Pum munud gyda Bardd y Mis: Aled Evans
- Cyhoeddwyd
Mae'n fis Ionawr ac Aled Evans o Langynnwr yw Bardd y Mis, Radio Cymru. Dyma gyfle i ddod i adnabod bardd mis cynta'r flwyddyn!
Fel brodor o Langynnwr, ger Caerfyrddin, disgrifiwch eich ardal a'i phobl a sut fagwraeth gawsoch chi? Wnaeth hynny eich siapio chi?
Mae Llangynnwr yn ddigon anniben ar un wedd, yn ardal sydd wedi datblygu i fod yn faestref i Gaerfyrddin heb ganol amlwg. Ond wedyn, wrth graffu, mae'n bentref â hunaniaeth ddisglair - ysgol gynradd lwyddiannus sy'n hybu'r Gymraeg, eglwys a'i mynwent yn llawn hanesion difyr a digon o lonydd imi eu rhedeg. Gwneith gartref diddan am y tro. Wedi dweud hynny, un o Gwm Gwendraeth ydwyf a glannau'i ddwy afon sy'n cadw trefn arna' i.
Buoch yn Gyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yng Nghastell-nedd Port Talbot tan yn lled ddiweddar. Sut mae denu plant a phobl ifanc at farddoniaeth?
Rwy'n hoff iawn o gyngor yr artist Paul Klee, take a line for a walk - mydru iaith yw mynd am dro. Ewch â phlant i weld eu byd, fe farddonan' nhw.
Rydych chi yn athro yn Ysgol Farddol Caerfyrddin. Beth yw eich cyngor i'r rhai sy'n dysgu cynganeddu ond heb eto ei feistroli?
Y tric yw taro'r acen.
Chi yw'r capten ar dîm Talwrn Beirdd Myrddin. Beth yw eich hoff atgof o'r Talwrn dros y blynyddoedd?
Roedd cyrraedd y Ffeinal yn 2021 yn brofiad da ac felly hefyd curo Tir Iarll o'r un stabl â ni. Ond gwleddau capel Hermon wedi bennu recordio sy'n aros yn y cof fwyaf.
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Rwy'n edmygu Iorwerth Fynglwyd a'i ddoethineb sy'n parhau trwy'r canrifoedd:
Na chyfeiriwch i foryd
Na dŵr hallt heb fynd o'r rhyd.
Ond un llenor sydd wastad yn llwyddo i gipio'n anadl yw'r nofelydd Hanya Yanagihara. Byddai meddu ar ei dawn hi am ddiwrnod yn rheswm da iawn i gadw'n effro am bob eiliad o'r pedair awr ar hugain.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Yng nghyfnod fy hen-daid, Llafar, (Thomas Roberts, Parc a Dinas Mawddwy, 1865-1942), roedd amaethwyr yr ardal yn arfer ateb llinellau cynganeddol ei gilydd trwy waeddu ar draws y cwm; dyna'u hysgol farddol. Byddai wedi bod yn ddifyr cael bod yn löyn byw ar yr awel honno.
Dyma ddau englyn o'i waith y buaswn yn ddigon balch ohonynt, am addysg!
Camera
Dewiniaeth beiriant dynna dy wir lun
Drwy law un a'i gweithia
Ar len gudd yr arlunia
Sut un wyt yn onest wna.
a hwn wedyn …
Atgof
Egyr ffin y gorphenol i siarad
Ei drysorau mewnol
O eigion oes dwg yn ôl
Wers hanes i'm presenol.
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Dysgu bod yn löyn byw.
Hefyd o ddiddordeb: