Oriel: Dogfennu adfeilion Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae fforio yn hen air sydd wedi dod yn ffasiynol y dyddiau yma i awgrymu chwilota am fwydydd sy'n tyfu'n wyllt.
Ond ers ugain mlynedd mae Dafydd Meurig, sy'n byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn fforio hen adeiladau gwag sydd wedi'u hamddifadu yng Nghymru.
Tra'n chwilota'r adfeilion hyn mae'n eu dogfennu trwy dynnu lluniau er mwyn rhoi darnau o hanes Cymru ar gof a chadw cyn iddynt gael eu dymchwel.
Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Dafydd am ei ddiddordeb mewn fforio hen adeiladau, y peryglon a pheth o'u hanes.
Rhybudd: Ni ddylid copïo y gweithgareddau hyn; maent yn gallu bod yn beryglus a chynnwys tresbasu.
Fforio: Y diddordeb
Fel un a dyfodd i fyny ym Mhorthmadog a phorthladd y dref yn allforio llechi chwarel Ffestiniog a Llanfrothen yn ei dydd, roedd olion ac adfeilion o Gymru ddiwydiannol ar ei stepen ddrws. Ond ym Mryste ac nid yng ngogledd Cymru y dechreuodd Dafydd i chwilota hen adeiladau.
Eglura: "Nes i ddechra' go iawn pan es i brifysgol ym Mryste achos nes i ffeindio pobl oedd yn fforio a chwilio am derelicts yn fan'no, ysbytai, bragdai a ballu. Cyn hynny o'n i'n ymwybodol o lefydd fel Dinorwig a Chwmorthin ond do'n i'm yn mynd yno. Do'n i'm yn 'nabod neb oedd efo diddordeb mewn derelicts a deud y gwir.
Mae Dafydd yn disgrifio fforio fel "mynd i lefydd, adeiladau gan amlaf sydd yn wag a dogfennu beth sydd tu mewn."
Meddai: "Fasa'n gallu bod yn rwla residential fel tŷ hynafol, neu'n hen ysbyty neu'n ysgol neu'n hen stiwdios BBC neu'n be' bynnag sydd wedi ei amddifadu dros amser ac heb ddefnydd erbyn heddiw.
"Mae o wedi dod yn fwy poblogaidd ers y we. Mae 'na lot o ryw forums ac orielau gwahanol yn trafod llefydd ac yn rhannu gwybodaeth. Mae'r ymchwil i mewn i rwla yn rhan o'r hobi.
"Yn bersonol dwi'n licio gwybod mwy am hanes rwla boed o'n hanes lleol, yn hanes diwydiannol neu'n bensaernïaeth a dogfennu'r llefydd fel maen nhw rŵan achos 'wrach bo' nhw am gael eu dymchwel. Mae'n siŵr 'mod i'n teimlo'r angen i ddogfennu'r llefydd yma cyn iddyn nhw ddiflannu."
'Diddori yn y diwydiannau'
Ar ôl graddio o brifysgol Bryste symudodd Dafydd i Gaerdydd gan ddechrau dod i adnabod hanes lleol a diwydiannol Caerdydd. Ac yntau eisoes â phrofiad o fforio adeiladau ym Mryste, roedd yn awyddus i ddarganfod adfeilion diwydiannol de Cymru. Dyma rai o'i gasgliad.
"Mewn dyffryn eitha' cul mi oedd yna byllau glo ymhob cyfeiriad a hwn ydi'r unig strwythur sydd ar ôl sef baddondy i'r glöwyr ar ôl diwrnod o waith."
"Rhyw weithdy prysur yr olwg ydi'r adeilad yn y llun. Ond mae'r holl safle yn anfarth ac yn hyll a dwi'n gutted fod o'n cael ei dynnu i lawr. O'n i'n licio mynd yna rhyw unwaith y flwyddyn i weld sut oedd natur yn cymryd y lle drosodd."
"Strwythur ydi y peth yma. Dio'm yn adeilad go iawn ond yn rhyw dwmffat mawr oedd yn didoli ithfaen. Pan o'n i'n hogyn bach nes i sylwi ar hwn o'r lôn fawr a meddwl 'waw, be' ydy hwnna yn fan'na sydd fatha castall ar Mynydd Gwaith'."
