Cymru yn trechu'r Barbariaid o 49-26
- Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Cymru oedd yn fuddugol brynhawn Sadwrn wedi iddyn nhw drechu'r Barbariaid o 49-26.
Roedd yna ddechrau gwych i Gymru wrth i'r capten Dewi Lake sgorio cais o fewn tair munud ac wedi i Leigh Halfpenny drosi'n llwyddiannus roedd y sgôr yn 7-0.
Ond o fewn rhai munudau roedd yna gerdyn melyn i'r cochion wedi i Adam Beard droseddu.
Wedi 13 munud roedd yna gais i'r Barbariaid (Simione Kuruvoli) ond gan i Nicolas Sanchez fethu â chicio'n llwyddiannus roedd Cymru yn parhau ar y blaen (7-5) ac yna fe lwyddon nhw i ymestyn eu mantais wrth i Tom Rogers groesi'r llinell ac wedi cic lwyddiannus arall roedd Cymru naw pwynt ar y blaen (14-5).
Hanner amser roedd y sgôr yn 21-5 wedi cais arall i Gymru - y tro hwn gan Sam Costelow ac unwaith eto roedd cic Halfpenny yn llwyddiannus.
Ond yn yr ail hanner roedd y Barbariaid wedi cael ail wynt ac wedi i Simione Kuruvoli dirio eto ac i Sanchez drosi roedd y sgôr yn 21-12 ac o fewn dim dau bwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm wedi cais gan Alun Wyn Jones.
Cyn pen yr awr fe ddaeth pedwerydd cais i Gymru (Taine Plumtree) ac roedd y sgôr yn 28-19 ac yna wedi awr o chwarae cais i Aaron Wainwright (35-19).
Cais yna i'r ymwelwyr ond roedd y Cymry ar dân ac fe sgoriodd Kieran Hardy y chweched a'r seithfed cais i Gymru (49-26).
Y Cymry felly yn fuddugol o 49-26.
Yr oedd tri chwaraewr blaenllaw yn ffarwelio â'r llwyfan rhyngwladol ddydd Sadwrn - Leigh Halfpenny a oedd yn chwarae i Gymru ac Alun Wyn Jones a Justin Tipuric a oedd yn chwarae i'r Barbariaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023