Profiadau casglu pwmpenni yn 'fwy poblogaidd nag erioed'

  • Cyhoeddwyd
PwmpenniFfynhonnell y llun, Fferm Forage
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd plannu tua 5,000 o bwmpenni ar un acer o dir

Ar drothwy calan gaeaf, mae sylw diweddar i brofiadau casglu pwmpenni ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi rhoi hwb ariannol i nifer o ffermwyr.

Mae tua 100,000 o bwmpenni yn cael eu tyfu ym Mro Morgannwg, gydag o leiaf pump o ffermydd yn cynnig profiadau o'r fath.

Yn Sir y Fflint mae rhai busnesau yn dweud eu bod nhw'n gallu gwneud £30,000 am bob acer sy'n cael ei defnyddio i dyfu pwmpenni.

Dywedodd Phil Hanley o Mostyn Kitchen Garden yn Nhreffynnon, mae cynnig profiad casglu pwmpenni wedi dod yn ffordd wych o wneud arian ychwanegol.

"Mewn archfarchnad, efallai bod pwmpen yn costio punt neu ddwy, ond mae pobl yn fodlon talu mwy am y profiad o gael bod allan yn yr awyr agored, a chael bach o hwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Phil Handley, mae profiadau o'r fath 'yn ôl mewn ffasiwn'

Ychwanegodd Mr Hanley: "Mae'n pwmpenni ni'n costio rhwng £2 a £10. Os ydi'r pris felly yn £5 ar gyfartaledd, mae hynny'n £25,000 am bob acer o bwmpenni.

"Gyda gwerthiant bwyd a diod ac ati mae hynny'n gallu codi i £30,000.

"Mae profiadau casglu eich hunain yn ôl mewn ffasiwn, o flodau i ffrwythau a llysiau. Roedd o'n boblogaidd iawn yn yr 80au, ond mae'n fwy poblogaidd nag erioed erbyn hyn oherwydd y cyfryngau cymdeithasol."

Ffynhonnell y llun, Fferm Forage
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fferm Forage ger Y Bont-faen yn cynnig profiad o'r fath ers rai blynyddoedd

Eleni yw'r trydydd tro i Fferm Forage ar Stad Penllyn ger Y Bont-faen gynnig profiadau casglu pwmpenni.

Yn ôl Matt Homfray, un o reolwyr y safle, mae'r busnes yn ffynnu, ac mae gwerthiant tocynnau wedi cynyddu 40%.

Dod â ffermio yn 'agosach at y bobl'

"Yn sicr mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan yn y cynnydd yma, ond mae nifer o'r cwsmeriaid yn rhai sy'n dychwelyd.

"Mae'n gallu bod yn ffordd wych i ffermwyr wneud arian, a dyna pam bod mwy a mwy yn troi at gynnig profiadau fel hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru fod y fath yma o arallgyfeirio yn gallu dod â ffermio yn "agosach at y bobl".

"I'r ffermydd hynny sy'n gallu troi at y fath yma o fentrau, mae'n ffordd wych o gynhyrchu rhagor o incwm," meddai.

Pynciau cysylltiedig