Toriadau bysiau: 'Sut dwi fod i gyrraedd yr ysbyty?'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Eileen Jones: 'Fydd hi'n sobor arnon ni'

Mae pryderon fod pobl bregus yn cael eu 'hynysu' o wasanaethau hanfodol yn sgil toriadau i'r gwasanaethau bws.

Fe ddaw'r pryderon wedi penderfyniad gan gwmni Arriva i stopio gwasanaethu rhai pentrefi ar Ynys Môn yn gyfangwbl.

Yn ôl y cwmni fe wnaed y penderfyniad oherwydd y niferoedd oedd yn eu defnyddio, a'r amser ychwanegol i groesi'r Fenai oherwydd y gwaith atgyweirio ar Bont y Borth.

Ychwanegon nhw fod llai o alw ers y pandemig a'u bod yn cael llai o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl arweinwyr cymunedol, mae rhai ardaloedd yn wynebu cael eu gadael ar ôl ac heb gysylltiad â gwasanaethau hanfodol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i gynllunio "gwasanaethau gwell a mwy sefydlog", ac i "drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau bysiau eu cynllunio a'u darparu yn y dyfodol".

'Fydd hi'n sobor arnon ni'

O'r wythnos hon ni fydd y gwasanaethau '4' arferol rhwng Bangor a Chaergybi bellach yn stopio yn Llanddaniel, Bodedern, Trefor, Gwalchmai Uchaf, Llynfaes, Ty'n Lôn na Bodffordd.

Un o'r rheiny sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad yw Eileen Jones, sy'n 85 oed ac wedi arfer dal y bws o Walchmai Uchaf.

Bellach, er mwyn dal bws i Fangor neu Gaergybi, mae'n wynebu cerdded bron i filltir i'r safle bws yng nghanol Gwalchmai.

"Fyddai'n iwsho lot ar y bysys achos mae'r plant i gyd yn gweithio," meddai wrth Cymru Fyw.

"Fyddai isho mynd i Ysbyty Gwynedd a'r sbectol ym Mangor, dentist yn Menai Bridge a wedi gorfod mynd i Ysbyty Penrhos [Caergybi] hefo fy nghoes.

"Allai byth fynd i fyny ac i lawr [i'r pentref] de.

"Mae 'na lot o bobl yng Ngwalchmai heb deulu, mae nhw'n dibynnu arno... fydd hi'n sobor arnon ni, yn y tŷ fyddan ni mae arna'i ofn.

"Dwi'n gobeithio'n wir wnawn nhw newid eu meddwl."

Fe ddioddefodd Terrence Thomas, 67, hefyd o Walchmai Uchaf, strôc chwe mlynedd yn ôl.

Gyda'r cyn-yrrwr lori bellach yn hollol ddibynnol ar y bws, dywedodd y bydd yn effeithio ar ei annibyniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Terrence Thomas a Eileen Jones o Walchmai Uchaf yn hollol ddibynnol ar y bws

"Fedrai'm cerdded hefo'r goes, dwi'n colli balans yn sobor," meddai.

"Yn lle mae o rŵan dwi'n gallu dal y bws, ond fedrai'm mynd fy hun.

"Mae tua milltir dwi'n siŵr [i safle bws Gwalchmai]... mae am gael effaith, dwi'n licio cael mynd i Langefni, a'r ysbyty ym Mangor a'r deintydd yn y Fali."

Yn ôl y cynghorydd lleol, Neville Evans, mae'r rhan fwya' o boblogaeth y pentref yn byw yng Ngwalchmai Uchaf.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r gwasanaethau yna yn reit warthus i fod yn onest"

"Mae 'na nifer yn dibynnu ar y bysys ar gyfer gwaith ac apwyntiadau ysbyty," meddai.

"Mae Gwalchmai yn bentref reit ddifreintiedig beth bynnag.

"Mae nhw hefo'r agenda werdd 'ma, sy'n trio symud pobl o'r car i ddefnyddio bysys a'r trenau, ond mae'r gwasanaethau yna yn reit warthus i fod yn onest."

'Am ddod yn diffeithwch'

Pentref arall sy'n cael ei effeithio gan benderfyniad Arriva yw Bodedern, a gynhaliodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017.

Er yn gartref i dros 1,000 o bobl, mae penderfyniad Arriva i atal yr holl wasanaethau drwy'r pentref yn golygu fod trigolion yn wynebu cerdded bron i ddwy filltir i ddal y gwasanaethau gynt i Fangor neu Llangefni.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones fod peryg o "ynysu'r gymuned".

"Mae 'na nifer o dai yn cael eu hadeiladu ym Modedern, ac i gael pentref fel yna heb fath o drafnidiaeth cyhoeddus.... mae am ddod yn ddiffeithwch i ddweud y gwir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorwyr Ken Taylor a Gwilym O Jones yn dweud eu bod wedi derbyn llu o gwynion yn sgil y penderfyniad

"Dwi'n gwerthfawrogi fod pwysau gan yr awdurdod lleol i gael bws neu ddau i Gaergybi, ond yn Llangefni mae'r gwasanaethau mae pobl eu hangen.

"Dwi 'di cael toman o e-byst a galwadau ffôn, a nifer yn fy stopio ar y stryd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Ken Taylor: "'Da ni'n dallt mai cwmni preifat ydi Arriva ond dwi'n meddwl fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru yma, ond mae hefyd yn deillio o'r arian sy'n dod o Lundain.

"Dwi'n credu dylia Llywodraeth Cymru roi arian i Cyngor Môn i greu cynllun peilot i gael cwmni bysiau ein hunain yma ar yr ynys... rhywbeth gwahanol."

'Dim synnwyr i'n torri i ffwrdd'

Fe ddywedodd Kirsty Widders, 32, sy'n byw ym Modedern ac yn fam i blentyn 8 oed: "Mae llawer o bobl dwi'n dal y bws gyda nhw yn bryderus iawn gan nad oes gan bawb gar na theulu'n agos, mae un ddynes yn mynd i Langefni ar gyfer ffisio, mae ganddi zimmer frame ac yn mynd unwaith yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty Widders: "Mae pobl yn mynd i fod yn colli eu swyddi, yn colli apwyntiadau ac yn methu gweld teulu a ffrindiau"

"Does dim ffordd all hi gerdded milltir a hanner i'r safle bws agosaf... da ni'n sôn am fywydau pobl yma, os ydi hynny'n resymau meddygol neu gwaith.,

"Mae'n 2023, fe ddylen ni gael bws o'n pentref... 'di o'n gwneud dim synnwyr i mi ein bod yn cael ein torri i ffwrdd.

"Roedd dynes yn defnyddio'r bws i fynd i'w gwaith yn Llangefni, beth mae hi'n mynd i'w wneud? Mae pobl yn mynd i fod yn colli eu swyddi, yn colli apwyntiadau ac yn methu gweld teulu a ffrindiau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref Bodedern ymysg y cymunedau i golli'r holl wasanaethau ar hyd yr A5

"Dwi'n dibynnu arno ar gyfer siopa bwyd ac ar gyfer fy iechyd meddwl, jyst i gael mynd allan .... os ydi'n dywyll, a fydd hi yn fuan, 'da ni fod i gerdded ar ffordd fawr brysur?"

'Gwbl anfoesol'

Yn dilyn penderfyniad Arriva dywedodd Cyngor Môn y byddai'n edrych ar opsiynau i gyfeirio gwasanaethau eraill mae'n nhw'n helpu eu cyllido drwy'r pentrefi rheiny.

Ond er llwyddo i wneud hynny i gynorthwyo rhai pentrefi, ychwanegon nhw byddai'n "annhebygol" o allu cynnig yr un lefel o amlder bysiau a ddarparwyd gynt.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Llinos Medi: "Fedran ni ddim llenwi'r bwlch yna yn gyllidol ac mae dargyfeirio bysys yn cael effaith ar ardaloedd eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Medi: "Mae trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardal wledig angen ymyrraeth gwahanol"

"Mae 'na ddiffyg amser cynllunio a chyfleon i drafod achos maen nhw [Arriva] bron wedi printio'r amserlen newydd cyn i ni gael lleisio barn."

