Llythyru â charcharor ar 'Death Row'

  • Cyhoeddwyd
Rhys Williams a Roderick OrmeFfynhonnell y llun, Rhys Williams a Roderick Orme
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Williams a Roderick Orme

Mae'r dyn camera Rhys Williams wedi bod yn ysgrifennu at garcharor ar Death Row yn Florida ers bron i 20 mlynedd.

Gan gychwyn gyda ysgrifennu llythyrau mae Rhys erbyn hyn hefyd yn e-bostio a sgwrsio dros y ffôn yn rheolaidd gyda'r llofrudd Roderick Orme, sy' wedi cael dedfryd o farwolaeth wedi iddo ladd nyrs o'r enw Lisa Redd yn 1992.

Meddai Rhys am y tro cynta' iddo sgwrsio gyda'r carcharor: "Ar ôl yr holl flynyddoedd o ysgrifennu a chyfathrebu yn sydyn dyma'r ffôn yn canu rhyw noson a dyna lle oedd o.

"Oedd hynna'n hollol swrreal achos o'n i'n clywed ei lais o. Ro'n ni'n siarad am rhyw 20 munud dda jyst fel bod ni wedi cyfarfod yn y pyb a bod ni'n gwneud hynny bob nos Fercher."

Cyswllt Cymreig

Cychwynnodd y cyfathrebu pan oedd Rhys, sy'n dod o Wrecsam, yn chwilio am waith: "O'n i'n ffrilansio fel dyn camera a'n byw yn y gogledd a dyma fi'n gweld erthygl yn rhywle yn dweud fod 'na Gymro ar Death Row, sef Roderick Orme."

Ar ôl ymchwilio ymhellach i'r achos, penderfynodd Rhys gysylltu'n uniongyrchol gyda'r carcharor: "Daeth llythyr nôl yn dweud diolch yn fawr iawn am sgwennu. O'n i 'di bod yn holi beth oedd y cysylltiad Cymreig - roedd teulu pell ganddo yn dod o ochrau Llandudno.

"Mae o'n teimlo rhyw agosatrwydd at Geltiaid a bywyd Cymreig - mae ganddo datŵ anferth o ddraig goch ac mae'n galw ei hun yn Gelt. Yn sgil hynny dyma fo'n dweud bod o ddim isho neud rhaglen deledu ond os o'n i isho ysgrifennu, iawn.

"'Nes i dal i ysgrifennu ato fo."

Ffynhonnell y llun, Rhys Williams

Dros y blynyddoedd mae'r ddau wedi trafod pob math o bethau, meddai Rhys: "Oedd o'n trawler man so mae'r bywyd 'na'n eitha' caled, allan ar y môr am ddyddiau, yna dod adra a chwythu stêm.

"O'n i'n teithio lot yn fy ngwaith i felly 'da ni'n trafod llefydd 'da ni wedi bod, 'da ni'n trafod cerddoriaeth. Mae o up to speed efo popeth sy'n digwydd yn Gaza ac ati so 'da ni'n trafod hynny.

Ffynhonnell y llun, Rhys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Williams wrth ei waith fel dyn camera

"'Da ni'n trafod clwb pêl-droed Wrecsam lot gan bod Hollywood bia hwnna a dwi'n dod o Wrecsam - mae'n licio'r syniad yna.

"Mae ganddo farn pendant am wleidyddiaeth America ac am Biden. 'Da ni'n dweud ein dweud am hynny."

Pam felly fod Rhys wedi dal ati i ysgrifennu ato am bron i 20 mlynedd?

Meddai: "Erbyn rŵan dwi'n edrych arno fel ffrind, rhywun dwi'n nabod a s'gen i ddim rheswm o gwbl i beidio dal i ysgrifennu ato fo. Os ydy o'n rhywbeth i'r creadur neud - darllen ebost genna'i ac mae'n lladd chwarter awr yn ei ddiwrnod o, dwi ddim yn mynd i stopio hynny. Fuasai hynny'n greulon.

"Mae 'di gyrru gwaith celf i fi erioed - mae'n artist iawn. Mae'n gwneud pethe braidd yn dywyll ond mae ambell i beth mae wedi gyrru i fi sy'n rili neis.

Ffynhonnell y llun, Rhys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith celf Roderick Orme

"Dwi wedi bod yn gyrru lluniau o'r mynyddoedd yn y gogledd. Ambell waith ti'n cael pastel bach yn ôl wedi ysbrydoli gan y llun sy'n reit neis.

