Cefnogwyr rygbi Cymru wedi brifo mewn ymosodiad ym Marseille

  • Cyhoeddwyd
CanebièreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad toc cyn hanner nos ar 15 Hydref ar La Canebière yn y ddinas

Cafodd dau o gefnogwyr tîm rygbi Cymru eu cludo i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad gan ddau o gefnogwyr Lloegr ym Marseille ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu Ffrainc fod y tad a'r mab o Gymru, 57 a 24 oed, wedi dioddef ymosodiad ar un o brif strydoedd y ddinas, y Canebière, toc cyn hanner nos.

Cafodd y tad ei drin am anafiadau i'w ben, a chafodd y ddau eu rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu bod dyn arall o Brydain, sydd yn ei 30au, wedi cael ei arestio a'i gadw yn y ddalfa.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn dilyn buddugoliaeth Lloegr yn erbyn Fiji ym Marseille yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd nos Sul.

Roedd Cymru wedi chwarae yn yr un stadiwm - Stade Vélodrome - ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig