Cyllideb Cymru: Torri ym mhobman oni bai am iechyd a threnau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Prif Weinidog: Toriadau cyllideb 'yn argyfwng'

Mae Llywodraeth Cymru wedi torri'n ôl ym mron pob rhan o'i chyllideb er mwyn gwario mwy ar y gwasanaeth iechyd a threnau.

Mae gweinidogion Mark Drakeford wedi gorfod canfod mwy na £600m er mwyn llenwi bwlch ariannol cyn mis Ebrill nesaf.

Yn ogystal â thoriadau, maen nhw'n gwario arian wrth gefn ac yn gobeithio derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn San Steffan.

Dywedodd Mr Drakeford nos Fawrth bod ei lywodraeth wedi wynebu argyfwng cyllidebol.

Ffynhonnell y llun, SeneddTV
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans ddatganiad i'r Senedd ddydd Mawrth

Mae disgwyl i gynllun adeiladu ysgolion golli arian - ond fe fydd gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cynyddu.

Mae hynny achos bod llai o docynnau na'r disgwyl yn cael eu gwerthu ar y rheilffyrdd.

Ers canol yr haf mae gweinidogion wedi treulio misoedd yn chwilio am arian i amddiffyn rheng-flaen gwasanaethau cyhoeddus.

Fe gyhoeddwyd canlyniad y broses gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth.

Mae chwyddiant wedi lleihau gwerth y gyllideb ac mae'r llywodraeth yn wynebu costau uwch na'r arfer ar gyfer cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

O ganlyniad, mae'r pwysau wedi cynyddu ar gyllideb £20bn y llywodraeth - cyllideb sy'n talu am wasanaethau datganoledig fel iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Bydd yr adran iechyd yn derbyn £425m yn ychwanegol, ond mewn cyfnod pan fo rhestrau aros yn uchel dros ben, mae swyddogion yn rhybuddio y bydd y gwasanaeth yn dal i wynebu penderfyniadau anodd.

Nid arian newydd i ehangu gwasanaethau yw hyn, meddai un, ond arian sydd ond yn caniatáu i'r gwasanaeth barhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adran sy'n ariannu Trafnidiaeth Cymru wedi cael mwy o arian er bod llai o deithwyr yn defnyddio trenau

Yr adran newid hinsawdd yw'r unig adran arall i weld cynnydd. Dyna'r adran sy'n ariannu'r cwmni rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru.

Mae pob adran arall yn cael eu torri.

Does dim newid i gyllid craidd cynghorau lleol, sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol ac ysgolion.

Yn eu cyfanrwydd, mae'r newidiadau werth mwy na £600m - swm sylweddol tu allan i'r broses gyllidebol arferol.

Mae £220m yn dod o doriadau gwariant, tra bod o leiaf £100m yn dod o gronfa arian wrth gefn.

Mae disgwyl i £150m yn ychwanegol ddod i Gymru drwy wariant iechyd yn Lloegr.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi gofyn i'r Trysorlys yn Llundain am ganiatâd i dynnu hyd at £200m allan o'i harian cyfalaf - yr arian sy'n talu am adeiladu pethau, fel ysgolion - a'i wario ar redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd.

'Mae yn argyfwng'

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y £400m ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd a £125m i drafnidiaeth yn arian "i gadw pethau fynd".

"Mae yn argyfwng," meddai.

"Yn y maes iechyd maen nhw'n wynebu lot o bobl yn dod trwy'r drws bod dydd ac maen nhw'n ymdopi gydag effaith chwyddiant a chostau egni ac yn y blaen."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford bod ei lywodraeth wedi "gweithio'n galed" i warchod gwasanaethau wrth benderfynu sut i wneud arbedion ariannol

Fe ddywedodd y bydd gwelyau newydd yn cael eu hagor yn y gwasanaeth iechyd dros y gaeaf, ond fe fydd llai ohonyn nhw na'r llynedd

Roedd y llywodraeth, meddai, wedi "gweithio mor galed" i warchod gwasanaethau a "chanolbwyntio ar y bobl mwyaf bregus yn y gymuned".

"Mae'n amhosib g'neud pethau fel hyn heb gael rhai effeithiau," dywedodd, "ond ry'n ni wedi gweithio'n galed i dreial tynnu nhw i lawr ble bydd ddim effaith mawr ym mywydau pobol."

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Cyllid yr wrthblaid, y Ceidwadwr, Peter Fox: "Rhaid dweud bod Cymru yn ei sefyllfa ariannol bresennol o ganlyniad uniongyrchol i reoli gwael iawn, gwneud penderfyniadau a chynllunio heb feddwl ymlaen digonol, wedi'i danategu gan athroniaeth wleidyddol sy'n arwain at adael Cymru yn eithriadol o fregus, yn enwedig i newidiadau economaidd byd-eang."

Gofynnodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru a oedd yr arian ychwanegol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn "gyfaddefiad nad yw'r gwasanaeth yn perfformio fel y dylai ac yn datblygu'n bwll diwaelod?"