Strade: Cyngor yn hawlio £230,000 wedi tro pedol Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Gartref wedi rhoi gorau i'r cynllun i gartrefu 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade

Mae cyngor sir yn ceisio hawlio £230,000 o gostau gan y Swyddfa Gartref yn sgil methiant eu cynllun i gartrefu ceiswyr lloches yn Llanelli.

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir Gar, fe dreuliodd staff y cyngor dros 2,700 o oriau yn gweithio ar gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cartref i hyd at 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade.

Mae Darren Price wedi disgrifio'r mater fel "llanast", ac wedi galw ar y llywodraeth i roi mwy o lais i awdurdodau lleol yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod yn ymwybodol o bryderon y gymuned, ond bod "dyletswydd gyfreithiol" i gefnogi ceiswyr lloches.

Mewn cyfarfod o'r cyngor llawn, dywedodd Mr Price y byddai'r awdurdod yn ceisio hawlio bron i £230,000, sy'n cynnwys incwm cofrestru gafodd ei golli o orfod canslo priodasau ar y safle.

Dywedodd bod swyddogion y cyngor wedi cael eu "tynnu o'u prif ddyletswyddau mewn cyfnod ariannol heriol", er mwyn delio gyda "llanast" y Swyddfa Gartref.

"Rydw i wedi dweud yn gyson y dylai llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru fod â rôl ganolog mewn datblygu system Cymru-gyfan ar gyfer gefnogi ceiswyr lloches, yn hytrach na gadael hynny i Lywodraeth y DU sydd yn aml yn gwbl ddi-glem ynglŷn â'r sefyllfa ar lawr gwlad - fel yr ydyn ni wedi ei weld gydag achos Gwesty Parc y Strade", meddai.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n bwysig nad ydi'r adeilad yn aros yn wag am yn hir, yn ôl Mr Price

Dywedodd Mr Price fod arweinwyr awdurdodau lleol Cymru i gyd yn cytuno bod angen un strategaeth glir, a'i fod ar ddeall fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnig o'r fath i Lywodraeth y DU.

Mae perchnogion Gwesty Parc y Strade yn dweud eu bod nhw eisiau ail-agor y gwesty ac adennill ffydd y cyhoedd.

Angen penderfyniad 'cyn gynted â phosib'

Ychwanegodd Mr Price ei bod hi'n bwysig nad ydi'r adeilad yn aros yn wag am yn hir.

"Ar ôl siarad â nifer o bobl yn Llanelli dros yr wythnosau diwethaf, mae hi'n glir fod y bobl leol am weld y safle yn mynd yn ôl i gael ei ddefnyddio fel gwesty, neu yn cael ei ddatblygu i fod yn ased arall fyddai o fudd i'r dref - a hynny cyn gynted â phosib," meddai.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, hefyd wedi dweud y byddai'n ceisio hawlio tua £300,000 o gostau ychwanegol y bu'n rhaid i'r llu ddelio â nhw wrth warchod y safle.

Cafodd nifer o bobl eu harestio mewn cyfres o brotestiadau a gwrthdystiadau ar y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rydym yn ymwybodol o bryderon y gymuned o ganlyniad i gynllun Parc y Strade, sydd bellach wedi ei dynnu'n ôl.

"Mae gan y Swyddfa Gartref ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi ceiswyr lloches fyddai'n amddifad fel arall."

Pynciau cysylltiedig