Galw am ddeddfu wrth i HSBC gau'r gwasanaeth ffôn Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddeddfu ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod am gau eu gwasanaeth ffôn yn Gymraeg.
Cyhoeddodd HSBC ddydd Mercher fod y banc yn cau'r llinell ffôn iaith Gymraeg yn y flwyddyn newydd.
Mewn llythyr dywedodd y banc "nad oedd yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn", ond fod y galw am y gwasanaeth wedi lleihau dros amser.
Dywedodd Sian Elin Jones, a lansiodd bolisi dwyieithog HSBC yn 1990, fod y banc yn dangos "diffyg parch, diffyg ymroddiad a diffyg dealltwriaeth o'r sefyllfa".
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles y byddai'n trafod y mater gyda Chomisiynydd y Gymraeg, sydd eisoes wedi ysgrifennu at HSBC.
Newyddion 'siomedig iawn'
Wrth siarad ar raglen BBC Dros Frecwast, dywedodd Ms Jones - cyn-uwch reolwr Materion Cymunedol Cymreig y banc - fod y penderfyniad yn "newyddion siomedig iawn".
"S'dim pencadlys gyda HSBC bellach yng Nghymru a dwi'n credu bod hwnna ar fai achos mae'r rheolaeth bellach yn digwydd yn Birmingham a s'da nhw ddim llawer o ddiddordeb yn y Gymraeg na materion Cymreig o gwbl."
Roedd Sian Elin Jones yn rhan o'r tîm rheoli wnaeth sefydlu'r gwasanaeth ffôn Gymraeg yn y 90au.
Galwodd ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddeddfu "er mwyn gallu dangos eu dannedd achos ar hyn o bryd does dim llawer all y comisiynydd wneud".
"Bydden i'n annog pobl i gwyno i'r banc, i'r comisiynydd, i aelodau cynulliad ac aelodau seneddol," meddai.
Mae Cadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith, Siân Howys hefyd o'r farn bod angen deddfu.
Dywedodd fod y penderfyniad hwn yn "brawf pellach bod angen deddfwriaeth fwy cadarn" er mwyn cael hawliau i siaradwyr Cymraeg.
Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru "sicrhau ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol bod rhaid i fanciau a chyrff eraill yn y sector breifat fel archfarchnadoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a chynnig gwasanaeth Cymraeg o'r un statws ac ansawdd a'u gwasanaeth Saesneg".
Bydd y llinell ffôn Gymraeg yn dod i ben ar 15 Ionawr 2024, ar ôl hynny bydd ond modd cysylltu â'r banc yn Saesneg.
Dywedodd HSBC mai ond 22 galwad y dydd y mae'r gwasanaeth Cymraeg yn ei dderbyn, o'i gymharu â 18,000 i'r gwasanaethau Saesneg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023