Sut i wella presenoldeb disgyblion wedi'r pandemig?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Merch ar ei ffôn yn y gwelyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod disgyblion ar eu ffonau symudol yn hwyr yn y nos yn cyfrannu at lefelau isel o bresenoldeb

Siarad yn hwyr yn y nos â ffrindiau, chwarae gemau neu ddefnyddio'r ffôn symudol ac felly codi'n hwyr yn y bore.

Dyna'r math o resymau pam bod rhai disgyblion mewn un ysgol wedi'i chael hi'n anodd dychwelyd wedi'r cyfnod clo.

Yn sgil y pandemig, mae'r Gweinidog Addysg wedi mynegi pryderon am y lefel isel o bresenoldeb sy'n fwy cyffredinol mewn rhai o ysgolion Cymru.

Fe gyhoeddodd yn gynharach y mis hwn y bydd dirwyon am absenoldebau oherwydd triwantiaeth yn cael eu hailgyflwyno.

Ond pwysleisiodd Jeremy Miles mai mewn achosion eithriadol y dylai hynny ddigwydd.

Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddai dirwyo rhieni sy'n ei chael hi'n anodd yn sgil yr argyfwng costau byw yn "anghyfiawn".

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, eisoes wedi cyhoeddi y bydd dirwyon yn cael eu hailgyflwyno am driwantiaeth

Mae'r Comisiynydd Plant newydd, Rocio Cifuentes, yn pwysleisio bod angen eu defnyddio "gyda gofal".

Yn ôl adolygiad ar ran Llywodraeth Cymru fu'n edrych ar batrymau absenoldeb, dolen allanol, mae yna "amrywiaeth o resymau" am hynny.

Ond mae'n nodi bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers Covid.

'Heriau ac effeithiau Covid'

Yn Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala mae yna ddau gymhorthydd cynhwysiant sy'n cysylltu'n rheolaidd â rhieni ac yn helpu rhai o'r dysgwyr.

"Erbyn hyn 'da ni'n gweld heriau ac effeithiau Covid yn sicr," meddai'r pennaeth Bethan Emyr Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Bethan Emyr Jones: 'Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan mor bwysig o'u bywydau nhw'

"Pethau bach fel cymhelliant, cyswllt llygaid, gwaith llafar 'da ni weld gweld dirywiad achos mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan mor bwysig o'u bywydau nhw.

"Mae'n amlwg eu bod nhw ar eu ffonau symudol yn hwyr yn y nos ac mae'r dysgwyr yn onest yn dweud hynny. Felly, wrth gwrs, mae trefn diwrnod felly wedi cael ei effeithio yn sicr."

Helpu a gweithio gartref

Rheswm arall dros absenoldebau, meddai, yw bod rhai disgyblion wedi bod yn gweithio ar fferm neu i fusnes teuluol dros y ddwy flynedd ddiwetha'.

Ychwanegodd Bethan Emyr Jones: "Dros y cyfnod clo maen nhw wedi bod yn helpu a gweithio gartref.

"Yn enwedig i blant hŷn yr ysgol - Blwyddyn 10,11 - roedd hi'n anodd iawn dod yn ôl i fyd ysgol wedyn yn eistedd drwy'r dydd yn gwrando ar eu hathrawon ar ôl bod mewn byd gwaith.

"Dwi'n cydymdeimlo, dwi'n deall bod hynny wedi bod yn anodd. Mae o 'di bod yn her i'r dysgwyr ond hefyd i'r staff i drio cyfarfod â nhw yn y canol a thrio rhoi hwb yn ôl i'w cymhelliant nhw i ddod yn ôl i'r ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod yn anodd cael rhai plant i setlo'n ôl o fewn trefn arferol yr ysgol, medd Glesni Jones

Mae Glesni Jones yn gymhorthydd cynhwysiant yn yr ysgol ac yn dweud bod ceisio annog rhai disgyblon yn ôl dal yn her.

"Gan bod nhw wedi bod adref am gyfnod hir yn styc yn eu llofftydd o'n i'n teimlo eu bod nhw'n cael job setlo yn ôl yn yr ysgol a chyfathrebu yn ôl efo'u ffrindiau a methu setlo yn ôl i routine dyddiol yr ysgol," meddai.

"'Dan ni dal yn gorfod ffonio ambell i gartre plant bregus a thrio eu hannog nhw ddod i'r ysgol felly mae o wedi bod yn gyfnod anodd iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerian yn fam i ddau o ddisgyblion Ysgol Godre'r Berwyn

Un rhiant sy'n pwysleisio pwysigrwydd y berthynas rhwng teuluoedd a'r ysgol ydi Cerian.

Mae gan ei mab awtistiaeth a bu'r cyfnodau clo yn "anodd" iddo.

Ond mae hi'n canmol y gefnogaeth sydd ar gael iddi hi yn yr ysgol, gan ddweud bod y staff wedi bod yn "ffantastig".

'Rhaid mynd at wraidd y broblem'

Mae'r pennaeth "i ryw raddau" yn croesawu ailgyflwyno dirwyon, ond mae ganddi hefyd rybudd.

"Ar ddiwedd y dydd heb gael y berthynas yna yn y lle cyntaf efo rhieni ac efo'r dysgwyr dydi dirwyon ddim yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth.

"Os nad ydi dysgwyr yn dod i'r ysgol mae 'na broblem ac mae'n bwysig bod ni'n dod i wraidd y broblem. Dydi dirwy bob tro ddim yn dod i wraidd y broblem."

Disgrifiad o’r llun,

Rocio Cifuentes: 'Canolbwyntio eleni ar wrando ar blant a'u teuluoedd am eu profiadau bywyd'

Roedd gweinidogion wedi annog cynghorau i beidio cyflwyno dirwyon am driwantio yn ystod cyfnod Covid.

Ond oherwydd pryderon am absenoldebau, bydd cynghorau yn dychwelyd i'r drefn cyn y pandemig.

"Rhaid defnyddio dirwyon gyda gofal," medd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, "gan bod risg y gall mesurau cosbol wthio teuluoedd i ffwrdd ac arwain atyn nhw'n dadgofrestru.

"Fe fydda i yn canolbwyntio eleni ar wrando ar blant a'u teuluoedd am eu profiadau bywyd nhw, gan gynnwys y rhesymau tu ôl absenoldebau parhaus."

Byddai cosbi rhieni yn "anghyfiawn" yn ystod argyfwng costau byw, meddai Heledd Fychan, sy'n Aelod o'r Senedd ac yn lefarydd dros addysg cyn-16 Plaid Cymru.

"Mae plant a'u teuluoedd yn dal i gael eu heffeithio gan y feirws, dydy o ddim wedi mynd i ffwrdd, felly mae angen i ni fod yn ofalus nad ydym yn cosbi rhieni am rywbeth sydd tu hwnt i'w rheolaeth".