Bothies Cymru: Treulio'r noson mewn tŷ mynydd anghysbell
- Cyhoeddwyd
Ydych chi erioed wedi teimlo'r ysfa i ddianc i dŷ carreg anghysbell yng nghysgod y mynydd?
Un sy'n hoff o wneud hynny ydy Gareth Morgan o Riwabon, Wrecsam.
Ac mae hynny'n bosib i unrhyw un gan fod yr elusen Mountain Bothy Association (MBA) yn gyfrifol am ofalu am 105 o dai mynydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Nôl ym mis Awst 2021, ailagorodd MBA 105 o'u cytiau mynydd ar gyfer defnydd 'cyfrifol' ar ôl eu cau yn sgil y pandemig.
Ond lle mae bothies Cymru a beth rydym ni'n ei wybod amdanyn nhw? Cymru Fyw aeth i dyrchu ac i holi Gareth am ei hobi.
Dechreuodd Gareth ymddiddori yn bothies Cymru yn 2015 ar ôl iddo yntau a'i ffrind gorau gerdded wyth awr dros fryniau a chorsydd i dreulio'r noson yn bothy Moel Prysgau. Meddai am y profiad:
"Dyma'r daith waethaf i mi erioed ei wneud a bwriad yr holl waith caled oedd cael treulio'r noson mewn tŷ anghofiedig yng nghanol nunlle! Ar ôl y noson honno dwi wedi aros ymhob bothy yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
"Mae eistedd yno yn y tywyllwch gyda dim ond golau cannwyll yn goleuo'r ystafell yn deimlad arbennig, gan wybod fod popeth rydych chi ei angen am y noson wedi ei gario yno ar eich cefn.
"Hefyd does gennych ddim syniad pwy fydd yn 'mochel efo chi, sydd yn rhan o'r wefr."
Tarddiad y 'bothy'
Daw'r gair bothy o'r gair Gaeleg bothan sy'n golygu tyddyn, cwt neu hofal, neu 'bwthyn' yn Gymraeg. Adeiladau gwag mewn llefydd anghysbell a sydd wedi'u hamddifadu ydyn nhw sydd bellach dan ofal yr elusen Mountain Bothies Association (MBA) ers 1965.
Gwaith yr elusen yw cynnal yr adeiladau er mwyn rhoi cyfle i gerddwyr wneud defnydd o'r cysgod a'r cysur mae bothies yn eu rhoi mewn mannau anghysbell.
Adeiladwyd llawer fel lloches i fugeiliaid a gweithiwyr ystadau yn ystod yr 19ed ganrif, ac o'i gymharu â'r Alban sydd â 90 bothy, dim ond naw o dai mynydd sydd dan ofal yr MBA yng Nghymru.
Moel Prysgau: 'Bothy' cyntaf Gareth
Hen gartref bugail yw bothy Moel Prysgau yng Nghoedwig Tywi. Does dim mynediad i geir yma, ond mae'n gyfle euraidd am lonyddwch a dim byd ond coed tal yn syllu arnoch.
Hoff 'bothy' yng Nghymru
"Y bothy ar droed Arenig Fawr yw un o fy ffefrynnau, sydd ychydig yn rhyfedd wrth feddwl mai dyma'r bothy lleiaf dan ofal yr MBA. Mae mor heddychlon a thawel yno; dim ond un ystafell sy'n mesur tri metr wrth dri metr gyda dau blatfform cysgu a thân agored," eglura Gareth.
Rheolau eu defnyddio
Mae'r syniad yn syml; os yw'r bothy'n wag, mae'n agored i unrhyw un aros ynddo, dim ond eich bod yn parchu'r adeilad, pobl eraill sy'n ei ddefnyddio a'r amgylchedd o'ch cwmpas.
Ond, nid yw noson mewn bothy yn addas i unrhyw un sydd â safonau gwesty pum seren! Peidiwch â disgwyl mwy na tho uwch eich pen ac anghofiwch am dap, sinc, gwely, golau a weithiau, lle tân!