Fe ychwanegodd: "Mae ardaloedd fel Ynys Môn yn haeddu yr un gwasanaeth a mynediad i waith ac addysg ag ardaloedd dinesig.

"Mae pawb yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ond sut allwn ni pan does na ddim gwasanaeth yn bodoli?

"Mae diffyg dealltwriaeth yr heriau gwledig yna wedi gadael ardaloedd heb gysylltiad... mae angen ymyrraeth gwahanol"

'Neges ddryslyd'

Fis Awst daeth rhybudd y gallai hyd at 25% yn rhagor o wasanaethau bws yng Nghymru ddiflannu pe bai'r cwmnïau yn methu â sicrhau mwy o arian tymor hir gan Lywodraeth Cymru.

Ond er cynnig grant "dros dro" gan y llywodraeth o £46m, does dim sicrwydd y bydd mwy.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod torri gwasanaethau tra'n annog mwy i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhoi "neges ddryslyd".

Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth: "Mae angen gwneud yn siŵr fod y lefel sylfaenol yna'n cael ei gynnal"

"Mae 'na bobl yn cwestiynu sut i gael plant i'r ysgol, cyrraedd y gwaith neu ysbyty, mae'r penderfyniadau ma'n cael effaith drom ar fywyd bob dydd pobl," meddai wrth Cymru Fyw.

"'Dan ni angen llawer mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac arloesi, dod o hyd i syniadau newydd.

"Does dim posib cael bws i bob man bob awr, ond mae angen gwneud yn siŵr fod y lefel sylfaenol yna'n cael ei gynnal."

Dywedodd Virginia Crosbie AS: "Mae'n gwbl hurt bod Mark Drakeford eisiau rhoi'r gorau i ddefnyddio ceir drwy wneud i ni gyd fynd ar gyflymder o 20mya ond ni fydd yn buddsoddi'n ddigonol yn nhrafnidiaeth fysiau gogledd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Virginia Crosbie: "Mae Llafur Cymru yn hapus i wario £1.6 biliwn ar Fetro De Cymru, gan ysgogi buddsoddiad a swyddi i lawr yn y de"

"Mae Llafur Cymru yn hapus i wario £1.6 biliwn ar Fetro De Cymru, gan ysgogi buddsoddiad a swyddi i lawr yn y de.

"Dim trydedd pont, dim gwasanaethau bws tra, ar yr un adeg, yn hapus i fod yn wrth-dwristiaeth ac yn erbyn cerbydau mewn lleoliadau gwledig, sydd wir angen y ddau."

'Adlewyrchu newidiadau yn y galw'

Dywedodd llefarydd ar ran Arriva Cymru: "Mae teithwyr wrth galon popeth mae Arriva yn ei wneud ac rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod ein gwasanaethau'n gallu rhedeg er mwyn cael pobl i ble mae angen iddyn nhw fynd, ond mae'n rhaid i'r gwasanaethau hynny fod yn ariannol hyfyw.

"Mae newidiadau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau bws ar ôl Covid wedi arwain at ddiwygiadau i rwydwaith Arriva ar draws gogledd Cymru.

"Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i leihau effeithiau hyn ond mewn rhai achosion rydym wedi gwneud newidiadau i adlewyrchu newidiadau yn y galw ar ôl Covid."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi darparu mwy na £190m i'r diwydiant bysiau i'w gefnogi drwy'r pandemig a thu hwnt, gan gynnwys £46m arall ym mis Mai.

"Rydym yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i roi cynlluniau cadarn ar waith i ddarparu gwasanaethau bws gwell a mwy sefydlog i gymunedau ledled Cymru.

"Bydd ein deddfwriaeth bysiau newydd yn nodi ein bwriadau i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau bysiau eu cynllunio a'u darparu yn y dyfodol."