Rheol 20mya: Beth yw'r farn ar ôl mis?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth yw barn pobl Sir Gâr ar y newid?

Mae'n fis ers i'r terfyn cyflymder mewn ardaloedd adeiledig newid o 30mya i 20mya yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y terfyn is yn lleihau gwrthdrawiadau a marwolaethau ar y ffyrdd, sŵn a llygredd ac yn annog mwy o bobl i gerdded neu feicio.

Ond mae'r newid i'r gyfraith wedi hollti barn, a deiseb yn gwrthwynebu'r terfyn wedi denu'r nifer uchaf erioed o lofnodion.

Mis ers dod i rym, sut mae'r cyhoedd yn teimlo erbyn hyn? Dyma ymateb rhai o bobl Sir Gaerfyrddin.

'42 newid i'r speed limit mewn 20 milltir'

Mae Rhys Wyn Davies o Lanbedr Pont Steffan yn anhapus bod y terfyn cyflymder yn newid nifer o weithiau mewn pellter byr.

Meddai: "Weda i wrtho chi, ni wedi mesur y peth o Cwmann i'r roundabout gyferbyn â'r ysbyty a mae 42 o newidiadau speed limits, 42!

"Fi'n credu bod hynny mewn 20 milltir mas o bob rheswm."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Wyn Davies wedi cyfri' 42 o newidiadau i'r terfynau cyflymder mewn taith 20 milltir yn ei ardal

Mae Rhys yn cytuno bod newid y terfyn i 20mya yn syniad da "wrth ymyl ysgol, neu ysbyty neu gartref hen bobl, ond ar hewl agored, dwi ddim yn cyd-fynd ag e o gwbl i ddweud y gwir".

Un arall sy'n teimlo yr un fath yw Ceris Howells o New Inn.

"Mae'n teimlo yn slow. Fi'n credu ma' pawb yn cytuno," meddai.

"Yn enwedig ble ni'n byw yn New Inn, s'dim ysgol i ga'l, s'dim tafarn na dim byd, so ma' gweld 20 mewn pentre' fel 'ny falle bach yn ddiangen.

"Yn Pencader wedyn ma' ysgol i ga'l, ma' fwy o bywyd social i ga'l so mae e'n gwneud fwy o synnwyr os mae plant ar y hewl, mae e'n fwy saff iddyn nhw."

'Gyrrwr mwy gofalus'

Mae Alun Stedman o Lanpumsaint yn cefnogi'r terfyn newydd ac yn credu ei fod bellach yn yrrwr mwy gofalus.

"Achos bo' chi'n mynd fwy ara' chi'n tueddu i edrych yn fwy i'r ochr neu mewn i gerddi pobl, ma' hynna'n sicr yn digwydd gyda fi," eglura.

Ond mae'n pryderu nad yw'n cofio'r terfyn cyflymder wrth yrru.

Disgrifiad o’r llun,

Er yn cytuno gyda'r newid, mae Maria ac Alun Stedman o Lanpumsaint yn gweld lle i wella

"Y broblem fwya' fi'n gweld pan fi'n gyrru yw pryd ma fe'n dechre a pryd ma' fe'n gorffen, mor syml â hynna.

"Rwy'n credu bod cyfarwyddo yn hollbwysig a chofio le ma' nhw. Rwy'n 'neud bron yr un siwrne yn ddyddiol a chi'n cofio fel o'ch chi'n gyrru dros fis yn ôl a'n anffodus, mae eich cydwybod chi dal i yrru fel 'na."

Mae ei wraig, Maria Stedman, yn rhannu'r un pryderon â'i gŵr ond yn credu y byddai mwy o baratoi wedi gwneud gwahaniaeth.

"S'mo'r arwyddion i gyd wedi cael eu newid i ddechre, felly ma' pobl yn meddwl dyle hwn fod yn 20 neu 30.

"Fi'n credu dyle fwy o amser wedi cael ei roi mewn i baratoi a neud e'n glir i fodurwyr fel dylen nhw fihafio ar yr hewl."

'Gyrru rhy araf yn beryglus'

Yn ôl Jason Davies, gyrrwr lori o Bencader, pobl yn gyrru ar gyflymder is na'r terfyn newydd sy'n beryglus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jason Davies yn dweud ei fod wedi bod yn agos at wrthdrawiadau sawl tro yn ei lori

"Ma' fe bach yn beryglus ar y funud, ma' pobl yn gwneud byti 13, 14mya mewn zone 20mya.

"Ni'n dod lan â 40 tonnes tu ôl nhw a ni byti ca'l accident sawl gwaith. Ni'n colli pŵer yn mynd lan rhiw a newid gears. Ma' fwy o pollution yn mynd i fod."

'S'dim hast'

Mae Sion Thomas yn dod o Bencader hefyd ond fel gyrrwr car, mae wedi bod yn "ddigon hapus" i arafu ac addasu gan bod ei gar "yn ddigon araf".

"S'dim hast 'da fi i unman," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sion Thomas wedi sylwi ar y gwahaniaeth wrth gerdded ar hyd y strydoedd ers y newid

"Fi'n gwybod dyddie 'ma ma pawb yn hastu mewn quick culture ond falle bydd e'n dysgu pawb i slowo lawr a parchu'r hewlydd a joio'r golygfeydd wrth iddyn nhw ddreifo.

"I ddechrau 'da, mae e'n anodd trial adjusto i'r limits newydd ond fi'n credu bod e'n gwd peth reallyachos ma' fe'n neud y trefi a'r pentrefi lot saffach i gerdded.

"Fi'n cerdded y ci bob dydd a fi'n gweld bod e lot hawsach i symud rownd y pentref nawr heb becso gymaint."

'Canolbwyntio mwy ar y dashboard nag ar yr hewl'

Er bod Angela Davies o Gellan yn gwneud ei gorau i addasu, mae ganddi deimladau cymysg o hyd.

Disgrifiad o’r llun,

Does gan rai gyrwyr ddim amynedd, meddai Angela Davies

"Fi'n trial cadw iddo fe y gorau galla i ond mae e yn hala chi'n grac ar brydiau.

"Mae rhai yn paso chi. S'dim yr amynedd 'da nhw i fynd y speed 'na.

"I fi, chi'n canolbwyntio fwy ar y dashboard na beth y'ch chi ar yr hewl."

Beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud?

Wrth gyflwyno'r terfyn newydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters y byddai'n atal rhai o'r tua 80 o farwolaethau ar hen ffyrdd 30mya bob blwyddyn.

Dywedodd: "Fe fydd yn cymryd tua mis i bobl newid eu harferion ond unwaith iddyn nhw ddod i arfer ag e fe fyddan nhw'n gweld y manteision sef mwy o amser meddwl, mwy o bellter stopio... mae'n achub bywydau."

Amcangyfrif cost cyflwyno'r rheol yw £33m.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu y bydd £58m yn cael ei arbed dros gyfnod o 30 mlynedd, oherwydd y bydd strydoedd mwy diogel yn golygu llai o alw am gymorth gwasanaethau brys mewn damweiniau a thriniaethau ysbyty.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Hoffwn ni ddiolch i bawb ar draws Cymru wrth i'r terfyn cyflymder 20mya newydd gael ei gyflwyno. Mae newid yn gallu bod yn anodd, ond bydd hyn yn helpu gwneud ein cymunedau'n fwy diogel.

"Mae'n rhy gynnar i roi barn bendant ar effaith [y broses]. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill i hysbysu gyrwyr am fanteision gyrru'n arafach."

Pynciau cysylltiedig