Galw 'di-ildio' ar y GIG hyd yn oed cyn y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
llawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 760,300 o driniaethau eto i'w cwblhau ym mis Awst

Mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu straen sy'n "ddi-ildio" hyd yn oed cyn cyfnod y gaeaf, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Daw wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos twf arall ym maint rhestrau aros am driniaeth.

Mae'r ffigyrau'n dangos fod 760,300 o driniaethau yn aros i'w cwblhau ym mis Awst - y ffigwr uchaf erioed a 67.5% yn uwch o gymharu â Mai 2020.

Mae'r data hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n disgwyl dros flwyddyn am driniaeth.

Fe wnaeth y nifer sy'n disgwyl dros ddwy flynedd ostwng ychydig, ond mae 'na 27,000 o achlysuron ble mae pobl wedi gorfod aros yn hirach na hynny.

Rhestrau aros yng Nghymru. Y nifer sy'n disgwyl am driniaeth, fesul mis.  .

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos y bu pwysau sylweddol ar adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans fis Medi.

Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans dderbyn 4,400 o alwadau coch - y rhai â'r brys mwyaf - yn ystod y mis, sy'n 17% o gynnydd ar y mis blaenorol, a'r trydydd nifer fwyaf erioed.

Roedd 92,600 o ymweliadau ag adrannau brys Cymru fis Medi - 3,088 o gleifion pob dydd ar gyfartaledd, a 94 y dydd yn uwch na ffigyrau Awst.

Ond yn ôl y data, mae perfformiad adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans wedi gwella.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "siomedig gweld bod rhestrau aros cyffredinol yn codi eto"

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae'r galw ar y GIG yn ddi-ildio hyd yn oed cyn i ni fynd i'r gaeaf.

"Gwelodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gynnydd nodedig o 17% mewn galwadau dyddiol 'lle mae bywyd yn y fantol' o'i gymharu â mis Awst, a'r trydydd uchaf erioed.

"Er hynny cafodd dros 20% yn fwy o'r galwadau hynny ymateb o fewn 8 munud o'i gymharu â'r un mis y llynedd.

"Er hynny, mae'n siomedig gweld bod rhestrau aros cyffredinol yn codi eto.

"Rwyf wedi bod yn glir gyda'r byrddau iechyd fy mod yn disgwyl gweld gwelliant yn y maes hwn, a byddwn yn parhau i'w cefnogi i gyflawni hynny.

"Felly, mae'n hanfodol inni ddatblygu atebion a fydd yn creu GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol, er gwaethaf yr heriau ariannol yr ydym yn eu hwynebu a'r dewisiadau anodd y bydd yn rhaid eu gwneud yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."

Y GIG mewn 'argyfwng'

Mae'r ffigyrau perfformiad diweddaraf yn adlewyrchu maint y straen ar y gwasanaeth iechyd, ddeuddydd ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai £425m yn ychwanegol yn cael ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol eleni.

Ond rhybuddiodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y bydd yn rhaid i fyrddau iechyd wneud "penderfyniadau eithriadol o anodd" hyd yn oed ar ôl derbyn yr arian ychwanegol, gyda'r Prif Weinidog yn cydnabod fod y cyllid ond yn ddigon i "gadw pethau i fynd" mewn "argyfwng".

Mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru hefyd yn awgrymu fod £425m gryn dipyn yn llai na'r hyn y mae byrddau iechyd eisoes yn rhagweld y byddan nhw yn gorwario eleni - swm allai gyrraedd £800m.

Ffynhonnell y llun, BMA
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw'r gwasanaeth iechyd ddim yn iach... a dyw'r arian sy'n dod i'r gwasanaeth ddim y ddigon," medd Dr Iona Collins

Mae arweinwyr meddygol yn rhybuddio nad oes lle i wneud toriadau pellach.

"Rydym wedi gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd dro ar ôl tro dros y blynyddoedd, ac o ganlyniad rydyn ni bellach yn gwbl aneffeithlon yn y ffordd ry'n ni'n ceisio darparu gofal iechyd gyda'r hyn sydd ar gael," meddai Iona Collins, cadeirydd y BMA yng Nghymru.

"Dyw'r gwasanaeth iechyd ddim yn iach... a dyw'r arian sy'n dod i'r gwasanaeth ddim y ddigon. Mae'n argyfwng."

Rhybudd am effaith atebion 'tymor byr'

Yn y cyfamser mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru yn rhybyddio y gallai atebion "tymor byr" - lle mae arian yn cael ei gymryd o gyllidebau eraill a'i roi i'r gwasanaeth iechyd - achosi problemau mawr yn y dyfodol.

Mae'r comisiynydd yn poeni os yw gwasanaethau sy'n helpu pobl i fyw bywydau iachach yn y lle cyntaf yn wynebu toriadau, yna gallai hynny gynyddu'r straen ar y gwasanaeth iechyd maes o law.

Mae ymchwil yn awgrymu fod gofal iechyd yn cyfrannu cyn lleied â 10% i iechyd a lles y boblogaeth, er bod iechyd a gofal cymdeithasol yn llyncu hanner cyllideb Llywodraeth Cymru.

"Mae iechyd a'n llesiant ni amdano lot mwy na dim ond gwasanaethau iechyd, felly y rhybudd yw bod rhaid i ni feddwl am sut mae pethe fel ein tai, natur, lle ni'n byw, y cymunedau ni'n byw ynddo, yn cael effaith wedyn ar ein llesiant ni," medd Heledd Morgan o swyddfa'r comisiynydd.

"Ac wrth gwrs yn cael effaith mawr ar ein llesiant ni yn yr hirdymor."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heledd Morgan fod y gwasanaeth iechyd "ddim yn mynd i barhau i fewn i'r dyfodol fel mae e"

Mae'r comisiynydd hefyd yn poeni fod y gwasnaeth iechyd, o fod angen mwy a mwy o adnoddau, yn anghynaladwy yn ei ffurf bresennol.

"Ni'n lwcus iawn i gael gwasanaeth iechyd cenedlaethol yma yng Nghymru ac mae'r gwasanaeth newydd droi'n 75 mlwydd oed," medd Heledd Morgan.

"Ond mae'n tîm ni wedi dweud bod y gwasanaeth ddim yn mynd i barhau i fewn i'r dyfodol fel mae e.

"Mae'n rhaid i ni gael newid yn y system, mae'n rhaid i ni ddechrau meddwl am iechyd a lles yn ehangach, y cymunedau ni'n byw ynddynt, yr amgylchedd ni'n byw ynddo, sut fath o brofiadau sydd gynnon ni pan ni'n blant.

"Mae'n rhaid i ni drio newid y system."

'265 yn Lloegr, 27,000 yng Nghymru'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, ei bod yn siom gweld cymaint o gleifion yn parhau i ddisgwyl dros ddwy flynedd am driniaeth, er i Lywodraeth Cymru addo ym mis Mawrth y byddai neb yn disgwyl cyhyd.

"265 o gleifion yn Lloegr sydd wedi disgwyl dros ddwy flynedd, ond ry'n ni'n dal â dros 27,000 yng Nghymru," meddai.

Ychwanegodd mai "50/50 o siawns sydd gennych chi fod ambiwlans yn cyrraedd o fewn yr amser targed", sy'n "hollol annerbyniol".

Pynciau cysylltiedig