Absenoldebau ysgol wedi mwy na dyblu ers cyn y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae cyfradd absenoldebau disgyblion yng Nghymru wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, o'i gymharu â chyn y pandemig.
Ar gyfartaledd dros y flwyddyn, roedd 16.3% o ddisgyblion yn absennol o ysgolion uwchradd, i fyny o 6.2% yn 2018-19, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.
Mewn ysgolion cynradd, roedd 11% o ddisgyblion yn absennol yn y flwyddyn ysgol sydd newydd ddod i ben - o'i gymharu â 5.4% y flwyddyn gynt.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu bron i £4m ar gyfer swyddogion sy'n ymwneud â theuluoedd er mwyn hybu presenoldeb disgyblion.
Mae'r ffigyrau ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfan rhwng Medi 2021 a Gorffennaf 2022 yn dangos bod dros 88% o ddisgyblion wedi colli dros wythnos o ysgol am unrhyw reswm.
Hefyd roedd dros 68,000 o blant - 14% o ddisgyblion - yn absennol am 40.5 diwrnod neu fwy.
Roedd cyfradd absenoldebau'n uwch ymhlith disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim - 18% - o'i gymharu ag 11.8% i'w cyd-ddisgyblion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y data mwy diweddar wedi ei gasglu mewn ffordd ychydig yn wahanol i'r ffigyrau cyn y pandemig.
Ond mae lefel presenoldeb yn y flwyddyn ysgol ddiweddaraf - 86.8% - llawer yn is na'r lefel cyn y pandemig sef tua 94%.
Ar ôl atal dirwyon yn ystod y pandemig, dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fis Mai y gallai ysgolion a chynghorau eu defnyddio unwaith eto pe bai angen.
Dywedodd arweinwyr ysgolion fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bresenoldeb.
"Mae'n ymddangos yn debygol iawn bod rhai myfyrwyr wedi dod allan o'r arfer o fynd i'r ysgol yn rheolaidd," meddai Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru.
Dywedodd bod eraill wedi dioddef o straen a phryder o ganlyniad i'r pandemig a bod eu presenoldeb wedi dioddef oherwydd hynny.
Fe fyddai'r plant mwyaf bregus a difreintiedig wedi eu taro waethaf, meddai, a hynny'n achos "pryder enfawr".
Galwodd ar Lywodraeth Cymru a chynghorau i sicrhau bod yna brofion Covid ar gael yn yr hydref yn ogystal ag awyru da mewn ysgolion, ac arian ar gyfer athrawon cyflenwi er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosib os yw achosion Covid yn cynyddu.
Rhybudd 'cenhedlaeth goll'
Dangosodd y data hefyd bod 94,136 o blant - neu un o bob pump - wedi methu 5.5 i 10 diwrnod yn yr ysgol am reswm yn gysylltiedig â Covid.
Fe wnaeth 69.1% o ddisgyblion fethu o leiaf hanner diwrnod oherwydd Covid.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn hanfodol i blant fod yn y 'stafell ddosbarth.
"Mae angen i weinidogion Llafur ddod i'r afael â phroblemau presenoldeb cyn creu cenhedlaeth goll," meddai arweinydd y blaid yn y Senedd, Andrew RT Davies.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu bron i £4m ar gyfer swyddogion sy'n ymwneud â theuluoedd er mwyn hybu presenoldeb.
"Mae ysgolion sy'n adnabod eu teuluoedd yn dda yn gallu sicrhau fod mesurau mewn lle i helpu disgyblion gyda'u hymrwymiad a'u presenoldeb, a dyma pam fod ein pwyslais ni ar gymuned yn allweddol wrth ymateb i'r her yma," meddai.
"Hefyd eleni fe wnaethon ni ddarparu £24m oedd wedi'i ffocysu ar ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, gan gynnwys arian penodol ar gyfer swyddog presenoldeb ym mhob awdurdod lleol i gefnogi dysgwyr ym mlwyddyn 11 er mwyn ceisio sicrhau eu bod yn cwblhau eu TGAU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd3 Mai 2022
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020