'Anghyfforddus' symud swyddfa comisiynydd i adeilad llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog y Gymraeg wedi dweud ei fod yn "anghyfforddus" gyda phenderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i symud ei swyddfa i bencadlys Llywodraeth Cymru.
Dros yr haf cadarnhaodd y comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, y byddai swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin yn cau, a staff yn gweithio o ddesgiau poeth neu adref.
Ddydd Mercher, dywedodd y cyn-weinidog Alun Davies: "Dwi ddim eisiau gweld perthynas cosy gyda'r llywodraeth, dwi eisiau gweld pellter a thyndra rhwng rheoleiddwyr a llywodraeth, mae hynny'n bwysig."
Yn siarad mewn cyfarfod o bwyllgor diwylliant y Senedd, atebodd y comisiynydd "os ydych chi'n edrych ar ein record o ran archwiliadau, byddwch chi'n gweld ein bod yn ddigon parod i roi ein barn".
"Yn y sefyllfa yma o gyni ariannol, mae'n rhaid inni ddefnyddio ein harian i hyrwyddo y Gymraeg ble ni'n gallu," meddai Efa Gruffudd Jones.
O bedair swyddfa i ddwy
Mae'r newid o gael pedair swyddfa i ddwy yn golygu arbedion "o fwy nag £80,000" yn flynyddol yn seiliedig ar y costau presennol, o flwyddyn ariannol 2024-25 ymlaen.
Bydd y comisiynydd yn prydlesu gofod o fewn pencadlys y llywodraeth ym Mharc Cathays, Caerdydd o fis Rhagfyr ymlaen gan ddefnyddio gofod i'w rhannu gyda chyrff sector cyhoeddus eraill.
Ond dywedodd ei bod hi'n "gallu rhoi digon o gamau mewn lle i sicrhau ein hannibyniaeth".
Mae swyddfa'r comisiynydd yng Nghaerfyrddin wedi cau gyda'r staff yn gweithio o adref ond hefyd yn medru defnyddio desgiau poeth yng nghanolfan S4C Yr Egin.
Bydd y swyddfa yn Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd yn cau cyn diwedd y flwyddyn wrth i'r les ddirwyn i ben, a'r bwriad yw cau y swyddfa yn Rhuthun erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Fe fydd y brif swyddfa wedyn yng Nghaernarfon, gyda mwyafrif staff y comisiynydd yn gweithio oddi yno.
Swyddfa'r comisiynydd oedd y corff cyhoeddus cyntaf i gytuno i brydlesu gofod o fewn Parc Cathays, ond mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd nawr yn prydlesu gofod yno.
'Ar wahân'
Wrth ymddangos ger pwyllgor diwylliant y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Efa Gruffudd Jones y bydd ei swyddogion "ar lawr ar wahân i swyddogion Llywodraeth Cymru, a bydd y pasys yn sicrhau na allwn ni grwydro i swyddfeydd ein gilydd".
Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor diwylliant, Delyth Jewell sut y bydd y comisiynydd nid yn unig yn sicrhau annibyniaeth ei swyddfa ond hefyd yn sicrhau ei bod yn cael ei gweld i fod yn annibynnol.
Atebodd y comisiynydd: "Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn union yr un sefyllfa a ni o ran eu bod nhw hefyd yn rheoleiddio Llywodraeth Cymru, ac mae Archwilio Cymru hefyd mewn sefyllfa debyg gyda'r swyddfa yn Llandudno.
"Mae hyn yn drafodaeth yn ein plith ni... dwi'n credu ein bod ni'n gallu rhoi digon o gamau mewn lle i sicrhau ein hannibyniaeth ni."
Dywedodd hefyd bod patrymau gwaith wedi newid ers y pandemig gyda mwy o weithio o adref.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi prydlesu lle yn ei hadeiladau eraill i "bartneriaid yn y sector cyhoeddus" yn cynnwys:
Cyfoeth Naturiol Cymru yn swyddfa Aberystwyth;
Cymorth Cyfreithiol yn swyddfa Merthyr Tudful;
Archwilio Cymru, Comisiwn y Senedd a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn swyddfa Cyffordd Llandudno.
Pan gyhoeddwyd y cynlluniau yn wreiddiol, ymatebodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, bod defnyddio adeilad y llywodraeth yn "ergyd olaf i unrhyw syniad bod y cyrff hyn yn cynnig unrhyw fath o graffu ar Lywodraeth Cymru".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn anelu at wneud y defnydd mwyaf effeithlon o ofod yn ein hadeiladau trwy ei gynnig i gyrff cyhoeddus eraill".
Mae trefniadau prydlesu yn fasnachol sensitif, ychwanegodd.
Nod y llywodraeth yw i 30% o weithlu Cymru fod yn gweithio o'r cartref neu'n agos i'w cartrefi erbyn 2026.
Fel rhan o'i strategaeth, mae'r llywodraeth yn gobeithio "bod yn esiampl" ar gyfer gweithio o bell gyda "dim mwy na 50%" o'i gweithlu yn un o'i swyddfeydd ar y tro.
Ers dod i rym yn 2012, bwriad rôl y comisiynydd, sydd â 45 o staff, yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gosod safonau ar sefydliadau a hybu statws swyddogol yr iaith.
Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth hirdymor, sef Cymraeg 2050, gyda'r uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2020