'Angen i'r GIG gymryd y Clefyd Celtaidd fwy o ddifri'
- Cyhoeddwyd
Yn haf 2021 fe gafodd Hywel Lloyd o Aberystwyth wybod bod ganddo gyflwr haemochromatosis - cyflwr genetig sy'n gwneud i'r corff storio gormod o haearn.
Yn aml mae'n cael ei adnabod fel y Clefyd Celtaidd am ei fod yn fwy cyffredin ymhlith pobl o dras Gymreig, Gwyddelig, Albanaidd neu Gernywaidd.
Dyma'r anhwylder genetig mwyaf cyffredin yng Ngogledd Iwerddon.
Os nad yw'n cael ei drin gall achosi niwed andwyol i organau wrth i gorff y dioddefwr amsugno stôr ddiangen o haearn.
Ychydig cyn i Hywel, a oedd yn 44 ar y pryd, gael diagnosis roedd ei chwaer Carys wedi cael gwybod bod ganddi hi'r cyflwr.
'Ddim yn awyddus i roi prawf geneteg'
"Fe gafodd hi wybod bod ganddi'r cyflwr wedi iddi gael nifer o brofion preifat ac fe awgrymodd hi'n syth fy mod i'n cael profion - dyw prawf gwaed arferol ddim yn dangos y cyflwr," medd Hywel.
"A do mi ges i ganlyniadau nad oedd yn normal, ond doedd yr arbenigwr na'r meddyg ddim yn awyddus i roi prawf geneteg i fi.
"Ond ar ôl i elusen Haemochromatosis UK anfon gwybodaeth am y cyflwr, perswadiwyd y meddyg bo' fi angen prawf geneteg, ac fe ddangosodd y prawf fod gen i ddau gopi o'r genyn sy'n achosi gorlwytho haearn.
"Roedd hyn yn esbonio pam bod fy lefel ferritin, sef y gorlwyth o haearn, mor uchel. Roedd e dros 1,000 - mae'r lefel arferol rhwng 24 a 336 microgram fesul litr o waed.
"Unwaith i mi gael canlyniad y prawf dechreuodd yr ysbyty fy nhriniaeth o fewn pythefnos, ac ers hynny rwy' wedi derbyn gofal da drwy gael profion cyson i sicrhau fod y cyflwr o dan reolaeth.
"Be' sy'n digwydd dros amser yw bod yr haearn yn cronni yn yr afu ac mae modd i hynny ddatblygu'n cirrhosis neu'n ganser hyd yn oed."
Yn wahanol i'w chwaer, roedd Hywel angen tynnu peint o waed yn gyson am bum mis er mwyn lleihau lefel yr haearn a oedd yn cael ei storio yn ei gorff.
Mae menywod, wrth gael mislif, yn gyffredinol yn gallu ei reoli'n well.
"Fi'n credu i fi dynnu 13 peint o waed i gyd," meddai Hywel.
"Does dim modd cael gwared o'r cyflwr - unwaith mae lefel yr haearn yn y corff wedi'i sefydlogi mae modd cadw'r cyflwr o dan reolaeth ac erbyn hyn dyna yw fy hanes i.
"Doeddwn i ddim yn teimlo'n sâl cynt ond o edrych yn ôl dwi'n meddwl bo' fi wedi blino dipyn - ac yn sicr erbyn hyn dwi'n teimlo'n fwy effro.
"Mae 'na bobl wedi dweud wrtha i hefyd bo fi'n edrych yn well!"
'Anodd cael prawf'
Mae Hywel, cleifion eraill ac elusen Haemochromatosis UK, dolen allanol yn dweud bod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd - meddygon ac arbenigwyr - gymryd y salwch fwy o ddifrif.
"Er nad oes modd gwella o haemochromatosis genetig - mae'r driniaeth yn syml ac yn effeithiol," medd Neil McClements, prif weithredwr Haemochromatosis UK.
"Ond dyw pobl ddim yn gwybod bod ganddynt y cyflwr nes ei bod yn rhy hwyr.
"Mae nifer yn ei chael hi'n anodd i gael profion yng Nghymru.
"Dyw gwasanaethau y GIG ddim yn gyson ac yn aml mae cael prawf neu beidio cael un yn ddibynnol ar god post."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi edrych ar y mater bod diffyg yn nifer y rheini sy'n cael diagnosis o'r cyflwr yng Nghymru ac, yn dilyn trafodaethau gydag ymgynghorwyr, rydym wedi cael sicrwydd bod cleifion sydd â'r symptomau yn cael cynnig profion.
