WXV1: Awstralia 25-19 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn darfod cystadleuaeth y WXV heb yr un fuddugoliaeth ar ôl cael eu trechu 25-19 gan Awstralia yn Auckland.
Methodd tîm Ioan Cunningham gyfle gwych i ennill am y tro cyntaf yn erbyn y Wallaroos a oedd i lawr i 13 o chwaraewyr yn yr ail hanner.
Roedd Cymru eisoes wedi colli yn erbyn Canada a Seland Newydd yn y gystadleuaeth newydd yma ac ar waelod grŵp WXV1.
Roedd Cunningham wedi pwysleisio mai'r nod oedd sicrhau dechrau da i'r gêm ac roedd yna elfennau addawol i chwarae Cymru wedi'r gic gyntaf.
Ond fe aeth y pwyntiau cyntaf i Awstralia pan diriodd Maya Stewart wedi 16 o funudau.
Tarodd Cymru'n ôl gyda chais gan Carys Phillips wedi 28 o funudau, gan fynd ar y blaen gyda throsiad Keira Bevan.
Ond trwy ddiffyg disgyblaeth a arweiniodd at ildio cic gosb, roedd Cymru unwaith eto ar ei hôl hi pan giciodd Carys Dallinger yn gywir i wneud hi'n 8-7 i'r Wallaroos.
Roedd yna ddiffyg disgyblaeth gan yr ochr arall hefyd - ar ddechrau'r ail hanner fe gafodd blaenasgellwr Awstralia Siokapesi Palu gerdyn coch am dacl uchel ar Jasmine Joyce.
Yna fe gafodd Sera Naiqama ei hanfon i'r gell gosb wrth ildio cais gosb, wedi i sgarmes gwympo i atal Carys Phillips rhag sgorio'i hail gais o'r gêm.
Roedd Cymru nawr 8-14 ar y blaen ac yn chwarae yn erbyn 13 o chwaraewyr yn unig, ond doedd dim modd atal Eva Karpani rhag sgorio ail gais Awstralia wedi 52 o funudau.
Fe lwyddodd y prop i wrthsefyll ymdrechion tri amddiffynnwr i dirio, ond roedd trosiad Dallinger yn aflwyddiannus ac roedd Cymru'n dal ar y blaen o drwch blewyn - 13-14.
Newidiodd Awstralia eu rheng flaen yn gyfan gwbl, ac roedd yna gyfnod o chwarae da gan y ddau dîm cyn i'r Wallaroos lwyddo i droi'r fantol.
Sgoriodd Lori Cramer (67) ac Ivania Wong (72) geisiau i greu bwlch mwya'r gêm - 25-14.
Gyda thri munud ar y cloc, fe diriodd bachwr Cymru, Kelsey Jones yn y gornel, ond doedd dim pwyntiau o'r trosiad wedi i'r bêl daro'r postyn.
25-19 oedd y sgôr terfynol felly yn Stadiwm Go Media Mount Smart, ac roedd yna olygfeydd anffodus ar y diwedd gyda ffrwgwd ymhlith chwaraewyr ar y cae.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023