Newid y llinyn mesur i daclo 'argyfwng' presenoldeb disgyblion

  • Cyhoeddwyd
dosbarth gwagFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd miloedd yn fwy o blant yn cael eu diffinio'n absennol yn "barhaus" dan gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag "argyfwng" presenoldeb.

Ar hyn o bryd, bod yn absennol am o leiaf 20% o sesiynau ysgol yw'r llinyn mesur, ond bydd hyn yn newid i 10% o sesiynau, fel sydd eisoes yn digwydd yn Lloegr.

Yn ôl y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fe fydd hyn yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael cymorth yn gynnar, cyn i'r sefyllfa waethygu.

Mae canllaw newydd y llywodraeth hefyd yn nodi mai dim ond ar ôl ystyried pob opsiwn arall y dylid rhoi dirwy i rieni.

Faint o broblem yw presenoldeb?

Mae'n "argyfwng" yn ôl Llywodraeth Cymru ac arweinwyr ysgolion. Dywed Mr Miles mai gwella presenoldeb yw ei "brif flaenoriaeth" ac mae wedi sefydlu tasglu.

Mae data yn awgrymu bod lefelau absenoldeb bron dwbl yr hyn oedden nhw cyn Covid-19.

Mae rhai plant wedi ei chael hi'n anodd dychwelyd i safleoedd ysgol prysur ac mae eraill wedi dod allan o'r arfer o fynd i'r ysgol yn rheolaidd wedi'r holl darfu.

Mae plant gydag anghenion dysgu ychwanegol a disgyblion sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o fod yn absennol.

Pam newid y diffiniad o absenoldeb parhaus?

Ar hyn o bryd mae disgyblion yn absennol yn "barhaus" os ydyn nhw'n colli o leiaf 20% o sesiynau hanner diwrnod ysgol, sy'n cyfateb i tua 30 diwrnod ysgol.

Mae hynny'n cael ei newid i 10% o sesiynau ysgol, sef y diffiniad sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr.

Yn ôl ffigyrau diweddar ar gyfer plant ysgol uwchradd, dan yr hen ddiffiniad, roedd 16.3% o ddisgyblion 11-15 oed yn absennol yn barhaus yn y flwyddyn ysgol ddiwethaf - tair gwaith yn uwch na chyn y pandemig.

Y ffigwr oedd 35.6% i blant sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Yn dilyn y newid, fe fydd y canrannau yn uwch o lawer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd newid y diffiniad yn golygu bod problemau'n cael eu gweld yn gynt er mwyn targedu cymorth.

Mae'n aml yn sbardun ar gyfer cymorth ychwanegol gan y Gwasanaeth Lles Addysg, er enghraifft, sy'n gweithio gydag ysgolion a theuluoedd i hybu presenoldeb a gwella lles.

Beth sy'n digwydd pan mae plentyn yn absennol yn aml?

Mae'r canllaw newydd yn dweud bod meithrin perthynas dda gyda theuluoedd yn hanfodol.

Mae yna bwyslais ar gyfathrebu'n glir gyda rhieni am bwysigrwydd presenoldeb a phrydlondeb ac am oblygiadau colli ysgol.

Mae gan lawer o ysgolion Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd sy'n cynnig cymorth arbenigol i helpu i gael disgyblion yn ôl i'r dosbarth.

Os oes problem fwy dwys yna fe all ysgol ofyn am gymorth gan un o Swyddogion Lles Addysg yr awdurdod lleol.

Pryd mae dirwyon yn cael eu defnyddio?

Awdurdodau lleol ac ysgolion sy'n penderfynu os dylid rhoi dirwy i rieni.

"Dim ond mewn achosion eithafol y defnyddir dirwyon o'r fath, ar ôl i bob ymdrech i ymgysylltu â'r teulu fethu â chael effaith", yw'r hyn sy'n cael ei ddweud yn y canllawiau.

Fe ddylai'r ysgol roi rhybudd yn y lle cyntaf, yn ôl y canllaw, a dylai ysgolion ystyried a fydd dirwy yn ffordd effeithiol i gael plentyn yn ôl i'r ysgol.

'Argyfwng cenedlaethol'?

Dyna farn arweinwyr ysgolion. Yn ôl undeb ASCL Cymru, does gan ysgolion ddim digon o arian i daclo'r broblem.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydden nhw'n gwyrdroi toriadau cyllid ysgolion ac yn targedu cefnogaeth yn fwy i bobl ifanc sy'n colli ysgol oherwydd problemau iechyd meddwl.

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar bresenoldeb, gan gynnwys costau fel trafnidiaeth.