Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-0 Sunderland

  • Cyhoeddwyd
PatinoFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gyda hanner awr wedi ei chwarae cafodd Charlie Patino ail gerdyn melyn

Daeth Sunderland i Abertawe yn hyderus a hwythau yn seithfed yn y Bencampwriaeth.

Roedd yr hyder hwnnw yn amlwg iawn yn fuan wrth iddyn nhw anelu at y gôl sawl gwaith a doedd dim un cynnig gan y tîm cartref.

Yna gyda hanner awr wedi ei chwarae cafodd Charlie Patino ail gerdyn melyn gan adael yr Elyrch gyda deg chwaraewr am weddill y gêm.

Daeth cyfle i Abertawe fynd ar y blaen pan gafodd y tîm cartref gic o'r smotyn a hynny yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf ond gwastraffwyd y cyfan gydag ergyd wan gan Jamal Lowe ac Anthony Patterson yn arbed.

Sunderland oedd y tîm cryfaf yn yr ail hanner gyda digon o feddiant ac roedd sawl ymgais i sgorio ond dim un yn cyrraedd y nod.

Jamal Lowe, Abertawe gafodd y cyfle gorau yn yr ail hanner ond fe'i rhwystrwyd gan arbediad ardderchog Patterson.

Yn y munudau olaf roedd Sunderland yn hynod ymosodol ond roedd yr Elyrch wedi addasu yn gampus i chwarae gyda deg dyn gan ychwanegu Ben Cabango i'r amddiffyn.

Roedd y dyrfa ar ymyl eu seddi yn ystod yr wyth munud ychwanegol ac ar y diwedd roedd bloedd o werthfawrogiad am berfformiad y tîm cartref.