"Ar ôl rhoi diagnosis o'r cyflwr, bydd clinigwyr yn gweithio gyda chleifion i sicrhau bod y driniaeth briodol yn cael ei darparu."
Clefyd 'sy'n gallu lladd'
Un arall sydd yn dweud ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth yw'r Parchedig Gwilym Wyn Roberts o Gaerdydd.
Mae ef wedi bod yn mynd o gwmpas cymdeithasau yn sôn am y cyflwr.
"Dwi wedi cael diagnosis ers ryw 17 mlynedd, a gan bod y lefel ferritin mor uchel roedd yn rhaid i fi dynnu peint o waed bob wythnos am dair blynedd nes bod y lefel yn dod lawr," meddai.
"Mae'n bwysig fod pobl yn ymwybodol bod y fath glefyd yn bodoli gan ei fod yn gallu lladd.
"Mae o'n ymosod ar yr afu ac wrth gwrs mae'n rhy hwyr yn aml cyn i broblemau ar yr afu ddod i'r golwg.
"Wedi i fi gael diagnosis mae'r driniaeth yn Ysbyty'r Brifysgol yn wych - ond bod yn ymwybodol bod y clefyd yn bodoli sy'n bwysig - afiechyd sydd wedi cael ei ganfod yn eitha' diweddar wrth gwrs."
Y symptomau mwyaf cyffredin yw:
blinder neu wendid;
poenau yn y cymalau, yn arbennig yn y dwylo a'r bysedd;
problemau gyda rhyw - colli awydd ac anallu [erectile dysfunction];
problemau mislif mewn menywod - yn afreolaidd neu'n absennol;
problemau seicolegol gan gynnwys digalondid, gorbryder a theimlo'n isel ar adegau.
Yn 1996 cafodd y cyflwr ei ddarganfod gan wyddonwyr ond credir bellach ei fod yn fwy cyffredin na'r hyn a dybiwyd yn wreiddiol.
Mae un ym mhob 113 o bobl yn Iwerddon a'r Alban yn byw gyda'r cyflwr ac un mewn 150 yng Nghymru.
Mae'n cael ei basio ymlaen yn y genynnau rydych chi'n eu hetifeddu gan eich rhieni.
"Mae'n bosib bod dau o fy rhieni yn carriers - 'dan ni ddim yn gwybod," ychwanegodd Hywel Lloyd.
"Dyw'r cyflwr ddim wedi newid llawer ar fy mhatrwm byw ond mae'n bwysig bo' fi ddim yn bwyta gormod o fwydydd sydd â haearn.
"Doeddwn i ddim yn yfed alcohol beth bynnag - ac mae'n bwysig cadw llygad ar y cyflwr drwy gael profion cyson.
"Yr hyn dwi'n gobeithio ei wneud yn fuan yw rhoi gwaed fy hun i helpu eraill - ond yn fwy na dim dwi eisiau i gleifion sydd â'r cyflwr gael sylw teg."
'Wi'n rhoi gwaed a ma' nhw'n ei losgi fe'
Mae Geraint Rees yn byw gyda'r cyflwr ers bron i chwarter canrif.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru ei fod wedi llwyddo i reoli'r cyflwr drwy'r cyfnod yma.
"Ges i symptomau bach yn wreiddiol gyda'r afu, a dyna sut wnaethon nhw gadarnhau bod e gen i," meddai.
"Yr ateb i'r broblem yw rhoi gwaed yn gyson, felly mae'r corff yn defnyddio'r haearn i greu gwaed newydd yn hytrach na'i storio yn y corff.
"Felly trwy gydol y flwyddyn mae 'na gyfnodau pan dwi'n rhoi gwaed, ond yn anffodus does dim modd defnyddio'r gwaed er budd pobl eraill ar hyn o bryd... 'wi'n rhoi gwaed a ma' nhw'n ei losgi fe."
Ychwanegodd y byddai'n dda petai mwy o bobl yn ymwybodol o'r cyflwr, ac yn mynd ati i wneud prawf os ydyn nhw'n profi rhai o'r symptomau.
"Y nod yw cadw lefel ferritin o dan 50. Ma' 'na rai pobl sydd wedi cyrraedd 3,000-4,000, aeth un fi fyth dros 700.
"Ac ar ôl ffeindo mas bod e gyda fi, mae e wedi dod lawr ac wedi aros lawr drwy roi gwaed yn rheolaidd.
"Dwi heb symptomau, mae'r afu'n gweithio'n iawn ac maen nhw'n cadw llygaid yn wych arna i."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022