"Dwi wedi cadw popeth, gen i llond bocs.

"Dwi isho cyfarfod o wyneb yn wyneb cyn iddo farw. Mae'r peth yn anwaraidd bod nhw dal i ladd pobl - mae hynny'n beth anodd i ddelio efo.

"Mae 'na ugeiniau yn fisol yn cael eu lladd dros America i gyd ar wahanol Death Rows. Mae lawr i'r llywodraethwr lle bynnag maen nhw a bob hyn a hyn maen nhw'n cael gwared ar rai.

"Mae o (Roderick Orme) wedi colli ambell i ddyddiad am fod o wedi apelio cymaint. Maen nhw'n gorfod mynd trwy'r apêl ac mae hwnna wedi dragio pethau allan. Ar gyfartaledd ar Death Row yn Florida ti'n sôn am 20 mlynedd-ish a dyna ni, felly mae o 'di cael good run."

Bywyd yn y carchar

Mae Roderick Orme yn byw mewn cell agored 12 troedfedd sgwâr ar ei ben ei hun, gyda bariau ar y drws a'r ffenestr, yn ôl Rhys, ac yn cael tri pryd y dydd - un am bump y bore, un arall ganol dydd ac un am saith y nos.

Meddai Rhys: "Mae ganddo'r rhyddid i fynd allan am awr neu ddwy bob dydd ac yn y 18 mis diwethaf mae wedi dewis peidio gwneud. Dydi o ddim yn gweld unrhyw bwrpas i'r exercise felly mae o'n aros i fewn.

"Maen nhw'n cael crwydro o gwmpas o fewn y carchar a chwarae pingpong a rwdlan efo mets. Hunllef pennaf fi fyddai cael fy nghloi fyny fewn mewn unrhyw lle. Mae'n talu'r pris."

Ffynhonnell y llun, Rhys Williams

Dedfryd

Cafodd Roderick Orme dedfryd o farwolaeth am ladd Lisa Redd ym mis Mawrth 1992 mewn motel ar ôl cymryd cyffuriau. Roedd o wedi bod mewn perthynas efo'r nyrs.

Meddai Rhys: "Oedd o'n gwadu fo am hir er fod y tystiolaeth yn ei erbyn o, doedd dim amheuaeth fod o wedi neud o.

"Blynyddoedd yn ôl oedd ambell i lythyr yn sôn am ei theulu hi - bob tro oedd o'n mynd i'r llys i apelio roedd ei theulu hi'n troi fyny hefyd.

"Mae 'di dweud ambell i waith yn y llythyrau bod o'n gorfod gwynebu nhw eto ac mae hynny'n amlwg yn ei frifo fo.

"Dwi wedi neud polisi bizarre mod i'n trio peidio ei feirniadu o o gwbl, dwi erioed wedi beirniadu na holi lot am y sefyllfa yna ond mae wedi cynnig pethau dros y blynyddoedd. Yn y llythyrau cynta' mi oedd o'n awgrymu bod o'n gwadu beth oedd wedi ddigwydd a bod o ddim yn cofio.

"Dros y blynyddoedd mae 'di apelio yn erbyn ei sentence rhyw ddwy waith neu dair yn trio cael o wedi lleihau i fywyd yn y carchar yn hytrach na marwolaeth."

Mae'r apeliadau wedi methu ac mae Roderick Orme yn y carchar ers rhyw 30 mlynedd erbyn hyn. Mae tua 2400 o garcharorion yn America wedi eu dedfrydu i farwolaeth gyda 313 o rheiny yn Florida.

Ffiniau

Mae Rhys yn gosod ffiniau ar y berthynas ac yn gwrthod trafod ei fywyd teuluol personol.

Meddai: "O'n ni'n trafod mamau ond dydi o erioed wedi gofyn i mi os dwi'n briod ac os oes gynna'i blant. A dwi erioed wedi cynnig y wybodaeth yma.

"Mae hwnna'n rhyw fath o linell dwi wedi creu.

"Oedd o'n agos iawn at ei fam, ddaru ei fam o farw ychydig flynyddoedd yn ôl tra fod o fewn.

"Mae ei deulu wedi troi ei gefn arno ers blynyddoedd - ers y digwyddiad am wn i - ond naeth ei fam o sticio efo fo, oedd ei fam yn mynd i ymweld efo fo.

"Dwi di dweud wrtho erioed dwi dal isho mynd i'w weld o cyn iddo gael ei ladd - mae hwnna'n rhywbeth dwi isho gwneud."