Byddwch angen dod â'r oll sydd ei angen arnoch i gadw'n glyd ac yn saff gyda chi; boed yn ddŵr, coed tân, golau a dillad cynnes.
(Ychydig iawn o'r bothies sydd gyda thoiledau hefyd, felly mae'n werth cofio am hynny, a dod â rhaw gyda chi...!)
'Bothies' Cymru mewn lluniau...
Mae'r tŷ yma a adeiladwyd yn 1880 yng nghanol coedwig hardd ger pentref Ganllwyd, Dolgellau. Mae copa Y Garn, Dduallt a Moel Hafodwen yn gyfagos a dyma ardal afon Mawddach.
Os yn aros yma bydd angen gwisgo'n gynnes gan mai dim ond rhwng Mawrth a Mai y gellir cynnau tanau bychain; ni ellir gwneud o gwbl dros weddill y flwyddyn gan fod yr adeilad yng nghanol coedwig.
Cysgu tri mae'r bothy bychan yma ar lannau'r Grwyne Fawr yn y Bannau Brycheiniog. Rhy fychan i ddod â'ch ci o bosib; mae gwefan yr MBA yn nodi y dylai cŵn fod dan reolaeth llym yma.
Lleolir Lluest Cwmbach uwchlaw Cronfa Craig Goch yng Nghwm Elan. Cafodd ei adnewyddu yn 2013, ac arferai fod yn fwthyn bugail. Rhaid gofyn i'r ystad am ganiatâd i aros yma.
Mae bothy Nant Rhys yng nghanolbarth Cymru, nepell o Bontarfynach. Mae dwy ystafell i lawr grisiau; un yn cynnwys stof, cadeiriau a phlatfformau cysgu. Lloches pwrpasol ar ôl crwydro Mynyddoedd Cambria, un o'r ardaloedd gwyllt, anghysbell olaf yn ne Ynysoedd Prydain.
Tua 15 milltir tu allan i Aberystwyth, ym mynyddoedd y Cambria, mae Nant Syddion.
Tyddyn teulu Isaac a Margaret Hughes oedd yn sefyll ar y safle yma yn 1850 gydag Isaac yn gweithio yn y gwaith plwm cyfagos, Yma y ganwyd quadruplets cyntaf Cymru i Isaac a Margaret. Yn ôl yr hanes trist bu farw'r pedwar baban, bedwar diwrnod ar ôl eu genedigaeth.
Bu farw Isaac Hughes a dau o blant hynaf y teulu dros yr wythnosau canlynol, gan adael Margaret mewn galar creulon. Mae'n debyg mai afiechyd fel typhoid fyddai wedi eu lladd.
Adeiladwyd yr hen ffermdy presennol sydd bellach yn cynnig lloches i gerddwyr, tua 1930.
Mae hen ffermdy Cae Amos yn sefyll rhwng Garndolbenmaen a Chwm Pennant. Mae'r ffermdy dros 200 mlwydd oed a bu'n cael ei ddefnyddio fel lloches i ddringwyr am hanner canrif cyn cael ei adnewyddu a'i ofalu gan yr MBA.
Bothies cudd Cymru
Er mai dim ond naw bothy sydd dan ofal yr MBA yng Nghymru mae ambell hen adeilad gwag arall yn cuddio yng nghysgodion y tirwedd. Ond, dyw'r sawl sy'n ymddiddori ynddynt ddim am ddatgelu'r cyfan. Meddai Gareth am leoliad llun y bothy anhysbys isod sydd yng Nghymru:
"Wel, dim ond o amgylch stof y bothy mae datgelu'r gyfrinach yna. Mae hyd yn oed yr enwau a'r lleoliadau'n cael eu cadw'n gyfrinach mewn grwpiau bothies ar y cyfryngau cymdeithasol."
O, pe bai waliau'n gallu siarad!
Hefyd o ddiddordeb: