feddyliodd erioed y byddai gennyf y rôl yma fel uwch reolwr yn PwC, ac yn gweithio gyda chleientiaid byd-eang.
"Mae'n bosibl i chi wneud hyn hefyd. Ac rydw i eisiau i hwnnw fod yn gysylltiad parhaol."
'Digon o swyddi'
Mae ffigyrau diweithdra yn weddol isel, o gymharu â'r patrwm hirdymor, ac mae cwmnïau sydd yn recriwtio o hyd yn pryderu am brinder ymgeiswyr am rai swyddi.
"Mae digon o swyddi i'w cael, i bobl sydd yn chwilio am swyddi," meddai Nerys Fuller-Love.
Mae'r darlithydd yn yr ysgol fusnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dweud bod lefelau diweithdra Cymru yn gymharol isel o ystyried y patrwm hanesyddol.
Ac mae'n amlwg bod gwaith ar gael, meddai.
"Chi'n gweld rhai siopau yn methu recriwtio. 'Ych chi'n crwydro rownd Aberystwyth, er enghraifft, ac mae 'na hysbysebion ym mhob man.
"'Wyrach, dydy'r swydd mae pobl eisiau ddim ar gael, 'wyrach mai dyna ydy'r broblem.
"Ond mae digon o swyddi ar gael os ydy pobl yn fodlon gwneud unrhyw beth," dywedodd Mrs Fuller-Love.
Ym mis Mawrth fe gaeodd ffatri 2Sisters yn Llangefni, gan godi ofn yn lleol am yr effaith ehangach ar yr ardal.
Collodd 700 o weithwyr ei swyddi. Ond mae gwaith i'w gael ar yr ynys yn ôl Alun Roberts, uwch-reolwr gyda Cymunedau Ymlaen Môn, wedi'r "ergyd fawr" o golli'r ffatri.
"Mae rhai misoedd rŵan ers i weithwyr colli gwaith yn 2Sisters yn Llangefni a 'da ni fel sefydliad wedi bod yn helpu dros 150 ohonyn nhw i chwilio am waith.
"Mae 'na rhai di bod yn ffodus iawn i gael gwaith, rhai ohonyn nhw'n sydyn iawn ar ôl colli'u swyddi'n Llangefni. Mae rhai eraill wedi cymryd 'chydig o fisoedd i wneud ond yn anffodus mae rhai'n dal i chwilio am waith."
Mae'n gweld gobaith gyda statws porthladd rhydd yn cael ei roi i Gaergybi a phrosiectau ynni ar yr ynys.
"Mae 'na swyddi i gael yma ar yr ynys," meddai. "'Da ni'n ynys o fusnesau bach ac wedyn mae 'na swyddi ar gael. Y cwestiwn wedyn ydy'r swyddi'n debyg i be mae pobol wedi arfer gwneud yn y gorffennol.
"Felly dyna ydy'r gamp i ddweud y gwir, ydy bod ni'n cael y swydd sydd yn siwtio amgylchiadau'r bobol yma sy'n chwilio am waith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023