Bachgen 13 oed 'wedi lladd ei hun mewn cae' yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod bachgen "hapus, anturus" wedi lladd ei hun mewn cae ger ei gartref.
Fe ddiflannodd Jai Palermo, 13, o bentref Hook yn Sir Benfro ar 22 Ionawr 2020.
Clywodd cwest yn Hwlffordd ei fod yn byw gydag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) a dyspracsia, ac wedi cael trafferthion cysgu ers yn chwech oed.
Dywedodd ei fam, Nia Owen ei fod yn berson "prysur iawn ers yn ifanc iawn" ac yn "fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth, doedd ganddo ddim ofn".
Roedd yn perthyn i'r Sgowtiaid a chlwb caiacio, ac roedd yn bwriadu ymweld â'i dad a mynd allan gyda'i gariad am y tro cyntaf y penwythnos yn dilyn ei farwolaeth.
Marwolaeth 'sydyn heb esboniad'
Yn y cwest ddydd Llun, dywedodd swyddog y crwner, Carrie Sheridan, bod Jai wedi mynd i dŷ ei nain, Sheila Owen, y noswaith cyn iddo farw, ac roedd ei chwaer iau, Lexi, yno hefyd.
Roedd yna "rywfaint o ddryswch" ynghylch trefniadau eu casglu y noswaith honno a oedd yn destun ffrae rhwng Jai a'i fam, felly aeth Lexi adref gyda'u mam ac fe aeth eu nain â Jai adref yn ddiweddarach.
Pan wnaethon nhw gyrraedd y tŷ, fe waeddodd Sheila Owen ei bod wedi gollwng Jai, gan gymryd ei fod wedi mynd i mewn trwy'r drws cefn, ond ni ddigwyddodd hynny.
Ni ddaeth i'r amlwg bod Jai heb fynd i'w gartref nes i'w lys-tad, Ben, ddychwelyd adref tua 19:50. Fe alwodd Sheila Owen ac fe ddaeth i'w amlwg nad oedd Jai yn y naill le na'r llall.
Fe gafodd yr ardal ei harchwilio, gyda chymorth swyddogion heddlu yn y lle cyntaf ac yna gwasanaeth Gwylwyr y Glannau.
Daethpwyd o hyd i gorff Jai am 00:57 ar 23 Ionawr. Dywedodd yr heddlu ar y pryd bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un "sydyn heb esboniad" ond bod "dim byd yn awgrymu trosedd".
'Sioc lwyr'
Disgrifiodd Nia Owen iddi "syrthio i'r llawr" pan gafodd wybod gan yr heddlu bod ei mab wedi lladd ei hun.
"Ro'n i mewn sioc lwyr," dywedodd. "Roedd e mor agos [i'w gartref].
"Plentyn oedd e. Roedd yn hapus, roedd yn cael ei garu, roedd e'n cael popeth."
Dywedodd Nia Owen y byddai ei mab yn "ddistaw ac yn encilgar" pan roedd yn cymryd meddyginiaeth ADHD, ac roedd hi felly yn aml yn lleihau'r dos ar benwythnosau.
Roedd hi wedi sylwi ei fod yn fwy tawedog yn yr wythnosau cyn iddo farw, ond roedd hi'n meddwl bod wnelo hynny â newid yn hormonau bachgen ar ddechrau ei arddegau.
Mynegodd bryder nad oedd "wedi ei addysgu'n briodol" ynghylch sgil-effeithiau posib ei feddyginiaeth.
'Chwiliad brysiog'
Dywedodd PC Spencer Cowper wrth y cwest ei fod yn patrolio ardal Hwlffordd ar noson 22 Ionawr 2020 ychydig cyn 22:00.
Gwelodd Sheila Owen y tu allan i Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston yn chwilio am ei hŵyr.
Dyma pryd y cafodd y gwasanaethau brys wybod fod Jai ar goll.
Dywedodd PC Cowper fod yr achos wedi'i restru fel un brys a'i fod "eisiau boddi'r ardal gyda chymaint o swyddogion â phosib".
Clywodd y cwest sut y cynhaliwyd "chwiliad brysiog" trwy gydol y nos, gan gynnwys ci heddlu i chwilio'r ardal ehangach o amgylch y tŷ.
Yr heddlu 'wedi'u llorio'
Disgrifiodd Gareth Thomas, cyn-arolygydd a ymatebodd i'r digwyddiad hefyd, yr amodau tywyll a niwlog ar noson.
Cafodd cerbydau'r heddlu eu symud o'r tu allan i'r tŷ yn ddiweddarach yn y nos i wneud yr olygfa'n "llai brawychus" pe bai Jai yn dychwelyd, yn ôl Mr Thomas.
Dywedodd Mr Thomas wrth y cwest fod y tîm "wedi'u llorio" ar ôl dod o hyd i gorff Jai am 00:57 ar 23 Ionawr 2020. Yn ôl Mr Thomas roedd "swyddogion yn amlwg mewn sioc".
Mae'r cwest yn parhau.