Ateb y Galw: Siân Reeves

  • Cyhoeddwyd
Siân ReevesFfynhonnell y llun, Siân Reeves

Yr wythnos yma yr actores Siân Reeves sy'n ateb y galw.

Mae Siân wedi ymddangos mewn sawl opera sebon; roedd hi'n chwarae rhan Sally Spode yn Emmerdale, Charlie Wood yn Coronation Street ac Elaine Jarvis yn Eastenders.

Mae Siân hefyd wedi ymddangos ar lwyfan y West End yn Llundain ac roedd hi'n rhan o gast gwreiddiol y sioe Les Misérables yn 1985.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf yw methu fy 'ciw' i fynd ar y llwyfan ar gyfer fy unawd gyntaf 'My old man said follow the van' pan o'n i'n siarad efo rhyw ferched yn bedair oed, yn lle gwrando'n astud. 'Nes i redeg ar y llwyfan yn crïo cyn neidio oddi arno mewn i freichiau fy mam - diolch byth fe 'nath hi fy nal i.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth Llanelli, achos mai dyna'r traeth cyntaf imi fynd iddo ar fy ngwyliau pan o'n i'n fabi - tywod ymhoban a fy nillad yn wlyb, hufen ia, ac yna bwyta rissoles a chips.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson orau i mi ei chael erioed oedd dathliad 25 mlwyddiant Les Misérables yn yr O2. O'n i'n aelod o'r cast gwreiddiol ac 'nathon ni berfformio, ac yna cael parti mawr, roedd hi'n ddiwrnod enfawr ym mhob ffordd.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Siân yn ei dyddiau yn y Rovers Return ar y rhaglen Coronation Street

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cyfeillgar, ymddiriedus a hwyl.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi wastad yn meddwl nôl i'r adeg 'nes i basio fy mhrawf gyrru yn 17 oed. Roedd pawb yn meddwl swni'n methu, ond 'nes i basio rhywsut!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y tro d'wetha' imi grïo oedd yn edrych ar ffilm Nadolig - dwi'n dipyn o sucker amdanyn nhw!

Ffynhonnell y llun, Siân Reeves
Disgrifiad o’r llun,

Siân gyda'i chi, Ronnie

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fy arferion gwaetha' yw brathu fy ewinedd a bod yn fyr-amynedd.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff lyfr yw A Suitable Boy gan Vikram Seith, mae'n lyfr hir ac wedi ei sgwennu mewn ffordd hyfryd - byswn i'n gallu ei ddarllen dro ar ôl tro. Fy hoff ffilm yw The Godfather achos mae o'n wych ym MHOB ffordd bosib.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Mi fyswn i'n caru cael diod efo Richard Burton a gofyn iddo pam ei fod o'n tortured ac yn gaeth i'r ddiod - a trio ei wneud yn hapus.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei dyddiau'n actio ar Emmerdale

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Falle bod pobl ddim yn gwybod fy mod i'n caru darllen llyfrau ac yn hoff o fod ar fy mhen fy hun mewn tawelwch!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Byswn i'n yfed paned enfawr o dê, efo wy a chips a thafell o fara menyn, a dawnsio yn y tŷ i fy hoff ganeuon efo fy mhartner a'r ci, Ronnie.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae gen i lun o fi efo fy mam ar draeth Llanelli, ble 'nath fy chwaer i wthio fi oddi ar y lounger i fewn i'r môr ac o'n i'n meddwl 'swni'n boddi! Dwi'n cysgu ac yn eistedd ar ei glin hi, yn saff wedi'r drama ddigwydd.

Ffynhonnell y llun, Siân Reeves
Disgrifiad o’r llun,

Siân gyda'i mam ar draeth Llanelli

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

James Bond... yn suave a sexy gyda cheir anhygoel, a llwyth o declynau i ddelio efo'r baddies.