Ystyried newidiadau i fysiau'r gogledd yn sgil rheol 20mya
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhai teithiau bysiau yn y gogledd gael eu diwygio'n sylweddol oherwydd effaith "enfawr" y cyfyngiadau 20 milltir yr awr.
Mewn e-bost sydd wedi ei weld gan raglen Newyddion S4C, mae cwmni bysiau Arriva yn awgrymu cyfres o newidiadau i sawl taith sy'n cynnwys hepgor rhai safleoedd a chwtogi ar eraill.
Dywedodd un arbenigwr y gallai sgil effeithiau cyflwyno'r rheol 20mya a thoriadau i gyllidebau rhwydweithiau ledled Cymru ei gwneud hi'n "anodd iawn" i ostwng lefelau traffig ar y ffyrdd.
Yn ôl cwmni bysiau Arriva mae "adolygiad pellgyrhaeddol" o'u rhwydwaith yn digwydd wrth i'r cyfyngiadau achosi "amodau heriol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r cynllun 20mya "yw'r newid mwyaf i ddiogelwch cymunedau mewn cenhedlaeth", ac mai'r nod yn y pendraw yw rhoi blaenoriaeth i fysiau.
'Ni fydd y newidiadau yn boblogaidd'
Mewn e-bost a gafodd ei anfon gan un o swyddogion Arriva i gynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol yn y gogledd, mae sawl newid arfaethedig yn cael eu hawgrymu.
Mae'r e-bost yn pwysleisio nad yw'r newidiadau wedi dod i rym, ond mae'r awdur yn cydnabod na fyddai'r newidiadau "yn boblogaidd ond mae'n rhaid gweithredu ar amser".
Yn ôl y ddogfen mae sawl taith bellach yn cymryd llawer hirach i'w cwblhau:
Bws rhif 5 - Caernarfon / Bangor / Llandudno - 12 munud yn hirach y ddwy ffordd;
Bws rhif 4 - Bangor / Caergybi - 11 munud yn hirach y ddwy ffordd;
Bysiau rhif 14/15 - Llysfaen / Conwy - 5 munud yn hirach y ddwy ffordd.
Mae teithiau hirach ar fysiau eraill hefyd yn cael eu trafod gyda chynllun i ddiwygio'r teithiau sy'n peri gofid.
Mae'r e-bost yn awgrymu fod ardaloedd fel Deganwy, Bae Colwyn a Hen Golwyn yng Nghonwy yn arafu nifer o deithiau gan eu bod yn ardaloedd poblog lle mae'r cyfyngiadau 20mya yn fwy amlwg.
Beth allai newid?
- Er mwyn sicrhau prydlondeb, mae'r gwasanaeth yn ystyried peidio a gollwng teithwyr ar fysiau 4, 5 a 58 ar dir Ysbyty Gwynedd ond yn hytrach ar y lôn.
- Ar daith bws rhif 5 mae awgrym i hepgor Abergwyngregyn unai yn gyfan gwbl neu yn rhannol a chwtogi'r gwasanaeth i unwaith yr awr yn hytrach na phob 20 munud.
- Mae awgrym tebyg i gyfyngu ar y nifer o weithiau mae bysiau yn dod drwy ardaloedd fel Llanfairfechan, Penmaenmawr, Gerlan, lonydd ym Mangor a mwy.
- Tra bod sôn am gynnig bysiau ychwanegol ar rhai teithiau, mae'r ddogfen yn dweud nad yw hynny yn gynaliadwy fel ateb tymor hir "oherwydd y gost".
Targed Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod 45% o deithiau yn cael eu gwneud drwy gerdded, beicio neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2040.
Yn ôl y Gohebydd Trafnidiaeth Rhodri Clarke, mae o'n deall pam bod mesurau o'r fath ar y gweill ond rhybuddio am yr effaith bosib ar gymunedau.
"Dwi'n meddwl y bydd hi'n anodd iawn i'r llywodraeth gyrraedd eu targed o leihau faint mae pobl yn defnyddio ceir o 10%," meddai.
"Mae bysiau yn mynd i bob cymuned yng Nghymru a dydi trenau ddim.
"Y bws ydy'r ateb ond be da 'ni'n gweld ydy'r llywodraeth yn peidio rhoi digon o bres i mewn i'r gwasanaeth felly 'da ni am weld llai o bobl yn defnyddio'r bysiau... mwy o doriadau ac efo 20mya ar ben hyn i gyd mae'r sefyllfa yn edrych yn llwm."
Mae'r e-bost hefyd yn nodi mai newidiadau posib i rwydwaith Bangor/Llandudno yw'r rhain, ac y byddai'r cwmni'n edrych ar newidiadau posib yn ardaloedd Y Rhyl, Wrecsam a Chaer hefyd.
Mae Arriva eisoes wedi gwneud toriadau mawr i'w gwasanaeth bysiau ar Ynys Môn.
Yn ôl data diweddaraf Llywodraeth Cymru mae 37% o lonydd Cymru bellach yn 20mya a 3% yn parhau yn 30mya.
Mae cwmni Arriva yn dweud fod cyflwyno'r rheol 20mya wedi cael effaith ar brydlondeb.
"Mi fydd unrhyw newid yn effeithio ar ein defnydd o adnoddau, ar ba mor aml y mae bysus yn rhedeg ac yn arwain at newidiadau i deithiau er mwyn gwella prydlondeb a gwella ein darpariaeth i gymunedau.
"Rydym yn trafod goblygiadau hyn gyda'r awdurdodau."
Barn y pleidiau
Gyda'r cyfyngiad cyflymder yn parhau yn daten boeth wleidyddol, dywedodd Llŷr Gruffudd, yr aelod Plaid Cymru o'r Senedd, ei fod yn deall y straen sydd ar y rhwydwaith.
"Be ni'n gweld rŵan yw cyfle arall i'r system grebachu, gyda'r system ddadreoledig yn golygu - i bob pwrpas - bod cwmnïau bysiau yn gallu dewis y routes ma' nhw'n defnyddio," meddai.
"Mi addawyd gwelliant mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o gyflwyno system cyflymdra newydd ond nid yn unig 'da ni'm yn gweld gwelliant, ond maen nhw'n symud am yn ôl."
Yn ôl Tom Giffard, yr Aelod Senedd Ceidwadol, mae'r posibilrwydd o newidiadau yn y gogledd yn siomedig.
"Os ni moyn llai o bobl yn gyrru ceir ar draws Cymru mae'n bwysig fod trafnidiaeth gyhoeddus yn gyflym a ddim yn rhy ddrud," meddai.
"Mae'r rhan fwyaf o deithiau sy'n digwydd ar draws Cymru yn digwydd ar y bws felly mae'n bwysig fod y llywodraeth yn blaenoriaethu hyn."
'Rhoi blaenoriaeth i fysiau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y symudiad tuag at 20mya yw'r newid mwyaf i ddiogelwch cymunedau mewn cenhedlaeth - mae'n achub bywydau ac yn gwneud ein cymunedau yn fwy diogel i bawb, gan gynnwys gyrwyr.
"Ry'n ni wedi bod yn glir o'r dechrau y byddwn yn monitro cyflwyniad 20mya ar wasanaethau bws, ac yn cydnabod y gellir bod rhai effeithiau yn y dyddiau cynnar.
"Y datrysiad yma yw rhoi blaenoriaeth i fysiau, ac nid cyflymder uwch mewn mannau trefol."
Ychwanegodd y bydd mwy o nawdd yn cael ei roi i wasanaethau bws yn rownd nesaf grantiau'r llywodraeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023