Storm Babet: Enwi mam a merch fu farw ar yr M4
- Cyhoeddwyd

Bu farw Cheryl Woods a Sarha Smith mewn digwyddiad ar yr M4 ddydd Gwener
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau mam a merch a fu farw yn ystod Storm Babet ddydd Gwener.
Roedd Cheryl Woods yn 61 oed a'i merch Sarha Smith yn 40. Roedd y ddwy yn dod o Gaerffili.
Bu farw'r ddwy mewn gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd ar yr M4 yn Sir Wiltshire yn ne-orllewin Lloegr am tua 09:10 ar 20 Hydref.
Cafodd dau berson arall oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad fân anafiadau a chawsant eu trin gan barafeddygon yn y fan a'r lle, meddai Heddlu Wiltshire.
Mewn teyrnged, dywedodd y teulu fod Cheryl Woods yn berson "annwyl", yn "fam ac yn fam-gu gariadus", ac yn "chwaer a ffrind annwyl".
Ychwanegon nhw fod marwolaeth Sarha Smith yn gadael "gwagle" ond y byddai ei chwe merch yn "cofio amdani am byth".