Gwlad y Cynfasau Gwynion: Bwganod Amlycaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Wrth astudio llên gwerin ysbrydion, yn aml, gwelwn y profiad Cymreig yn cael ei gyfuno ar gam â llên Saesneg neu Brydeinig.
Mae ymchwil newydd gan y Llên Gwerinydd, Dr Delyth Badder, sydd newydd ryddhau ei llyfr cyntaf gyda Mark Norman o'r enw The Folklore of Wales, Ghosts, yn awgrymu bod nifer o elfennau a themâu bwganllyd yng Nghymru yn datblygu ac yn goroesi yn gwbl annibynnol.
Nid yw'r darlun ystrydebol o'r ysbryd mewn cynfas wen i'w weld yn aflonyddu o fewn straeon llên gwerin Cymru mewn unrhyw ffordd ystyrlon.
 phob tebygrwydd, daw un o'r unig enghreifftiau o "ysbryd" mewn cynfas wen o 1904 wrth i'r Fighting Ghost of Tondu ymddangos i ddychryn glowyr Ynysawdre ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yr un flwyddyn a'r diwygiad crefyddol mwyaf yn hanes Cymru ble adroddir wmbredd o weledigaethau rhyfeddol.
Ond felly, os nad y gynfas wen, pa ysbrydoedd sydd i'w canfod yn cyniwair o fewn llên gwerin Gymreig? Dyma gasgliad Delyth o'r rhai o'r straeon hynny.
Busnes Anorffenedig y Meirw
Mae'r math cyntaf yma o ysbryd - yr un sydd â busnes anorffenedig - yn un cyffredin iawn. Weithiau roedd rhyw gam wedi ei wneud â'r ysbryd, neu byddent wedi cuddio trysor neu eitem bwysig tra'n fyw, a'r sefyllfa angen ei gywiro cyn medru gorffwys mewn hedd.
Gwasanaethai'r straeon yma'n aml fel rhybudd o fewn cymunedau gan adlewyrchu gwerthoedd a moesau cyfredol y trigolion, gyda themâu trist a thywyll fel lladrata, hunanladdiad a babanladdiad yn sail iddynt.
Yng Nghorlan yr Ŵyn ar ben Bwlch-y-Rhiwgyr yn Eryri er enghraifft, roedd sôn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fod ysbryd mam oedd wedi lladd ei baban yn ymddangos, a sŵn babi'n crio i'w glywed.
Creaduriaid Arswydus a Drychiolaethau Haniaethol
Safai Cymru ar wahân i'w chymdogion pan ddaw at ysbrydion ar ffurf anifeiliaid.
Canran isel iawn o'r math yma o fwgan sydd i'w canfod o fewn adroddiadau Prydeinig gan The Society for Psychical Research; mewn cymhariaeth, mae oddeutu chwarter o achosion ysbryd Cymru yn greaduriaid, a nifer o'r rhain yn enghreifftiau rhagorol.
Cawn foch yn dawnsio yng Ngwent, twrci cynddeiriog yn Sir Benfro, mulod (ie - mwy nac un!) rhithiol yn Sir Forgannwg, a chathod anferthol yng Ngwynedd!
Yn ogystal, gwelir hefyd ffurfiau haniaethol megis peli neu olwynion tân, pyramidiau neu sfferau bwganllyd, tanau lliwgar rhyfeddol, ffenomenau tywydd goruwchnaturiol, neu ysbrydoedd ar ffurf dyn ond â rhan o'u corff neu ddilledyn penodol ar goll.
Adroddir y delweddau hyn o'r ail ganrif ar bymtheg, gan adlewyrchu ofnau ac ofergoelion personol y werin, gyda'r traddodiad unigryw yma yn parhau hyd heddiw.
Y Ladi Wen
Nos Glangaea', twco 'fala',
Pwy sy'n dod ma's i chwara'?
Ladi wen ar ben y pren
Yn naddu coes ymbrelo.
Cymeriad go ystrydebol sydd i'w gweld ledled Prydain yw'r Ladi Wen. Er hyn, cynrychiolai elfen annatod o lên gwerin Cymreig - o fewn cymunedau sydd yn gymharol brin o ysbrydion, mentrir y bydd Ladi Wen yno'n cuddio'n rhywle.
Er ei bod hi'n bosib cael pleser ei chwmni unrhyw amser o'r flwyddyn, cysylltir yr endid yma'n aml â Nos Galan Gaeaf yng Nghymru - tacteg effeithiol gan rieni i hel plant drwg i'w gwlau!
Rhithoedd y Byw
Nid y meirw'n unig fyddai'n trwblo cymunedau - mae adroddiadau dirifedi o weld ysbrydion y byw, neu'r 'rhith' clasurol.
Yn Hanes Plwyf Llanegryn (1948), adroddai William Davies sut y byddai rhith hen wraig o Gefn-coch-bach yn cael ei gweld gan forwynion Waun-fach wrth iddynt fynd i odro, yn rhodio ymysg meillion cae Llety Dyfrgi yn gynnar yn y bore â hithau dal yn ei gwely'n cysgu'n sownd!
Weithiau, byddai'r ysbrydoedd hyn yn rhagarwydd o farwolaeth.
Ceir enghraifft yng ngwaith y Parchedig William Hobley o 1910, sy'n adrodd sut y bu i ffermwr weld ysbryd dyn yn troedio ochr mynydd yn Arfon.
Gwyddai na fyddai'r dyn hwnnw'n byw yn hir wedi dod wyneb-yn-wyneb â'i rith, ac yn wir, bu farw'r creadur yn y man.
Ysbrydion Rhagargoelus
Ac felly down at un o'r dosbarthiadau mwyaf arswydus o fewn llên gwerin ysbrydion Cymru - ysbrydoedd rhagargoelus.
Yn ogystal â'r argoelion mwy cyffredin sy'n cael eu hadrodd ledled Prydain - gweld robin goch neu golomen, clywed ci yn udo neu dylluan yn sgrechian, neu weld cadno neu fran wen - gallai Cymru frolio llu o ragarwyddion bwganllyd unigryw.
Un o'r motiffau mwyaf enwog a phybyr yw'r gannwyll gorff. Deilliai'r achos ysgrifenedig cyntaf o Lanbadarn Fawr yn 1656, gan ddisgrifio golau goruwchnaturiol fyddai gan amlaf yn teithio o dŷ'r unigolyn anffodus i'r fynwent.
Dywed bod modd dyfalu pwy fyddai'r unigolyn hwn yn seiliedig ar siâp a lliw'r fflam. Adroddir hanes y toili yn gyson hefyd - angladd rhithiol y Tylwyth Teg yn ein llên cynnar, ond yn ymddangos fel gorymdaith bwganllyd mewn achosion diweddarach.
A gwae neb rhag clywed udo'r Cŵn Annwn, cri'r aderyn corff, neu ddolefain bygythiol Gwrach-y-rhibyn! Cofnodir achos o'r Wrach yn 1896 yn dychryn cymdogaeth Llandysul, gan sgrechian ar ei thaith i fynwent eglwys y plwyf, lle y byddai'n diflannu.
Felly, a chithau bellach yn gyfarwydd â rhai o ysbrydion amlycaf Cymru, cymerwch ofal wrth fentro allan Nos Galan Gaeaf yma, da chi...
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2015