Tomen y Mur: Difrod 'ddim yn cael ei gymryd o ddifrif'

  • Cyhoeddwyd
Tomen y Mur
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod y gaer ar Domen y Mur yn gartref i dros 1,000 o Rufeiniaid

Mae ffermwr o Wynedd yn galw am gydweithio gwell er mwyn diogelu un o safleoedd Rhufeinig pwysicaf Cymru.

Mae safle Tomen y Mur uwchben Trawsfynydd yn un o safleoedd treftadaeth pwysicaf Cymru, gyda sôn yr oedd yn gartref i dros 1,000 o Rufeiniaid ac yn safle Llys Ardudwy yn chwedlau'r Mabinogi.

Ond yn ôl y ffermwr sydd wedi bod yn gofalu am y safle ers blynyddoedd, dydy Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heb gymryd ei bryderon am ymddygiad gwael a difrod gan ymwelwyr, o ddifri.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud eu bod nhw wedi cymryd y cwynion o ddifri' gan ymateb yn briodol. Dywedodd Cadw eu bod yn barod i drafod.

Disgrifiad o’r llun,

Meredydd Williams: "Mae pobl wedi bod yn dringo i ben y simdde"

Mae'r safle ger Trawsfynydd yn cynnwys tomen, hen gaer Rufeinig ac olion talcen tŷ - ac yn adrodd cyfoeth o hanes y cyfnod.

Ond yn ôl Meredydd Williams, ffermwr lleol sydd wedi bod yn cynnal a chadw'r safle ar ran Cadw a'r parc cenedlaethol, mae ymddygiad ymwelwyr a rhai sy'n dod heibio'r safle'n bryder.

"Mae pobl wedi bod yn dringo i ben y simdde", meddai wrth Newyddion S4C.

Ffynhonnell y llun, Medwyn Williams

"Mae gennai luniau yn dangos dau lanc yna ac yn cymryd paned ar benddo, mae'r peth yn hurt.

"Ar y clawdd mae 'na blant yn jumpio o un pilar i'r llall... mae'r cerrig yn rhydd ac mae'n hawdd disgyn."

'Chwalu'r maes parcio'

Yn ôl cytundeb Mr Williams gyda'r parc, sydd bellach wedi dod i ben, ei gyfrifoldeb oedd monitro'r safle ac adrodd pryderon, ond mae'n dweud nad yw'r rheiny wedi eu cymryd o ddifri'.

Ar lon gyfagos sy'n rhan o eiddo Stad y Goron, mae'n dweud fod difrod wedi ei achosi a bod hynny yn bryder.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Meredydd Williams mae ymddygiad ymwelwyr a'rhai sy'n dod heibio'r safle'n bryder

"Mae gyno nhw gyfrifoldeb i weithio gyda'r tirfeddiannwr i neud yn siŵr fod bob peth yn saff ac yn ddiogel", meddai.

Gyda phryder hefyd am unigolion yn cam-ddefnyddio'r maes parcio i wersylla, mae'n dweud iddo benderfynu chwalu'r hen faes parcio gyda'r bwriad yn y bôn o greu un newydd fydd yn haws i reoli.

Yn ôl Dr Nia Wyn Jones, hanesydd o Brifysgol Bangor, does fawr syndod fod y lle mor boblogaidd gan fod y safle yn un unigryw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n safle "hynodd arwyddacaol", medd Dr Nia Wyn Jones

"Mae'n safle hynod arwyddocaol, mae'n un o'r esiamplau gorau sydd gyda ni o wersyll milwrol Rhufeinig, ac wedyn yn y canol oesoedd mae'n cael ei ail ddychmygu fel safle rhamant pedair cainc y Mabinogi.

"Felly ma'n bwysig oherwydd yn archeolegol mae caer Rufeinig ac amphitheatre yno", meddai.

'Gwella diogelwch'

Nid rhwystro ymwelwyr yw nod Mr Williams, meddai, yn hytrach gwella diogelwch a'r isadeiledd sicrhau fod modd i genedlaethau fwynhau'r safle yn y dyfodol.

Ond mae'n galw am gyfle rŵan i gael sgwrs gyda'r asiantaethau drwy ganolwr i ddod o hyd i ddatrysiad.

Yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, roedd y cytundeb yn cynnwys sicrhau "cadwraeth" gan gynnwys torri brwyn a glaswellt am daliad.

"Yn ogystal â thaliad blynyddol am fynediad mae'r Parc wedi buddsoddi'n sylweddol yn y safle."

Yn ôl llefarydd nid yw'r safle wedi ei hyrwyddo yn drwm, maent wedi ymdrin â phryderon a godwyd am ddiogelwch ac mae tîm wedi cynnal ymweliadau er mwyn asesu a lleddfu pryderon.

Mae'r Awdurdod hefyd yn dweud eu bod wedi ymateb i bryderon am ymddygiad gwael a difrod gan weithio gyda phartneriaid a chodi arwyddion.

"Daeth yn amlwg bod gwahaniaeth barn sylweddol ynghylch gwerth ariannol y cytundeb ac er i'r awdurdod wneud cynnig hael, ni dderbyniwyd ymateb.

"Mae Tomen y Mur yn safle o bwysigrwydd cenedlaethol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae safle Tomen y Mur uwchben Trawsfynydd yn un o safleoedd treftadaeth pwysicaf Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Cadw: "Er nad ydym yn gyfrifol am reoli'r safle hanesyddol cenedlaethol pwysig hwn, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag ystod o randdeiliaid: Parc Cenedlaethol Eryri, y perchennog preifat, gweithredwr y Chwarel a Phorwyr Tir Comin yn Tomen y Mur am flynyddoedd lawer i gefnogi cadwraeth a rheoli'r heneb gofrestredig a ddiogelir yn gyfreithiol.

"Rydym yn hapus i gymryd rhan mewn trafodaethau sy'n ymwneud â threfniadau rheoli, cadwraeth a mynediad yr heneb yn y dyfodol a'r ffordd orau o reoli'r safle i'w gwneud yn hygyrch i ymwelwyr ei fwynhau'n ddiogel."