Mesurau rhag llifogydd ddim wedi'u gweithredu'n llawn

  • Cyhoeddwyd
Y llifogydd ym Metws Cedewain ym Mhowys ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Josh Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y llifogydd ym Metws Cedewain ym Mhowys ddydd Sadwrn

Chafodd y mesurau amddiffyn rhag llifogydd ddim eu gweithredu'n llawn mewn un pentref ger Wrecsam, medd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wrth i ddŵr lifo i gartrefi.

Fore Sul bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân a ffermwr a'i dractor achub rhai pobl o'u cartrefi yn Nhrefalun.

Mae trigolion yn honni na chafodd rhwystr slatiog a phwmp eu defnyddio - maen nhw fel arfer yn cael eu defnyddio cyn i lefelau'r dŵr godi.

Dywed CNC eu bod yn ymchwilio pam na chafodd y mesurau amddiffyn eu gweithredu'n llawn.

Disgrifiad o’r llun,

Ffordd wedi gorlifo yn Nhrefalun wedi Storm Babet

Dywed Iwan Williams, un o'r rheolwyr, bod ei dîm wedi gweithio drwy'r penwythnos er mwyn lleihau effaith y tywydd eithafol.

"Ry'n rwan yn ymchwilio pam na chafodd ein hamddiffynfeydd eu defnyddio'n llawn er mwyn lleihau effaith y tywydd eithafol," meddai.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y dŵr wedi cyrraedd hyd at ganol corff pobl mewn un tŷ ac hyd at bigyrnau trigolion mewn tai eraill.

Mae lefel dŵr Afon Alun wedi bod yn uwch nag erioed ers i Storm Babet daro gyntaf ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Freda Shaw
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r rhybudd llifogydd difrifol ddim bellach mewn grym yn Llandrinio

Un rhybudd llifogydd sydd bellach mewn grym yng Nghymru - sef ar Afon Dyfrdwy ar gyrion Wrecsam.

Mae'r tir o gwmpas Trefalun 7m uwch lefel y môr ac yn aml yn debygol o gael llifogydd.

Fore Sul dywedodd CNC nad oedd y rhybudd llifogydd a osodwyd ar gyfer Llandrinio bellach mewn grym.

Mae'r llifogydd wedi effeithio ar rai o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ac mae disgwyl i hynny barhau nos Sul.

Pynciau cysylltiedig