Lluniau: Cymru Gudd
- Cyhoeddwyd
Mae Dylan Arnold yn mwynhau crwydro a thynnu lluniau o lefydd cudd y wlad.
Mae Dylan, sy'n gweithio fel ffotograffydd Ophthalmig i'r GIG, newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Cymru Gudd, sy'n gasgliad o'r lluniau mae o wedi eu tynnu tra'n crwydro dros y blynyddoedd.
Magwyd Dylan yn Nant Gwynant a Beddgelert, ond bellach mae'n byw yn Llanrug gyda'i deulu. Mae wedi bod yn gweithio ar ei brosiect Cymru Gudd ers tair blynedd.
Mae sawl un o'r lluniau yn dangos adeiladau diarffordd a dyma'r tro cyntaf i rai o'r lleoliadau hyn ymddangos mewn print. Mae'r lluniau a'r hanesion yn sôn am rai cymunedau sydd bellach wedi diflannu'n llwyr.
Dyma detholiad o'i waith ynghyd a disgrifiadau Dylan o'r llefydd dan sylw:
Bryn Gwyn, Ysbyty Ifan
Cartref disgynyddion Abraham Lincoln, yr 16eg Arlywydd o'r UDA.
Yn y ffermdy yma yng nghesail mynyddoedd Hiraethog mae gwreiddiau hanes Lincoln, pan deithiodd Ellen Morris, ei hen nain, o'i chartref ym Mryn Gwyn i Lerpwl, gyda'r Crynwyr o'r Bala.
Oddi yma hwyliodd i Pennsylvania i gychwyn bywyd newydd fel rhai o'r setlwyr cyntaf i fyw yno.
Tan y Garret, Dinorwig
Y tŷ uchaf yng Nghymru a fu unwaith yn gartref i Goronwy Owen a'i deulu.
Yn blentyn, cofiai Goronwy ei fam yn ei ddeffro o a'i frodyr i weld awyrennau Almaenaidd yn hedfan dros Lyn Padarn islaw eu cartref.
Cerflun o Horatio Nelson
Mae'r cerflun yn cuddio mewn eiddew yng nghoedwig sy'n rhan o ardd breifat a fu unwaith yn rhan o ardd addurniadol plasty mawr.
Yn ôl y sôn, yr Arglwydd Clarence Paget, Plas Newydd, greodd y penddelw fel ymarfer cyn creu'r cerflun enwog o Nelson sydd yn sefyll ar lan Afon Menai, ger Pont Britannia.
Y Sbienddrych, Corris
Crëwyd y twnnel rhyfeddol hwn gan beiriant anferthol, Fictorianaidd, o'r enw'r Double Tunneller.
Oherwydd maint y peiriant, a'r problemau o'i ddefnyddio a'i gludo o gwmpas, ni fu'r Double Tunneller yn llwyddiant aruthrol, ac felly nid oes llawer o'r twneli yma yn bodoli.
Eglwys Sant Peirio, Rhosbeirio
Un o eglwysi hynafol Ynys Môn sydd bellach yn segur ers dros ugain mlynedd.
Mae'n bosib fod eglwys Gristnogol wedi cael ei sefydlu ar y safle yma mor bell yn ôl a'r 7fed ganrif. Mae awyrgylch llethol o dawel yn perthyn i'r lleoliad arbennig hwn.
Efail Galedrydd, Pen Llŷn
Lleoliad arbennig iawn. Mae bod yna fel camu yn ôl mewn amser.
Mae'r offer a thŵls yn eu lle hyd heddiw, yn union fel yr oedd yn y dyddiau pan fu'n efail, a hefyd yn ysgol Sul a chanolfan y gymuned leol.
Caeodd yr efail ei drysau am y tro olaf yn 1956, gan ddod â thair cenhedlaeth o ofaint yno i ben.
Propelar awyren Dakota
Propelar awyren Dakota a ddrylliwyd ar glogwyn Llyn Dulyn, Y Carneddau, ar Dachwedd 11, 1944.
Fel arfer mae'r prop o dan ddŵr ond roedd i'w weld yn gyflawn yn ystod haf poeth 2021.