Peryglon
Law yn llaw â'r profiad o fforio hen adeiladau mae peryglon. Er bod Dafydd yn cwestiynu os ydi ei ddiddordeb "yn beryclach na chwarae rygbi neu feicio ar y lôn" mae'n agored am y peryglon mae'n ei wynebu. Dyma rai o'i brofiadau:
"Pob mathau o loriau pren wedi pydru a dwi wedi rhoi fy nhroed drwy lawr pren fwy nac unwaith."
"Asbestos; dydi o ddim yn beryg os nad nad wyt ti'n symud neu chwara' efo fo ond mewn adeilada' sydd wedi cychwyn adfeilio mae yna risg. Mae'n bwysig gwisgo dillad addas a masg respirator."
"Mae baw colomennod 'di sychu yn amlwg iawn a mae ei anadlu'n gallu achosi afiechydon."
Yn ogystal â'r peryglon uchod mae'r risg o gael ei ddal am dresbasu sy'n dramgwydd sifil. Ymateb Dafydd i hynny yw: "Dwi wedi cael sawl copsan. Ges i 'nal yn Ysbyty'r Eglwys Newydd, Caerdydd sef hen ysbyty meddwl.
"Pan wyt ti yn y sefyllfa yna a mae'r security yn gweld bo' chdi ddim yno i ddwyn metel na'n sgwotio ac ond yno achos bo' gen ti ddiddordeb ac isio dogfennu maen nhw yn dweud wrtha' chdi bo' rhaid i chdi fynd, ti'n cael ffrae bach a ti'n gwrando.
"Mae'n bwysig 'mod i yn dangos parch at y lle. Strapline y gymuned fforio ydy take only photographs, leave only footprints."
Adfeilion cymdeithasol
"Yn y 50au a'r 60au roedd llai a llai yn mynd i'r pictiwrs achos o'dd gynnon nhw deledu adra, felly roedd sinemas yn cael eu newid i fod yn neuadda' bingo. Yma maen nhw 'di rhoi ceiling ffug i mewn fel bo' nhw'n gallu troi lawr grisia' i le bingo."
"Fan'ma es i i'r ysgol Sul am 10 mlynedd a roedd dad yn athro ysgol Sul yma. Roedd mynd i fan'ma a gweld yr organ yn hongian a'r seti yn cael eu tynnu yn goed tân yn drist. Dwi fawr o gapelwr ond mae gen i atogfion o gael laff a neud ffrindia' yma. Mae'r dyluniad mewnol i gyd 'di mynd 'wan felly dwi'n hapus 'mod i 'di dogfennu'r lle."
Hen ffatrioedd
"O'n i wrth fy modd yn ffeindio'r hen warws yma tua milltir o nghartra'. Ro'n i wedi clywed ei fod o am gael ei ddymchwel i neud tai a Covid wedi arafu'r gwaith ac o'n i isio ei ddogfennu cyn iddo fynd. Gafodd o ei adeiladu yn y 30au er mwyn 'neud shells i'r fyddin. Mae'r pensarnïaeth yn rili cŵl yn fan'ma i gymharu efo'r llanast oedd lawr grisia'."
Adfeilion unigryw
"Ga'th y byncer yma ei adeiladu yn y 60au yn ystod y Rhyfel Oer a fel lloches rhag ofn y bydda' rhyfel niwclear. Mae 'na le i dri person yn y byncer a wedyn eu job nhw petai 'na ryfal wedi bod fydda reportio pa mor ddrwg oedd yr aer yn Port. Mae 'na un o'r rhain bob wyth milltir ym Mhrydain ond maen nhw yn anodd i'w ffeindio."
Cadw a gwarchod adfeilion
Ar ôl ymweld a dogfennu adfail, mae Dafydd yn teimlo ei fod yn dod i adnabod Cymru yn well "darn bach ar y tro." Ond a yw'n teimlo y dylai rhai o'r adeiladau hyn gael eu cadw a'u hatgyweirio fel bod eraill yn medru eu mwynhau'n ddiogel?
Meddai Dafydd: "Cwestiwn anodd, dwi'n meddwl bod angen sbio ar bob un adeilad yn unigol a meddwl oes 'na unrhyw werth o gadw hwn neu allwn ni droi fo'n rwbath arall. Alli di ddim troi bob dim yn amgueddfa. Hefyd dwi'n eitha licio gweld sut mae natur yn cymryd drosodd eto yn araf deg. Fydd hi'n ddiddorol gweld pa wahaniaeth fydd statws UNESCO yn ei wneud i adfeilion ardal llechi Gwynedd."
Hefyd o ddiddordeb: