Dim tan-gyfrif yn amseroedd aros adrannau brys - Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi mynnu nad yw amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru wedi'u tan-gyfrif a bod modd eu cymharu â ffigyrau Lloegr.
Mae'n dilyn honiadau - sydd wedi'u gwadu'n gryf gan Lywodraeth Cymru - bod miloedd o gleifion ar goll o ystadegau swyddogol.
Mae amseroedd aros cyhoeddedig yn dangos bod ysbytai Cymru wedi perfformio'n well yn ddiweddar na'r rhai yn Lloegr.
Ond mae grŵp sy'n cynrychioli meddygon brys wedi cwestiynu hynny.
45,000 o gleifion
Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd, gofynnodd arweinwyr y gwrthbleidiau i Mr Drakeford gadarnhau bod pob claf yn cael ei gyfrif.
Cyfeiriodd Andrew RT Davies at wybodaeth a gyhoeddwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygon Brys, oedd yn awgrymu nad oedd 45,000 o gleifion wedi cael eu cyfrif mewn data a gyhoeddwyd rhwng Ionawr a Mehefin.
Dywed Mr Drakeford: "Os bu unrhyw gamddealltwriaeth o'r data nid yw'r camddealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r data yr ydym yn adrodd arnynt yn gymaradwy â data a adroddwyd mewn mannau eraill fel yr ydym bob amser wedi'i ddweud."
Ychwanegodd "nid yw gofal yr un claf" yn cael ei effeithio gan y ffigyrau hyn.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y coleg brenhinol wedi codi mater tan-gyfrif yn unedau damweiniau ac achosion brys "yn aml gyda gweinidogion a swyddogion".
Ond mynnodd Mr Drakeford "nad yw'r ffigyrau'n cael eu tan-gyfrif".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023