Gweinidog iechyd Cymru Eluned Morgan yn galw am gadoediad yn Gaza

  • Cyhoeddwyd
Dau blentyn o Balestina yn sefyll mewn rwbel yn Khan Younis, de GazaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dau blentyn o Balestina yn sefyll mewn rwbel yn Khan Younis, de Gaza

Mae gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, wedi galw am gadoediad yn Gaza - yr aelod cyntaf o'r cabinet i wneud hynny.

Mae Mark Drakeford wedi adleisio safiad arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer, gan alw am "saib dyngarol" i ganiatáu cymorth i gyrraedd sifiliaid yn Gaza.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.

Dywedodd Ms Morgan wrth WalesOnline: "Byddai cadoediad ar unwaith yn arbed cannoedd, os nad miloedd, o fywydau diniwed."

Ychwanegodd: "Ar ben hyn, mae'n rhaid i ni alw am ryddhau gwystlon Israel a rhaid i'r byd sefyll gyda'i gilydd i gondemnio ymosodiadau milain Hamas ar 7f Hydref a'r cynnydd mewn ymddygiad gwrth-semitaidd."

'Calonogi' Hamas

Mewn araith ddydd Mawrth, dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn deall galwadau am gadoediad ond nad dyna'r "sefyllfa gywir" ar hyn o bryd.

Dadleuodd y byddai cadoediad yn "calonogi" Hamas sy'n llywodraethu yn Gaza, y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn derfysgwyr, ac y byddai'n gadael eu seilwaith yn gyfan, gan eu galluogi i gynnal ymosodiadau yn y dyfodol.

Mae Syr Keir Starmer yn wynebu ffrae fewnol o fewn ei blaid gan fod nifer o uwch wleidyddion - gan gynnwys Maer Llafur Llundain, Sadiq Khan, ac Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban - wedi galw am gadoediad.

Yn ei sylwadau i WalesOnline, dywedodd Eluned Morgan y dylai Cymru alinio â safiad y Cenhedloedd Unedig sydd wedi galw am gadoediad dyngarol di-oed a pharhaus yn Gaza gan arwain at roi'r gorau i elyniaeth.

"Yng nghanol trasiedi, beth bynnag yw'r hawliau a'r camweddau sy'n gysylltiedig â'r rhesymau dros wrthdaro, dylai ceisio heddwch fod yn egwyddor oesol sy'n llywio ein gweithredoedd ac mae'n rhaid i ni i gyd ddal ar y gred y gall dynoliaeth fod yn drech," ychwanegodd.

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

"Dylai ceisio heddwch fod yn egwyddor oesol," meddai Eluned Morgan

Yn dilyn galwadau Mark Drakeford am "saib dyngarol" dros y penwythnos, dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts ar X, Twitter gynt: "Edrychwch ar y golygfeydd dirdynnol o Gaza.

"Rhowch eich hun yn eu hesgidiau nhw a gofynnwch am faint mae 'saib' yn dderbyniol cyn i ladd plant ddechrau eto.

"Mae Plaid Cymru yn galw am gadoediad."

'Y drasiedi barhaus'

Mae mwy na thraean y gwleidyddion yn Senedd Cymru wedi arwyddo 'Datganiad o Farn' yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza, sydd hefyd yn mynegi "pryder dwys ynghylch y drasiedi barhaus yn Israel a Gaza".

Mae Plaid Cymru yn ceisio ennyn cefnogaeth drawsbleidiol i'r ddadl yr wythnos nesaf ar ôl toriad hanner tymor Senedd Cymru.

Mae'r aelodau hynny sydd wedi arwyddo'r datganiad yn dweud eu bod yn "condemnio'r ymosodiadau ar ddinasyddion Israel a'r arfer o gymryd gwystlon", a'u bod hefyd yn "bryderus iawn ynghylch y bomio a'r gwarchae yn Gaza".

Gaza 26 Hydref 2023Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 1.4 miliwn o bobl wedi ffoi o'u cartrefi yn Gaza, gyda 600,000 ohonynt bellach mewn gwersylloedd y Cenhedloedd Unedig

Maen nhw wedi galw am "ddiwedd ar y gwarchae er mwyn caniatáu cyflenwadau hanfodol i'r ardal".

Nid oes gan y Senedd rôl ffurfiol mewn materion tramor ond gall fynegi barn, ac mae'r datganiad yma'n caniatáu i aelodau unigol ddangos sut maen nhw'n teimlo am yr hyn sy'n digwydd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd.

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar a chyn-arweinydd y Torïaid, Paul Davies hefyd yn cefnogi'r 'Datganiad o Farn'.