Am ba hyd y bydd chwaraeon byw ar gael am ddim ar deledu?

  • Cyhoeddwyd
rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pob un o gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd eleni yn fyw ar S4C ac ITV

Fe allai'r digwyddiadau chwaraeon byw y mae'n rhaid eu dangos ar deledu am ddim gael eu hailystyried, meddai gweinidog cyfryngau'r DU.

Roedd Syr John Whittingdale yn ymateb i ofnau gwleidyddion Bae Caerdydd y gallai mwy o gemau rygbi Cymru fynd y tu ôl i waliau talu.

Dywedodd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru fod hyn wedi digwydd i gemau rhyngwladol yr hydref a mynegodd ofnau y gallai Cwpan Rygbi'r Byd fynd yr un ffordd.

Ymddangosodd yr AS Torïaidd Syr John o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru, ac fe rybuddiodd y gallai'r drefn bresennol newid pe bai aelodau Senedd Cymru yn dadlau dros hynny.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid dangos rhai digwyddiadau penodol ar sianeli teledu fel y BBC, ITV neu Channel Four.

Mae'r rhain yn cynnwys cwpanau'r byd pêl-droed dynion a merched, y Gemau Olympaidd, a rowndiau terfynol pencampwriaeth tenis Wimbledon.

'Pwysigrwydd cymharol'

Gofynnodd Mr Gruffydd i'r gweinidog pa "asesiad yr oedd wedi ei wneud o bwysigrwydd cymharol rygbi i ni yma yng Nghymru, a sut y gellid adlewyrchu hynny'n well mewn hawliau darlledu ar gyfer chwaraeon?"

"Rydyn ni wedi gweld gemau rhyngwladol yr hydref y llynedd yn mynd y tu ôl i wal dâl [Amazon Prime], mae hyd yn oed sôn wedi bod y gallai y Cwpan Rygbi'r Byd nesaf fynd yr un ffordd," meddai.

Dywedodd bod darllediadau o gemau rygbi yn denu ffigyrau gwylio ymhlith yr uchaf yng Nghymru "ac o ran gwasanaeth cyhoeddus, dylai fod mwy o amddiffyniad i hynny yng Nghymru".

Dywedodd Syr John, cyn ysgrifennydd diwylliant, ei fod yn "gydbwysedd anodd iawn" oherwydd bod yr awdurdodau chwaraeon yn "awyddus i wneud y mwyaf o'r incwm ar gyfer eu camp" a'i fod yn "gyndyn" i ddweud wrthyn nhw "i bwy y gallan nhw werthu eu hawliau".

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr John Whittingdale nad oedd rheolau hawliau chwaraeon yn fater "caeedig"

Cyfeiriodd Mr Gruffydd ymhellach at "bwysigrwydd cymharol" rygbi yng Nghymru "o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU".

Dywedodd Syr John ei bod yn "eithaf anodd dweud" y dylai "gemau rygbi sy'n cynnwys Cymru gael lefel wahanol o amddiffyniad i gemau rygbi Lloegr".

"Rwy'n meddwl bod rygbi'n denu llawer o sylw yn Lloegr ar hyn o bryd, a dydw i ddim yn siŵr a fyddai'n iawn i geisio gwahaniaethu rhwng pwysigrwydd camp mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig a rhan arall o'r Deyrnas Unedig," meddai wrth y pwyllgor.

'Colli pwy ydym ni fel gwlad'

Ond, gan bwysleisio pwysigrwydd rygbi i hunaniaeth Cymru, rhybuddiodd yr AS Llafur Alun Davies am y perygl fod "posibiliadau technolegol a maint yr elw yn diffinio pwy ydym ni ac, yn sydyn iawn, rydym wedi colli pwy ydym ni fel gwlad ac fel gwahanol genhedloedd".

Roedd hyn, meddai, yn "rhywbeth y mae angen inni ei ystyried yn ogystal ag ymelwa ohono".

Atebodd Syr John: "Byddwn yn dweud, er bod darlledu wedi'i gadw [cyfrifoldeb Llywodraeth y DU] nid yw chwaraeon.

"Ac, felly, rydyn ni bob amser wedi dweud pe bai Senedd Cymru yn dadlau'n gryf iawn bod angen i ni edrych eto ar y digwyddiadau rhestredig er lles chwaraeon yng Nghymru y byddem yn edrych arno, yn sicr.

"Felly nid yw [y mater] ar gau."

Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig