Cau canolfan ymwelwyr Canolfan Dechnoleg Amgen yn peryglu swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae 14 o swyddi yn y fantol ger Machynlleth ar ôl i Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) gau ei chanolfan ymwelwyr.
Dywedodd CyDA fod y penderfyniad wedi'i wneud "gyda chalon drom" a'i fod o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys costau rhedeg cynyddol, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr i Gymru ar ôl y pandemig, ac oedi o ran cyllid.
Daw'r newyddion hanner can mlynedd ar ôl sefydlu CyDA mewn hen chwarel yn 1973.
Ers hynny mae'r ganolfan ger pentref Ceinws wedi dod yn adnabyddus ar draws y byd am arloesi yn amgylcheddol ac am ddarparu addysg a chymwysterau ym maes yr amgylchedd.
Roedd y sylfaenwyr gwreiddiol yn bryderus am effaith amgylcheddol tanwyddau ffosil.
Dechreuodd y ganolfan fel cymuned oddi ar y grid, gan arbrofi gydag ynni gwynt a solar fel ffynonellau trydan sydd, yn ôl gwefan y ganolfan, "wedi cyfrannu at "ddatblygu'r systemau masnachol sydd bellach yn ganolog yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd".
Tra bod y ganolfan ymwelwyr wedi cau i ymwelwyr dydd o ddydd Iau, 9 Tachwedd, mae'r ganolfan yn parhau i fod ar agor ar gyfer archebion ymweliadau grŵp fel teithiau ysgol, ac i golegau, prifysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.
Mae gweithgareddau addysgiadol y ganolfan hefyd yn parhau.
Yn ôl datganiad dyw'r penderfyniad ddim yn effeithio ar "Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, y ddarpariaeth o gyrsiau byrion, a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Ddigarbon - gan ganiatáu i'r ganolfan barhau â'i gwaith hanfodol wrth ddarparu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol".
Ond bydd cau'r ganolfan ymwelwyr yn cael effaith ar swyddi - mae 14 swydd mewn perygl ac mae ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal.
Ychwanegodd y datganiad bod "lles staff o'r pwys mwyaf, ac mae CyDA yn darparu cymorth arbenigol i staff yn ystod y cyfnod anodd hwn".
Mae'r datganiad hefyd yn dweud y bydd cau'r ganolfan ymwelwyr "yn caniatáu i CyDA ganolbwyntio ar gryfhau agweddau economaidd hyfyw ar ei gweithrediadau - gan helpu i gyflawni ei genhadaeth o greu a rhannu atebion ymarferol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.
"Mae CyDA yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i'w chynlluniau ailddatblygu ehangach arfaethedig, sy'n cynnwys gwelliannau sylweddol i'r cynnig i ymwelwyr."
'Rydym yn naturiol yn pryderu'
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad fe wnaeth gynghorau Powys a Cheredigion ryddhau datganiad ar y cyd yn dweud eu bod yn "monitro'r sefyllfa".
"Rydym yn naturiol yn pryderu am y cyhoeddiad a'r effaith bosibl ar unigolion a'r gymuned ehangach," meddai arweinwyr y cynghorau sir, Bryan Davies a James Gibson-Watt.
"Mae CyDA yn ased i Ganolbarth Cymru a'i heconomi - a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2014