Bardd y Mis: Pum munud gyda Manon Wynn Davies
- Cyhoeddwyd
Manon Wynn Davies o Lanfairpwll yn wreiddiol ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd yw Bardd y Mis, Radio Cymru.
Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.
Fel merch o Fôn sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ydy'r llefydd hyn yn dylanwadu ar eich gwaith?
Ydi, yn sicr. Dwi'n dal i feddwl am Ynys Môn fel adra, ac mae'r môr a'r dynfa tuag adra yn ddylanwad cyson ar fy sgwennu i. Ond yn ddiweddar dwi wedi sgwennu ambell beth sydd wedi cael ei ysbrydoli gan Gaerdydd; gan y teimlad disglair a dinesig yna sydd i'w gael yma lle mae'r nos yn llawn posibiliadau, a gan y 'wefr o fod yn nabod neb' mewn dinas.
Tueddu i sgwennu am brofiadau sy'n cyffwrdd neu adegau penodol dwi isho eu cofnodi fydda i'n ei wneud gan amlaf, ac mae teithio ac ymweld â llefydd newydd hefyd yn ysbrydoli, yn enwedig os ydw i'n gwneud hynny ar fy mhen fy hun.
Mae barddoniaeth yn beth reit bersonol i mi.
Rydych yn cystadlu yn rheolaidd mewn eisteddfodau lleol ac wedi ennill cadair o Eisteddfod Bodffordd a choron o Eisteddfod Llandegfan.
Pa mor bwysig yw cefnogi eisteddfodau lleol i chi ac a oes gennych hoff atgof eisteddfodol?
Dwi'n meddwl ein bod ni'n lwcus iawn o'n steddfodau lleol ac o'r cyfle i allu anfon gwaith llenyddol i gystadleuaeth dan ffugenw i gael beirniadaeth er mwyn gwella ac i gael gweld lle ydan ni arni.
Mi enillais i'r goron yn Eisteddfod Llandegfan yn 2013, ac mi roddodd hynny gymaint o hyder imi a rhyw gadarnhad bod fy ngwaith i'n da i rywbeth.
Roedd o'n sicr yn sbardun i ddal ati i sgwennu ac i gystadlu.
Mae pawb sy'n fy nabod i'n gwybod fy mod i wrth fy modd efo steddfod, ac felly mae gen i lu o atgofion hapus.
Roedd gweld fy mrawd, Osian, yn ennill y fedal ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yn 2022 yn rhywbeth bydda i'n ei gofio a'i drysori, er enghraifft.
Ond mae 'na un hoff atgof amlwg yn dod i'r meddwl, a hynny pan enillodd un o'n ffrindiau pennaf i, Elis Dafydd, y gadair yn Eisteddfod yr Urdd.
Roeddwn i'n eistedd nesaf ato fo yn y pafiliwn a doedd o ddim yn gwybod fy mod i'n gwybod ei fod o wedi ennill.
Pan ddarllenodd y beirniad y feirniadaeth a datgan ei ffugenw o, mi wasgais i ei ben-glin o cystal â dweud 'dwi'n gwybod, a dwi mor falch ohonat ti'.
Rydych wedi cwblhau doethuriaeth ar farddoniaeth Iwan Llwyd. Pam dewis y testun hwnnw?
Pan ddechreuais i ar fy noethuriaeth yn Aberystwyth, fe rybuddiwyd fi gan sawl un oedd yn ei chanol hi y byddwn i'n casáu'r testun a'r traethawd erbyn y diwedd, ond y gwir amdani ydi fy mod i wedi mwynhau pob eiliad o'r tair blynedd roeddwn i wrthi.
Ac roedd hynny gan fy mod i'n dod i wirioni mwy a mwy ar waith Iwan Llwyd fel roeddwn i'n mynd yn fy mlaen.
Roeddwn i wedi cwblhau traethawd MPhil yn edrych ar farddoniaeth ddiweddar oedd yn ymateb i ryfel ac wedi trafod 'chydig o farddoniaeth Iwan yn y cyd-destun hwnnw.
Roeddwn i wedi cael blas ar ei waith o felly ac yn gwybod am Iwan fel bardd oedd ynghlwm â'r teithiau barddol yn ystod yr 1980au a'r 1990au, yn gwybod am ei deithiau i America ac am ei gyfrolau niferus oedd yn cofnodi cyfnod o newid yn hanes gwleidyddol a diwylliannol Cymru.
Bu farw Iwan yn 2010, a phan soniodd fy nghyfarwyddwr nad oedd yna neb wedi crynhoi ei yrfa lawn a dadansoddi ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg, roeddwn i'n gwybod yn syth mai dyna fyddai testun fy noethuriaeth.
Mae gen i le mawr i ddiolch felly i fy nghyfarwyddwyr, Huw Meirion Edwards a Robin Chapman, am fy annog i ac am yr oriau o sgwrsio difyr. Mi gwblheais i'r ddoethuriaeth yn 2016, a dwi'n dal i wirioni ar farddoniaeth Iwan.
Beth fyddai eich noson ddelfrydol?
Unai gig Cowbois Rhos Botwnnog efo ffrindiau sy'n fodlon dod i'r blaen i ddawnsio efo fi, neu gael y teulu i gyd efo'i gilydd yn nhŷ mam a dad yn Llanfairpwll a chael cyfle i chwarae'n wirion efo fy neiaint bach, Lewys, Nei a Mali.
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Mae'n rhaid imi ddweud Iwan Llwyd yn fama yn does!
Dwi'n teimlo ei fod o a'r to o feirdd gododd yr un pryd wedi profi cyfnod cyffrous o newid yng Nghymru pan fethodd y refferendwm cyntaf dros ddatganoli yn 1979, cyfnod lle roedd yn rhaid i genedlaetholwyr ifanc creadigol ailddyfeisio be' oedd hunaniaeth Gymreig iddyn nhw.
Fe drodd beirdd fel Iwan eu golygon dros y ffin a chael eu dylanwadu gan y Liverpool poets a beirdd Beat America oedd yn adrodd cerddi cyfoes a pherthnasol o flaen cynulleidfaoedd byw.
Dwi'n dychmygu y byddai 'na dipyn o wefr mewn gweld y posibiliadau i farddoniaeth Gymraeg a gweld be' oedd yn digwydd dros y ffin, dod â chriw at ei gilydd a mentro 'be' am i ni roi cynnig ar hyn?'.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Boddi Maes Gwyddno, hengerdd o Lyfr Du Caerfyrddin. Mae hi'n cynnig fersiwn 'chydig yn wahanol o hanes Cantre'r Gwaelod lle mai morwyn o'r enw Mererid oedd yn gyfrifol am foddi'r cantref ac nid Seithennyn.
Mae'r bardd yn melltithio Mererid ac mae hithau'n gweiddi'n orffwyll o ben y gaer. Dwi wrth fy modd efo tywyllwch y gerdd ac mae cymeriad peryglus Mererid yn fy swyno i'n llwyr.
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Dwi'n reit falch o gael cyfnod tawelach dros y misoedd nesaf, â dweud y gwir.
Mae paratoi ambell ddarlith academaidd, sgwennu a gweithio swydd 9-5 wedi fy nghadw i'n rhy brysur dros y misoedd diwethaf.
Dwi'n mynychu gwersi cynganeddu Menter Caerdydd ar hyn o bryd ac mi fydd Talwrn y Beirdd yn ailddechrau cyn hir felly dwi'n edrych ymlaen i ailgydio yn hynny efo tîm Dwy Ochr i'r Bont dros y gaeaf.
Hefyd o ddiddordeb: