'Peryg bywyd': Galw am leihau cyflymder A470 Trawsfynydd
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am leihau'r terfyn cyflymder ar ran o'r A470 ger Trawsfynydd yn sgil pryderon am ddiogelwch pobl leol.
Mae'r pentref wedi'i "hollti'n ddau" gan y ffordd, sydd â therfyn o 60mya, a phlant yn ei chroesi i gyrraedd yr ysgol.
"'Dan ni 'di bod yn gofyn am leihau'r cyflymdra ar y darn yma o'r ffordd ers blynyddoedd," medd un cynghorydd lleol, "ac [mae] trio cael ymateb o Gaerdydd fel trio cael gwaed allan o garreg".
"Mae'r cyngor cymuned a'r bobl leol i gyd yn pryderu'n ofnadwy am y ffordd yma."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu data gwrthdrawiadau "yn gyson" er mwyn ystyried yr angen am fesurau ychwanegol.
'10 cyffordd mewn milltir'
Mae'r ffordd yn hynod o brysur trwy'r flwyddyn ac yn brif llinyn cyswllt rhwng y gogledd a Chaerdydd.
"Mewn llai na milltir o ffordd mae gynnoch chi 10 cyffordd," medd y cynghorydd Elfed Powell Roberts.
"Mae tri llwybr cyhoeddus yn croesi'r ffordd."
Ychwanegodd bod sawl damwain "erchyll" wedi bod dros y blynyddoedd, a bod yna alw'n lleol am ostwng y cyflymdra i 50mya o'u herwydd.
"Mae damweiniau'n anorfod ond rhaid i ni 'neud rhywbeth i leihau'r risg yna."
Mae rhai plant lleol yn croesi'r ffordd er mwyn cyrraedd yr ysgol, medd Mr Roberts.
"Os na 'dan ni'n diogelu siwrne ein plant ni i'r ysgol, 'dan ni'm yn gwneud ein gwaith ni'n iawn."
'Ychydig iawn o ymateb'
Mae'r gymuned wedi bod yn galw am ostwng y terfyn cyflymder am "flynyddoedd," ac yn ôl Mr Roberts dyw ymateb Llywodraeth Cymru ddim wedi bod yn ddigon da.
"Fel 'dan ni'n gofyn iddyn nhw ein helpu ni yng Nghaerdydd, ychydig iawn o ymateb 'dan ni'n cael.
"Mae'n eironig braidd efo'r 20mya yma nawr ym mhobman."
Hoffai Mr Roberts weld pont yn cael ei chodi er mwyn i bobl gael croesi'n ddiogel.
"Ga'th pont ei chodi dros nos i Eisteddfod Llanrwst... twnel dan y ffordd, pont dros ffordd, goleuadau - rhaid i arbenigwyr benderfynu hynny, ond 'dan ni angen cefnogaeth.
"Dwi'm isio slofi neb lawr, ond pan mae bywydau pobl yn y fantol rhaid i ni ddefnyddio synnwyr cyffredin."
'Mae'n beryg bywyd'
Ar y stryd yn Nhrawsfynydd roedd 'na groeso i'r awgrym y dylid lleihau'r cyflymdra ar y ffordd gerllaw.
"Mae yn beryg - mae'r cyflymdra yn rhy uchel fel mae o," meddai Gareth Jones.
"Mae isio dod â fo i lawr neu gwneud roundabout yma, 'sa hwnnw'n arafu'r cyflymdra i lawr hefyd."
Ychwanegodd Manon Thomas: "Dwi'n meddwl bod o'n syniad da. Mae na lwyth o junctions yn dod allan i'r A470 ffor' yma, a lot o deuluoedd ifanc yn trio croesi'r lôn a ballu, a cherbydau ffarmio mae'n siŵr."
"Mae'n beryg bywyd," meddai Aron Roberts.
"Mae holidaymakers yn dod mewn a dydyn nhw ddim yn dallt y ffordd... maen nhw just yn tynnu allan o flaen ceir pobl leol 'lly.
"Mae Bronaber just dwy filltir lawr y ffordd, mae honno'n 60mya... gen i blant fy hun reit wrth ochr y ffordd, a mae isio tynnu'r cyflymder yno i lawr hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n trin diogelwch ar y ffyrdd yn ddifrifol iawn ac yn adolygu data gwrthdrawiadau'r heddlu yn gyson er mwyn ystyried yr angen am fesurau ychwanegol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd30 Awst 2023